Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru.
Ei swydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru.
Dechreuodd Rocio Cifuentes fel Comisiynydd ym mis Ebrill 2022. Hi fydd y Comisiynydd Plant am saith mlynedd.
Cyn ddechrau fel Comissiynydd, gweithiodd Rocio fel prif weithredwr yr elusen yr Ethnic Youth Support Team (EYST) Cymru. Helpodd Rocio i sefydlu yr elusen yma yn 2005.
Yn ogystal â rhedeg yr elusen EYST, roedd Rocio yn rhan o Bwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd hi hefyd yn gadeirio Cynghrair Ffoaduriaid Cymru.
Mae hi wedi dysgu mewn coleg, wedi gweithio ym maes digartrefedd ieuenctid, ac wedi sefydlu elusen ar gyfer pobl ifanc, yn cynnwys pobl ifanc gydag anableddau, o’r enw Mixtup.
Mae Rocio yn siarad Sbaeneg yn rhugl, ac wedi dechrau dysgu Cymraeg.
Daeth Rocio i Gymru fel ffoadur pan roedd hi’n babi gyda’i rhieni. Roedden nhw’n ffoi cyfundrefn Pinochet yn Chile yn yr 1970au. Yn y fideo yma, mae Rocio yn adrodd ei stori:
Tîm Rheoli Comisiynydd Plant Cymru
Yn ogystal â’r Comisiynydd, mae tîm rheoli’r sefydliad yn cynnwys y pobl yma:
Sara Jermin – Dirprwy Gomisiynydd a Phennaeth Ymgysylltu
Rachel Thomas – Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus
Lina Liu – Pennaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth
Tony Evans – Pennaeth Cyllid
Amanda Evans – Pennaeth Adnoddau Dynol
Bwriad y tîm rheoli yw bod yn agored am unrhyw materion preifat sy’n gysylltiedig â’u gwaith.
Mae Cofrestr Buddiannau, sy’n cynnwys y Datganiadau Buddiant a wnaed gan aelodau o Dîm Rheoli’r sefydliad, ar gael yma.