29 Ionawr 2019
Ddylai hawliau plant ddim bod yn rhywbeth opsiynol, yn ychwanegiad, nac yn rhywbeth fyddai’n braf; dylen nhw fod yn rhan ganolog o gwricwlwm newydd Cymru.
Yn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth ar y cwricwlwm newydd, dywedodd Sally Holland:
“Rydyn ni’n gwybod bod addysgu a chofleidio hawliau plant mewn lleoliadau addysg yn gallu amddiffyn plant rhag niwed, yn gallu cael effeithiau cadarnhaol ar gyfraddau gwahardd, yn gallu galluogi plant i chwarae rhan weithredol a chanolog yn eu hysgolion a’u cymunedau ehangach, ac yn gallu galluogi plant i barchu hawliau dynol pobl eraill. Ddylen nhw ddim bod yn rhywbeth opsiynol, yn ychwanegiad, nac yn rhywbeth fyddai’n braf; yn hytrach nhw ddylai ffurfio craidd addysg yng Nghymru. Mae angen i hawliau gael eu gwireddu ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth Cymru yn colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wireddu hawliau plant yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn dysgu am eu hawliau ac yn eu profi, mae’n rhaid i’r fframwaith deddfwriaethol gynnwys dyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Nid yw’r cynigion cyfredol ar gyfer deddfwriaeth newydd yn cynnwys y ddyletswydd hon. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y llywodraeth i amddiffyn a hybu hawliau plant. Fel arall, byddan nhw’n parhau’n rhywbeth opsiynol, yn ychwanegiad, ac yn rhywbeth fyddai’n braf i blant yng Nghymru.
“Mae’r cwricwlwm newydd yn gyfle cyffrous i Gymru ddatgan ymrwymiadau newydd, perthnasol i blant a phobl ifanc ar hyd eu haddysg, ac mae llawer yng nghynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer fframwaith deddfwriaethol newydd sy’n galonogol iawn. Gallai’r cynigion hyn osod sylfeini cwricwlwm sy’n cefnogi datblygiad cyfannol plant, ac sy’n cynnwys eu llesiant. Ond er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd, a bod anghenion tymor hir plant yn cael eu diogelu, mae angen i Lywodraeth Cymru gynnwys ymrwymiad i’w hawliau dynol.
“Mae hawliau dynol plant yn cwmpasu eu hanghenion hanfodol. Maen nhw’n cynnwys yr hawl i dderbyn addysg sy’n eu helpu i gyflawni eu potensial a thyfu i fyny gyda phopeth mae arnyn nhw ei angen i fod yn iach ac yn ddiogel. Mae angen i blant ddysgu am eu hawliau fel eu bod nhw’n gallu eu perchnogi a chodi llais wrth dderbyn triniaeth annheg. Mae angen i blant ddysgu am hawliau er mwyn parchu hawliau dynol pobl eraill, yn awr ac yn y dyfodol. Hefyd, dylai plant fod yn dysgu mewn amgylchedd sy’n parchu eu hawliau. Mae hynny’n golygu eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel, yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau, ac nad ydynt yn wynebu camwahaniaethu.
“Yr unig ffordd o wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru yw ei gynnwys yn y gyfraith a fydd yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Heb hynny, bydd anghysondebau go iawn o ran sut mae plant yn dysgu am eu hawliau ac yn cael budd ohonynt.
“Fel yr esboniais yn fy mhapur safbwynt byddai hynny’n golygu bod y cwricwlwm newydd yn cyd-fynd â’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i hawliau sy’n rhan o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, fel bod darpariaethau CCUHP yn cael eu cymhwyso i addysg pob plentyn. Ni fydd cynnwys y ddyletswydd hon yn creu unrhyw oblygiadau cyfreithiol i athrawon unigol. Yn hytrach, mae’n ffordd o alw cyrff perthnasol i gyfrif, er mwyn i ni ddatblygu newid diwylliant sy’n golygu bod rhaid cydbwyso hawliau plant a phobl ifanc â’r adnoddau sydd ar gael wrth lunio penderfyniadau a pholisïau.
“Fydd hyn ddim yn rhywbeth anodd ei weithredu. Mae llawer o ysgolion ledled Cymru yn rhagori yn eu gwaith hawliau plant, a byddant yn gallu rhannu eu harbenigedd er budd i ysgolion eraill a’u disgyblion.
“Rwy’n annog y Llywodraeth i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiogelu anghenion tymor hir plant trwy gynnwys ymrwymiad clir i’w hawliau dynol yn y ddeddfwriaeth newydd. Byddaf finnau’n parhau i geisio sicrhau hyn wrth i’r cynigion ddatblygu ac wrth i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu fod yn destun craffu.”