Ym mis Gorffennaf fe wnaethon ni gynnal ail ddigwyddiad Cymru Gyfan i’r Rhai sy’n Gadael Gofal yng Ngholeg Iwerydd, Llanilltud Fawr.
Roedd tîm o bobl ifanc o ‘Shout Out Group’ Caerffili, ynghyd â doniau creadigol Vibe Experience, wrth law i gofnodi digwyddiadau’r dydd yn y rhaglen ddogfen fer yma. Mynnwch gip arni!
Bu’r tîm hefyd yn gwylio’r bobl ifanc oedd yn bresennol er mwyn i ni rannu sut brofiad yw hi mewn gwirionedd i blant a phobl ifanc symud o fod mewn gofal i fod yn annibynnol.
Gallwch chi ddysgu mwy o’r cyfweliadau! Oherwydd y sŵn yn y cefndir ar y fideo, rydyn ni wedi ychwanegu isdeitlau.
Rydyn ni’n gobeithio mynd allan i gwrdd â’r fforymau rhanbarthol o bobl ifanc yn fuan, er mwyn eu cynnwys nhw yn y cynllunio ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi unrhyw syniadau ynghylch sut gallai digwyddiad y flwyddyn nesaf fod yn well, cofiwch gysylltu ar post@complantcymru.org.uk, neu anfonwch neges drydar at Keith.
Yn gynharach y mis yma, cafodd ein hadroddiad Ar Goll ar ôl Gofal ei gyhoeddi. Mae’n manylu ar brofiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal ac yn edrych ar eu pryderon a’r materion sy’n effeithio arnyn nhw. Gallwch chi ddarllen yr adroddiad yma.