Treuliais fy mlwyddyn cyntaf fel Comisiynydd Plant yn gwrando ar filoedd o blant, pobl ifanc, eu teuluoedd, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw ac amdanyn nhw. Roeddwn i eisiau deall sut gallan ni wella bywydau plant yng Nghymru.
Bydd y data casglon ni fel tîm yn siapio fy ngwaith dros y tair blynedd nesaf.
Isod mae gwybodaeth am beth dywedoch chi, a beth bydda i’n gwneud o ganlyniad