Os ydych yn chwilio am wersi gyda sgaffaldiau ychwanegol i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Rydym wedi gosod ein hadnoddau o dan egwyddorion perthnasol y Ffordd Gywir i’ch cefnogi chi gydag agwedd egwyddorol at hawliau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein canllawiau Ffordd Gywir i Addysg yma.
Crëwyd rhai o’r cynlluniau gwersi hyn o dan Gomisiynwyr Plant blaenorol.
Bydd yr adnoddau isod yn eich cefnogi i wreiddio CCUHP yn eich ystafell ddosbarth ac yn eich ysgol.
Dull Hawliau Plant: Dull Seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru. Fframwaith i helpu lleoliadau addysg i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i’w holl waith
Cynlluniau gwersi gwrthfwlio – Lluniwyd y cynlluniau gwersi hyn ar gyfer Wythnos Gwrthfwlio 2017, ac mae modd eu defnyddio i archwilio bwlio gyda phob grŵp oed mewn ysgolion cynradd.
Seiberfwlio – Rydyn ni wedi creu adnoddau newydd i helpu plant i arwain y ffordd wrth daclo seiberfwlio yn yr ysgol.
Tlodi Plant – Gall ein hadnoddau helpu ysgolion i asesu cost eu diwrnod ysgol, ac amlygu ffyrdd o helpu teuluoedd.
Fi yw Fi – Rydyn ni wedi gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc ar ein prosiect ‘Fi yw Fi’ i fynd i’r afael â stereoteipiau. Yn y gwersi hyn bydd disgyblion yn archwilio hunaniaeth.
Adnodd Pontio’r Cenedlaethau – Mae’r adnodd hwn yn annog ysgolion cynradd i sefydlu clybiau pontio’r cenedlaethau eu hunain gyda chynllun gwers, a chyfres o fideos.
Prosiect Gwyrdd-droi (yr amgylchedd) – Mae prynu gwisg ysgol newydd bob blwyddyn yn rhoi straen ar sefyllfa ariannol teuluoedd. Mae ein hadnodd yn helpu plant i ddeall effaith amgylcheddol creu dillad, ac yn eu helpu i gynllunio’u siopau eu hunain ar gyfer cyfnewid gwisg ysgol.
Prosiect Pleidlais – Er nad yw plant o dan 16 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael eu clywed a’u cymryd o ddifrif (Erthygl 12). Efallai y bydd plant yn teimlo bod rhai o’u hawliau’n cael eu gwrthod ar hyn o bryd, neu efallai eu bod yn angerddol am fater penodol ac eisiau gwneud newid. Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn y dosbarth.
Gwneud Gwahaniaeth – Gwneud gwahaniaeth: Mae canllaw person ifanc ar weithredu yn helpu pobl ifanc i godi eu llais am y materion sydd o bwys iddynt.
Perthnasoedd Cadarnhaol – adnodd yw AGENDA i helpu i ddysgu plant am berthnasoedd cadarnhaol, ac am faterion fel cydsyniad, parch a chydraddoldeb.
Dechreuir pob gwers â’r gân “Mae Gennym Hawliau”. Mae’r gân hon yn archwilio hawliau plant ac yn trafod y pethau sydd eu hangen ar blant er mwyn tyfu i fyny’n hapus, iach a diogel.
Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd y gân gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 am Ysgol Gynradd Creigiau.
Mae’r gân yn ffordd wych o agor pob gwers ac yn rhywbeth y bydd y disgyblion yn ei adnabod. Awgrymwn fod eich dosbarth yn canu’r gân mewn cylch, gyda chi yn arwain ar symudiadau (efallai y byddwch am ddefnyddio Arwyddion Makaton).
We use cookies on our website to improve user experience. For full details please see our Privacy Policy. Click ALLOW if you’re happy for us to do this. You can also choose to disable all optional cookies by clicking DISABLE.