Cylch Gorwyl Adolygiad Ymarfer Plant wedi ei gyhoeddi

Yn ymateb i gyhoeddiad cylch gorwyl Adolygiad Ymarfer Plant Neil Foden, dywedodd Rocio Cifuentes MBE: 

Er mwyn eglurder a thryloywder, ac i roi sicrwydd am ffocws eang yr adolygiad, rydw i wedi galw mwy nag unwaith ar Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru i gyhoeddi Cylch Gorchwyl Adolygiad Ymarfer Plant Neil Foden. Rwy’n falch bod hyn bellach wedi’i gyhoeddi, a bod manylion y tîm adolygu ar gael i’r rhai sy’n teimlo bod ganddynt wybodaeth bwysig i’w rhannu.”