Ar ddiwedd blwyddyn diwethaf fe ges i’r pleser o fynd i’m trafodaeth ysgol gynradd gyntaf erioed.
Er fy mod i’n clywed plant cynradd yn mynegi eu hunain yn rhugl yn rheolaidd ynghylch materion cymdeithasol ein cyfnod, hwn oedd y tro cyntaf i mi eu gweld nhw’n cael cyfle i wneud hynny mor ffurfiol.
Trefnwyd y digwyddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ac i gyd-fynd â diddordebau’r Coleg ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc, y cynnig a roddwyd gerbron oedd bod ‘Cyfryngau Cymdeithasol yn Anghymdeithasol’.
Cyflwynodd chwe ysgol gynradd dîm o bedwar person yr un ar gyfer y digwyddiad yn Ysgol Gynradd Llysfaen, Caerdydd, ac roedd mwyafrif y plant yn ddisgyblion blwyddyn 6.
Cynigiodd pob tîm ddau fyfyriwr i siarad o blaid y cynnig a dau i gyflwyno’r ddadl yn erbyn.
Yna bu’r holl drafodwyr yn ateb cyfres o gwestiynau heriol gan y gynulleidfa o blant ysgol gynradd.
Fe greodd safon y trafod argraff fawr arna i – nid yr arddull yn unig, ond hefyd y dadleuon cadarn oedd yn cael eu cyflwyno. Roedd y trafodwyr yn dangos gallu i weld y ddwy ochr ac i ddeall a chyflwyno dadleuon cymhleth.
Dyma rai o’r dadleuon sy’n honni bod cyfryngau cymdeithasol yn gymdeithasol:
Soniodd sawl plentyn mewn modd oedd yn ein cyffwrdd ynghylch sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn golygu eu bod nhw’n gallu cadw mewn cysylltiad ag aelodau o’u teulu sy’n byw ymhell i ffwrdd, gan gynnwys tad yn Afghanistan a brodyr a chwiorydd ddau gan milltir i ffwrdd.
Roedd eraill yn dadlau eu bod yn cael cyfle i fod yn ddinasyddion y byd a dysgu a chyfrannu at y byd ehangach. Roedden nhw’n hoffi’r ffaith fod trydar yn gorfod bod yn fyr – maen hynny’n arbed pobl rhag cael eu llethu gan ormod o wybodaeth.
Ar y llaw arall roedd rhai’n dadlau’n angerddol bod cyfryngau cymdeithasol yn anghymdeithasol:
Soniodd rhai plant am aelodau o’r teulu a ffrindiau yn yr un ystafell, ond gyda phawb ar eu ffôn neu eu tabled eu hunain, heb neb yn siarad â’i gilydd.
Roedden nhw’n pryderu bod cyfryngau cymdeithasol yn caethiwo, a bod pobl yn teimlo bod rhaid edrych ar y ffôn yn barhaus.
Roedden nhw’n pryderu am effaith gydol oes negeseuon diofal, angharedig, sy’n cael eu hanfon ar amrantiad, a bod plant ddim yn cael digon o gwsg oherwydd eu bod nhw ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhy hwyr.
Roedd sawl un yn dadlau eich bod chi’n methu disodli pleser corfforol gafael mewn llythyr neu gael cwtsh.
Y dyfarniad
Llwyddodd y trafodwyr i newid meddyliau’r gynulleidfa o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6.
Er eu bod wedi’u rhannu’n weddol gyfartal cyn dechrau’r drafodaeth, erbyn y diwedd roedd dwywaith cynifer ohonyn nhw wedi penderfynu bod cyfryngau cymdeithasol yn anghymdeithasol.
Roedd yn wych gweld plant yn trafod y mater hwn, ond dylai pob cenhedlaeth fod yn mynd ati ar frys i’w drafod.
Fel roedd y plant yn dadlau, fyddwn ni byth yn troi’r cloc yn ôl ar gyfryngau cymdeithasol, ond mae angen i bawb ohonon ni ddysgu rheolau cymdeithasol newydd fel bod modd i’r elfennau cadarnhaol orbwyso’r pethau negyddol.
Mae angen i oedolion ddysgu hyn hefyd – mae plant yn aml yn cael eu hanwybyddu gan rieni sy’n rhoi eu sylw i gyd i’w ffôn.
Er gwaethaf pryderon y plant, fe ges i beth cysur yn y drafodaeth; dyw defnyddio technoleg ddim wedi amharu ar allu’r plant yn y drafodaeth hon i fynegi eu hunain, i ddangos empathi ag eraill, ac i ganolbwyntio ar bwnc cymhleth.
Rwy’n edrych ymlaen at fynd i fwy o drafodaethau fel hyn yn y dyfodol!