⭐️ Pwysigrwydd gwaith ieuenctid ⭐️
😊 Roedd y Comisiynydd yn falch iawn o gael siarad fel rhan o gynhadledd Gwaith Ieuenctid CWVYS yn gynharach yn y mis.
👏 Roedd yn gyfle i Rocio ddiolch i’r sector am ei gwaith hynod bwysig yn cefnogi pobl ifanc i gael mynediad at eu hawliau, i adlewyrchu’r ffyrdd rydyn ni wedi gweithio gyda grwpiau ieuenctid ledled Cymru i oleuo amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar blant, ac i bwysleisio ei hymrwymiad i barhau i weithio gyda’r sector i gyflawni newid cadarnhaol.
Deddf ADY ‘wedi methu cyflawni ei nôd’
🔴 Mewn darn pwerus i Wales Online, amlinellodd y Comisiynydd rai o’r straeon rydyn ni wedi’u clywed gan rieni sy’n brwydro am y cymorth anghenion dysgu ychwanegol cywir i’w plant. Mae’n cynnwys plentyn heb addysg ffurfiol am 18 mis, a rhieni’n esbonio’r frwydr o symud trwy system sy’n aml yn gymhleth ac yn rhwystredig.
👉 Gallwch ddarllen y darn yma.
🥗🛝 ⚽️ ‘Gwnewch y dewis iach yn ddewis hawdd’
💬 Roedd y Comisynydd yn falch i rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn eu hymchwiliad i atal gordewdra.
✅ Mae angen i ni wneud dewis iach yn ddewis hawdd i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a sicrhau bod ein hysgolion a’n cymunedau yn galluogi cyfleoedd ar gyfer maethiad da ac ymarfer corff i bawb.
🔗 Darllenwch mwy am hyn ar ein gwefan.
🚍 Cyhoeddiad hynod bositif i blant
👏 Croesawodd y Comisiynydd y newyddion hynod bositif am ostyngiad tocynnau bws i blant a phobl ifanc.
“Mae hwn yn gyhoeddiad gwirioneddol positif i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydw i wedi galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant ers dechrau fel Comisiynydd Plant – gan nodi’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar iechyd meddwl a chysylltedd, tra hefyd yn helpu teuluoedd gyda chostau cynyddol a helpu’r amgylchedd. Ac er nad dyma’r drafnidiaeth gyhoeddus am ddim rydw i wedi galw amdano, mae’n gam gwych i’r cyfeiriad cywir a dylid ei groesawu’n gynnes – rwy’n siŵr y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau plant ledled Cymru.”
🏠 Diolch i bawb am fis arall o ymweliadau!
❤️ Diolch i’r holl ysgolion a grwpiau ieuenctid rydyn ni wedi cael y pleser o weithio gyda nhw y mis hwn – am adael i ni glywed eich barn ar bynciau gwahanol, ac am gymryd rhan yn ein gweithdai ar hawliau plant. Maen nhw wedi cynnwys ymweliad ag Ysgol Brynhyfryd sy’n dathlu eu penblwydd yn 150 oed eleni. Dyma i’r 150 nesaf!