Yn rhinwedd fy rôl fel Comisiynydd Plant Cymru, rwy’n helpu i ysgogi newidiadau cadarnhaol a hirdymor i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae gwrando ar blant a phobl ifanc yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn.
Pobl ifanc yw’r arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain a bydd sicrhau y caiff eu cyfraniad pwysig ei ystyried yn rhoi polisïau cryfach a chanlyniadau gwell i ni bob amser.
Roeddwn wedi cadw hyn mewn cof pan wahoddais grŵp o bobl ifanc i ymuno â chyfarfod y Grŵp Cynghori Annibynnol ar ddiwygio’r cwricwlwm.
Rhannodd y bobl ifanc a oedd yn bresennol eu syniadau a’r grŵp ynghylch yr hyn y dylai’r cwricwlwm newydd ei gynnwys.
Yna, aethant ati i gymryd rhan mewn ymarfer datrys problemau i nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith. Siaradodd y bobl ifanc mewn ffordd ddeallus a brwdfrydig am eu syniadau, “hoffwn gael cwricwlwm sy’n nodi fy nhalentau ac yn fy ngalluogi i fagu hyder.”
Roeddent yn onest, “os ydych yn credu nad yw eich athro yn eich hoffi, nid ydych am fod yno, hyd yn oed os ydych yn hoffi’r pwnc.”
A gwnaethant rannu rhai gwirioneddau anghyfforddus, “mae llawer o athrawon yn casáu Bagloriaeth Cymru.”
Roedd y bobl ifanc hyn am gael dewis yn eu dysgu, roeddent am gael y gallu i ddilyn llwybr eu talentau ac roeddent yn ystyriol iawn o ddiben eu dysgu a’u profiadau, “mae angen i’r cwricwlwm sicrhau cydbwysedd rhwng pwy ydw i ar hyn o bryd a phwy hoffwn ei fod.”
Roedd rhai negeseuon yn cyfleu rhwystredigaeth hefyd, “rwyf am gael addysg, nid dysgu technegau arholiad.”
Codwyd rhai pryderon hefyd, “nid wyf am gael fy nghyfyngu i Gymru.”
Bydd y penderfyniadau a wneir ynghylch y cwricwlwm newydd yn cael effaith pellgyrhaeddol ar fywydau plant, ac mae pobl ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o hyn.
Mae plant a phobl ifanc ledled y wlad yn cymryd y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yn ddifrifol iawn: gan gymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau; creu fideos a gwefannau; cynnal pleidleisiau ac ymgyngoriadau.
Mae gan yr holl blant a phobl ifanc o bob lleoliad addysgol, o’r ieuengaf i’r hynaf, lawer i’w gynnig i’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm.
Rhan hollbwysig arall o’m rôl yw hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Rwy’n credu’n gryf y bydd mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’r plant o ran addysg yn diogelu anghenion hirdymor plant a phobl ifanc, ac yn helpu i ddatblygu unigolion iach a hyderus sy’n gallu dysgu a ffynnu.
Rwy’n ffodus gael ymweld â llawer o leoliadau addysg gwych yng Nghymru sydd wedi ymgorffori hawliau plant ym mhrofiad y plentyn o addysg: mae plant yn berchen ar eu hysgol a’u dysgu; ac maent yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Un o nodau ein gweithdy ar gyfer y Grwpiau Cynghori Annibynnol ar ddiwygio’r cwricwlwm roedd i arddangos pa mor bwerus y gall mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant fod a thrwy alluogi mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan a chymryd perchnogaeth dros wneud penderfyniadau, gallwn sicrhau bod ffocws gwirioneddol ar eu hanghenion penodol.
Rydym yn gwneud penderfyniadau mawr ynghylch addysg yng Nghymru a fydd yn cael effeithiau enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc/ Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fod yn rhan o’r penderfyniadau hyn. Byddwn yn gwneud penderfyniadau gwell os byddwn yn gwrando ar yr arbenigwyr go iawn ym maes profiadau plant.
Gallwch ddarllen mwy ar bam dylai hawliau dynol ffurfio sylfaen orfodol, waelodol i’r Cwricwlwm yn y papur hwn.