📣 Cymryd profiadau plant o ofal i ganol y Senedd
Roedd hi’n fraint ar ddechrau’r mis i gyflwyno profiadau pobl ifanc o ofal yn y Senedd fel rhan o arddangosfa arbennig gan ein tîm. Daeth hyn ar ôl misoedd o gydweithio gyda phobl ifanc er mwyn gallu adrodd eu storiau, yn cynnwys criw ‘Hope’ o Gastell-Nedd Port Talbot. Mae rhai o’r datganiadau hynod bwerus o’r arddangosfa yn cynnwys:
🗣️ “Fe es i o fod yn un o naw o blant i’r unig un. Roedd hynny’n anodd.”
🗣️ “Symudais i 5 gwaith – pob tro gyda bagiau du’
🗣️ “Mae fy ngofalwr maeth yn trio gwneud i fi dalu am focsys a bagiau i symud.”
Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad yn y dyfodol agos yn pwysleisio negeseuon pwysig yr arddangosfa ac yn galw am newidiadau i brofiadau pobl ifanc o ofal.
🎥 Gwyliwch fideo o’r arddangosfa yma.
📰 Galw am newid: Adroddiadau a darnau barn
👇 Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi sawl darn mis yma yn amlinellu heriau hawliau plant ac yn galw ar y Llywodraeth i weithredu, yn cynnwys ein hadroddiad blynyddol.
🔗 Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnwys ystod o argymhellion polisi sydd yn hanfodol ar gyfer diogelu hawliau plant yng Nghymru – yn cynnwys rhai ar iechyd meddwl, trafnidiaeth cyhoeddus, a fêpio.
🔗 Ysgrifennodd y Comisiynydd darn i WalesOnline yn tanlinellu y sefyllfa ofnadwy yn wynebu plant a phobl ifanc o ran trafinidiaeth i’r ysgol
🔗 Yn y darn yma i Nation Cymru, mae’r Comisiynydd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi plant a phobl ifanc a’u teuluoedd wrth ystyried lefelau gordewdra yng Nghymru.
🔗 Ac mewn darn arall i Nation Cymru i ddathlu Diwrnod Byd Eang y Plant, mae’r Comisiynydd yn ystyried y brif heriau yn wynebu plant wrth i hawliau plant dathlu eu penblwydd yn 100 oed.
🌍 Dathlu Diwrnod Byd Eang y Plant gydag e-sgol
🎉 Croesawon ni dros 1000 (ie, un mil!) o blant a phobl ifanc fel rhan o ddigwyddiadau arlein gydag e-sgol mis yma, fel rhan o wythnos gwrthfwlio a Diwrnod Byd Eang y Plant. Cafon ni lot o hwyl yn trafod ein hawliau, yn cynnwys cwis interactif.
🗓️ Mae Diwrnod Byd Eang y plant yn cymryd lle ar yr 20fed o Dachwedd pob blwyddyn; diwrnod i ddathlu hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roedd diwrnod eleni yn arwyddocaol dros ben – mae can mlynedd wedi bod ers i’r dogfen cyntaf ar hawliau plant cael ei ysgrifennu gan Eglantyne Jebb, a aeth ymlaen i sefydlu yr elusen Achub Y Plant.
🌈 Ymweliad â ASD Rainbows
☕️ Naethon ni gwrdd â staff, rhieni, a phlant ASD Rainbows wythnos diwethaf fel rhan o ffilm fer rydyn ni’n creu ar brofiadau teuluoedd o frwydro ar gyfer cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ogystal â chynnig darpariaeth pwysig i blant, mae ASD Rainbows hefyd yn helpu a chefnogi teuluoedd trwy broses anodd. Diolch i’r staff arbennig am eich croeso cynnes ac am helpu ni glywed profiadau pwysig.
🏠 Yr Hangout – Hwb iechyd meddwl a lles newydd
❤️ Roedd hi’n wych i fod yn lansiad Yr Hangout, sy’n cael ei redeg gan Platfform yn Y Barri. Mae’n ganolfan gymorth iechyd meddwl a lles ar gyfer bobl ifanc sy’n agor ddydd Llun nesaf. Mi fydd y ganolfan ar agor bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys nosweithiau yn ystod yr wythnos. Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o ganolfannau fel hyn yn agor ledled Cymru fel rhan o ‘Ddull Dim Drws Anghywir’ o ofal iechyd meddwl.