⭐️ Llais a chyfranogiad ⭐️
Dechreuon ni’r mis drwy gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb a ddaeth â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o ogledd Cymru gyda’i gilydd ar gyfer gweithdai a thrafodaethau am anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol. Ei nod? Rhoi llais a chyfranogiad plant anabl, a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol wrth wraidd yr holl waith sy’n effeithio arnynt. Clywon ni gyngor arbenigol gan ein harweinwyr gweithdy, trafodaethau gwych gan fynychwyr, a chyflwyniad gwych gan bobl ifanc o St Christopher’s Wrecsam a ysbrydolodd bawb yn yr ystafell gyda’u mewnwelediadau a’u cyngor.
❤️ Diolch i bawb am ddod!
#MyThingsMatter
“Their stories matter, their things matter, they matter” – dyfyniad pwerus o ddigwyddiad pwerus a gynhaliwyd fel rhan o ymgyrch NYAS #MyThingsMatter. Ei neges allweddol oedd pwysigrwydd urddas i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw symud lleoliadau, gan adleisio’r galwadau a wnaeth fy swyddfa trwy ein gwaith diweddar ein hunain.
Byddwn yn parhau i godi’r galwadau hyn gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy gyfarfod gyda phobl ifanc sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mai.
Diweddariad Teithio i Ddysgwyr
Plant yn cael eu gofyn i gerdded bron 6 milltir y diwrnod i’r ysgol
Ffyrdd anaddas i gyrraedd eu haddysg – lonydd tywyll, llwybrau llithrig, dim palmantau
Amlienllodd y Comisiynydd y problemau sylweddol o gwmpas Teithio i Ddysgwyr cyn dadl pwysig ar hyn yn y Senedd ar 25 Mawrth
🔗 Ewch at ein papur safbwynt ar gyfer ein safwynt ni ar y broblem yma, ac i wylio:
-
Fideo o siwrnai ysgol gan aelod o’n tîm
-
Profiadau rhieni
Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru i:
-
Ystyried sut mae modd gostwng trothwyon milltiredd; beth yw union gostau a manteision gwahanol drothwyon?;
-
Adolygu cyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran asesu risg llwybrau cerdded at bwyntiau casglu trafnidiaeth;
-
Archwilio sut mae’r trefniadau presennol yn effeithio’n arbennig ar rai grwpiau o blant, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i blant ag anableddau, y rhai sy’n mynychu addysg Gymraeg, a’r rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim
Barn plant ar doiledau
Beth yw’r rheolau yn eich ysgol?
Sut ydych chi’n teimlo pan chi’n defnyddio’r toiledau yn eich ysgol?
Sut byddech chi’n disgrifio toiledau eich ysgol?
Dyma rhai o’r cwestiynau gofynnon ni i dros 1,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn ein holiadur Mater y Mis mis yma ar doiledau ysgol – ymateb enfawr sy’n adlewyrchu lefel y diddordeb yn y mater hwn.
Byddwn yn dadansoddi’r atebion ac yn cyhoeddi’r canlyniadau fis nesaf. Os ydych chi’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, diolch!
Gallwch ddysgu mwy am ein holiaduron Mater y Mis ar ein gwefan.
Ein panel ifanc a llysgenhadon cymunedol
Cawson ni ddiwrnod gwych gyda’n panel ifanc yn ne Cymru ac ymunodd cynrychiolwyr o’n grwpiau llysgenhadon cymunedol hefyd, gan gynnwys mamau ifanc NYAS; Grŵp merched HOPE gyda phrofiad o ofal; Llysgenhadon Hawliau’r Fro; Mixtup – clwb ieuenctid gallu cymysg, a chlwb o bobl ifanc Dyslecsig o Abertawe. Gweithiodd y grŵp o 20 o bobl ifanc yn dda iawn gyda’i gilydd i rannu eu barn ar ein gwefan newydd, a chymryd rhan mewn gweithdy gan Drafnidiaeth Cymru a gasglodd eu barn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn y prynhawn cawson ni weithgaredd crefft gyda Louise o Craftsea, roedd hwn yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i sgwrsio a dod i adnabod ein gilydd. Edrychwn ymlaen at y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf!
Materion allweddol mewn cyfweliad teledu
Roedd cyfweliad y Comisiynydd gyda rhaglen wleidyddol ITV Sharp End yr wythnos diwethaf yn ymdrin â rhai materion allweddol hawliau plant:
-
Diogelwch ar-lein, a phwyntiau a chodwyd gan gyfres Netflix ‘Adolescence’
-
Trefniadau llywodraethu a goruchwyliaeth sefydliadau crefyddol ar ddiogelu plant, sydd ddim yn ddigonol ar hyn o bryd
-
Pwysau ariannol sy’n wynebu teuluoedd ledled Cymru a sut mae pobl ifanc yn cael eu heffeithio