29 Ebrill 2019
Mae cyfleoedd i bobl o wahanol oedran ddod ynghyd a chreu cyswllt mewn ffordd sy’n golygu rhywbeth yn holl-bwysig i gryfhau ein cymunedau a phontio’r cenedlaethau.
Dyna’r neges ar y cyd i Gymru gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar Ddiwrnod Ewropeaidd Pontio’r Cenedlaethau (Ebrill 29).
Mae’r diwrnod, a sefydlwyd yn 2008 ac sy’n cael ei gefnogi ar draws Ewrop, yn hyrwyddo manteision cynlluniau a gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn annog gwleidyddion a’r rhai sy’n llunio polisïau i ystyried beth y gallant ei wneud i bontio mwy rhwng y cenedlaethau.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ers i mi ymgymryd â’r swydd yr haf diwethaf, rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau ledled Cymru ac wedi gweld drosof fy hun y manteision sy’n deillio ohonynt i bawb sy’n cymryd rhan.
“Ond mae’r mathau hyn o brosiectau hefyd yn dod â manteision ehangach a gallant chwarae rhan allweddol yn helpu i fynd i’r afael â materion fel rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran a gwneud ein cymunedau yn fwy ystyriol o bobl hŷn, rhywbeth sydd o fudd i bobl o bob oedran.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, rydym wedi gweld ein cenedlaethau hŷn ac iau yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd, yn fwyaf diweddar mewn adroddiad gan Dŷ’r Arglwyddi, ac mae arwyddion fod dicter rhwng y cenedlaethau ar gynnydd efallai. Dyna pam mae hi mor bwysig cryfhau’r syniad o bontio’r cenedlaethau a dod â phobl o genedlaethau gwahanol at ei gilydd er mwyn i ni allu dysgu gan ein gilydd, gweithio gyda’n gilydd, herio pob myth a stereoteip a dathlu’r holl bethau sydd gennym yn gyffredin, y pethau sy’n ein huno ni gyd.”
Meddai Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland:
“Mae’n bwysig cofio mor fuddiol y gall hi fod i’n plant i dreulio amser gyda phobl hŷn, ac i’r gwrthwyneb. Rydw i wedi gweld llawer o ysgolion yn sefydlu grwpiau pontio’r cenedlaethau dros y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw’n cael cymaint o hynny. Mae’r grwpiau hyn yn dod â
chartrefi i’r rhai â dementia yn fyw drwy chwarae, dawns a chân plant, neu efallai mai’r cyfan a wneir fydd darparu lle i bobl hŷn a phobl ifanc sgwrsio, rhannu sgiliau a chwarae gemau bwrdd. Rwy’n falch fod y Comisiynydd Pobl Hŷn a minnau wedi chwarae rhan yn helpu i annog sefydlu’r grwpiau hyn drwy ein hadnodd ar y cyd ar gyfer ysgolion a chymunedau.
“Yn ogystal â bod yn gyfle i sefydlu perthynas, i blant mae’r mathau hyn o weithgareddau hefyd yn hybu eu sgiliau cyfathrebu, yn eu helpu i ddysgu doniau newydd a datblygu’n aelodau hyderus a gwerthfawr o gymdeithas – rhinweddau a fydd yn rhai buddiol iawn iddynt am weddill eu bywydau.
“Mewn cymdeithas lle mae rhaniadau wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod proses Brexit, gall grwpiau pontio’r cenedlaethau fod yn hafan fach sy’n ailgodi’r pontydd rhyngom, lle’r ydym yn sylweddol fod gennym fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu.”
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod disgwyliadau clir ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gynnwys pobl ym mhob penderfyniad perthnasol. Dylai gweithio gyda chymunedau a chenedlaethau o bob oedran fod wrth galon gwaith llunio polisi yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth yn dweud bod rhaid inni wneud penderfyniadau sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
“O gynnal cyfarfodydd bord gron ar sgiliau pontio’r cenedlaethau, yn cynnwys mentora o chwith yn ein hacademi arweinyddiaeth cenedlaethau’r dyfodol ac ymweld â mudiadau ieuenctid ac ysgolion, rydw i bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gymell gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau.
“Rwy’n galw ar bob corff cyhoeddus i chwilio am ffyrdd arloesol o annog a chefnogi gwaith sy’n pontio’r cenedlaethau – un enghraifft o hyn yw’r rhaglen i bontio’r cenedlaethau yng Ngwent, ‘Ffrind i Mi’, lle mae’r celfyddydau a diwylliant yn cael eu cynnwys yn y gweithgareddau. Mae ein nod o greu Cymru o gymunedau cydlynus yn golygu sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi pobl o bob oed, ac yn creu mannau lle gallwn greu perthynas â’n gilydd. Rydym yn gwybod bod gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau yn cyfrannu at fyw bywydau iachach ac at gael cymunedau mwy diogel.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu prosiect neu weithgaredd pontio’r cenedlaethau, mae rhagor o wybodaeth ac amrywiaeth eang o adnoddau ar gael o hyb #CenedlaethauYnghyd, adnodd a lansiwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Comisiynydd Plant yn 2017.