Diwrnod Plant y Byd 2021: Erthygl 22
Mae’r adnoddau hyn yn addas i ddisgyblion uwchradd a disgyblion cynradd.
Ymunwch â ni drwy ddathlu Erthygl 22 ‘Os wyt ti’n ffoadur (refugee), mae gennyt ti’r un hawliau ag unrhyw blentyn arall yn y wlad’ ar Ddiwrnod Plant y Byd.
Rydyn ni wedi paratoi’r adnoddau isod i chi ei ddefnyddio, gan gynnwys cyflwyniad ar gyfer gwasanaeth, bydd yn helpu’ch ysgol ystyried sut rydych chi’n croesawu a chefnogi ffoaduriaid yn eich cymuned.
Cyflwyniad ar gyfer Gwasanaeth
Llyfrau
Llyfrau defnyddiol ar gyfer hawliau plant
GYDA’N GILYDD: Creu cyngor ysgol uwchradd gryf sy’n cynrychioli pawb
Rydyn ni wedi creu’r adnodd hwn i helpu pob grŵp o bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd gan gynnwys cyngor ysgol.
Dull Gweithredu Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru
Fframwaith sy’n helpu athrawon, ac addysgwyr eraill, rhoi hawliau plant ar ganol eu gwaith.
Cynllun gwers Gwrthfwlio
Pwrpas yr adnodd hwn, a ddatgblygwyd ar y cyd gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, yw helpu ysgolion i archwilio y mater o fwlio yn eu hysgolion.
Seiberfwlio
Rydyn ni wedi creu adnoddau i helpu plant arwain ar daclo seiberfwlio yn yr ysgol.
Tlodi Plant
Mae ein hadnoddau yn helpu ysgolion asesu cost eu ‘diwrnod ysgol’, ac i nodi ffyrdd gallen nhw helpu teuluoedd.
Gwisg Ysgol
Mae prynu gwisg ysgol newydd pob blwyddyn yn rhoi straen ariannol ar deuluoedd. Mae’n hadnodd yn ysbrydoli pobl ifanc i greu cynllun ail-ddefnyddio gwisg ysgol.
Perthnasau Iach
Pwrpas Agenda yw i fynd i’r afael â materion fel anghydraddoldeb rhywiol, trais ar sail rhyw, ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion.
Ysgol eich breuddwydion
Beth sy’n ‘neud ysgol wych? Sut allech chi creu’r ysgol orau erioed?
Gweithgaredd sy’n helpu plant feddwl am hawliau unigol a’u effaith ar ddisgyblion.
Her Cymunedol Bagloriaeth Cymru
Rydyn ni wedi datblygu Her Cymunedol ar gyfer dysgwyr Bagloriaeth Cymru
Poster Hawliau Plant
Gallwch ddefnyddio’r poster yma yn eich ysgol i arddangos holl hawliau’r CCUHP.
Ugain Tips
Ugain syniad defnyddiol ar gyfer cyflwyno hawliau plant yn eich ysgol.
Pecyn Symbolau CCUHP
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys pecyn o gardiau a phoster i’ch helpu i addysgu disgyblion am eu hawliau.
Adnodd Pontio’r Cenedlaethau
Hoffech chi archwilio creu prosiect pontio’r cenedlaethau yn eich ysgol chi? Rydyn ni wedi creu cynllun gwers a fideos i’ch ysbridoli.
Taclo Islamoffobia
Mae’r adnodd yn cynnwys tair cynllun gwers, a ddyluniwyd ar gyfer ysgolion uwchradd, i’w helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Islamoffobia, i daclo cysyniadau negyddol, ac i gyflwyno profiadau go iawn Mwslimiaid ifanc yng Nghymru.
Cyflwyniad hawliau plant/Comisiynydd Plant Cymru
PowerPoint i gyflwyno hawliau plant a rôl Comisiynydd Plant Cymru.
Cynllun Gwers Cyfnod Allweddol 3
Cynllun gwers i gyflwyno hawliau plant a rôl y Comisiynydd i bobl ifanc Cyfnod Allweddol 3.
Cynllun Gwers Cyfnod Allweddol 4
Cynllun gwers i gyflwyno hawliau plant a rôl y Comisiynydd i bobl ifanc Cyfnod Allweddol 4.
Fi yw Fi
Mae’r adnodd hwn yn dangos sut y gall plant a phobl ifanc ledled Cymru ddathlu eu hunaniaeth.
Llesiant yn eich Ysgol
Mae’r adnodd hwn yn dangos sut gall eich ysgol gefnogi llesiant eich disgyblion.
Camu Allan
Mae Camu Allan yn weithgaredd cyfranogol sy’n archwilio pam mae gan blant a phobl ifanc hawliau.