Cofio Rhodri: ‘Tad bedydd hawliau plant yng Nghymru’
Mae gan gynifer ohonon ni yng Nghymru atgofion byw a hanesion rydyn ni wrth eu bodd yn eu cofio am Rhodri Morgan, ein Prif Weinidog gynt, a fu farw’n sydyn ar 17 Mai.
Roedd pawb yn ei adnabod wrth ei enw cyntaf yn unig, felly pan ddeffrodd fy ngŵr fi i ddweud wrthyf fi fod Rhodri wedi marw, doedd dim rhaid i mi ofyn ‘Rhodri pwy?’, yn union fel pan ges i fy neffro ganddo yn 1997 a chlywed bod Diana wedi marw.
Ces i ymdeimlad aruthrol o golled ar unwaith.
Yn yr oriau ers hynny, rwyf wedi bod yn myfyrio ar etifeddiaeth Rhodri yng Nghymru, yn arbennig ei etifeddiaeth i blant.
Crynhodd Hywel Dafydd, fy Mhennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, y cyfan mewn e-bost ata i:
‘Mae Cwestiynau cyntaf Prif Weinidog Cymru yn adeilad newydd y Senedd wedi aros yn fy nghof. Bu Rhodri’n cymharu’r Siambr â’r ‘starship enterprise’, gan ei fod ef a’r ACau yn mentro mynd â Chymru i gyfeiriad cwbl newydd. Ac roedd mor fentrus ag unrhyw wleidydd ym maes hawliau plant. Mae pobl yn aml yn cyfeirio ato ag anwyldeb fel Tad bedydd hawliau plant yng Nghymru, a dylem ni fod yn fythol ddiolchgar am ei gyflawniadau.’
Rhodri oedd gwir bencampwr plant Cymru. Mae ei restr o lwyddiannau dros blant yn un trawiadol.
Dan law Rhodri sefydlwyd Comisiynydd Plant i Gymru a’i chrisialu yn y gyfraith, gyda chylch gorchwyl o ddiogelu a hybu hawliau plant yng Nghymru.
Hefyd yn 2000, fe wnaeth fframwaith polisi Ymestyn Hawliau amlinellu cyfres o hawliau i blant a phobl ifanc i dderbyn gwasanaethau cymorth a chyfleoedd, lle bo’n bosibl, yn rhad ac am ddim ac yn ddiamod.
Yn 2004, cadarnhaodd Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau, ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Yn 2009, ychydig cyn gadael swydd Prif Weinidog Cymru, sicrhaodd Rhodri ymrwymiad gwleidyddol i sefydlu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), a basiwyd yn 2011, ac a oedd yn gam radical ymlaen o ran sefydlu dyletswydd ar Weinidogion y Llywodraeth i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau.
Fel comisiynydd plant, mae hyn wedi darparu offer newydd i mi herio a thywys y llywodraeth er mwyn sicrhau bod yr holl gyfreithiau a pholisïau newydd yn cyflawni ysbryd a gofynion hawliau plant.
Mae hefyd yn fodd i blentyn neu sefydliad sy’n gweithredu ar ran plant herio’r Llywodraeth yn gyfreithiol ynghylch ei rhwymedigaethau. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ond mae’r potensial yn parhau – mesur mentrus, ond un sydd i’w groesawu, gan y Llywodraeth.
Yn ogystal â’r ffocws hwn ar hawliau, pasiodd y Cynulliad nifer o fesurau plentyn-ganolog yn ystod cyfnod Rhodri’n Brif Weinidog Cymru.
Un o’r mwyaf arwyddocaol o’r rheiny, a’r polisi roedd Rhodri’n dweud ei fod yn ymfalchïo fwyaf ynddo, oedd y Cyfnod Sylfaen, sy’n caniatáu i holl blant Cymru ddysgu a ddatblygu trwy chwarae yn y meithrin a’r ysgol nes eu bod yn saith oed, yn unol â’r gorau o ran arfer a thystiolaeth rhyngwladol.
Ar ôl ymddeol, bu Rhodri’n fy nghefnogi innau ac eraill yn ein hymdrechion i roi i blant amddiffyniad cyfartal ag oedolion rhag ymosodiadau cyffredin (gwahardd smacio fel mae’n cael ei alw).
Pan fydd y ddeddfwriaeth a addawyd yn dod gerbron yn y tymor Cynulliad hwn, bydd yn gam aruthrol tuag at hybu hawliau plant yng Nghymru ac yn ddatblygiad addas ar y sylfeini a roddwyd yn eu lle gan Rhodri a’i gydweithwyr ar y pryd ym mlynyddoedd cynnar Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ar nodyn personol, Rhodri oedd fy AS, cyn iddo ddod yn Aelod Cynulliad i mi am flynyddoedd lawer, ac fe ges i brofiad uniongyrchol o’r holl briodweddau sydd wedi derbyn sylw ers i ni glywed y newyddion am ei farwolaeth nos Fercher.
Fe’i gwelais droeon yn ymgyrchu, mewn cyfarfodydd neu allan yn y farchnad, yn y parc neu ar y strydoedd.
Roeddwn i’n rhyfeddu at ei allu di-baid i gofio enwau a manylion personol. Roedd fel petai’n nabod y person neu’n gallu creu rhyw gysylltiad â nhw trwy eu gweithle neu eu teulu, pa ddrws bynnag y byddai’n ei guro. Roedd yr un mor gartrefol yn curo drysau fflatiau un ystafell ag mewn maestrefi deiliog. Roedd yn llawn dilysrwydd a chynhesrwydd.
Byddaf fi, fel miloedd o bobl eraill, yn gweld ei eisiau.
Diolch, Rhodri.