Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy wrando ar eu syniadau, siapio eu gwaith yn ôl eu hadborth, a thrwy gydnabod a hyrwyddo eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Dyma crynodeb o ddarnau arbennig o waith sy’n digwydd ledled Cymru.
Os ydych chi eisiau cyngor neu cymorth ar waith eich sefydliad chi gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch gyda ni.
Aneurin Bevan
Ym mis Ebrill 2019, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y bwrdd iechyd cyntaf i ymuno â Siarter Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc, a gwobrwyd hwy yn ddiweddar gan y Prif Weinidog gyda Nod Cutan Cyfranogiad Cenedlaethol Plant.
Mae nhw’n archwilio cyfleoedd i gyd-weithio â fforymau ieuenctid lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd ar draws dalgylch y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys grŵp ieuenctid sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Serennu Casnewydd, a Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol.
Mae Aneurin Bevan wedi sefydlu Fforwm Hawliau a Chyfranogaeth Plant, ac wedi trefnu bod y staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer hawliau plant.
Yn ogystal â hyn, mae Aneurin Bevan wedi bod yn gweithio i ddarparu cynnig dadleuwriaeth mwy cyffredinol i blant a phobl ifanc o fewn lleoliadau iechyd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Panel Ymgynghorol Ieuenctid Bae Abertawe yw BAYouth. Sefydlwyd y Panel, sef ABMYouth gynt, yn 2017 ac mae’n cynnwys rhyw 20 o bobl ifanc. Maen nhw’n cyfarfod yn fisol ac mae ganddyn nhw lawer o lwyddiannau i’w rhannu, gan gynnwys eu gwaith ar yr ‘her 15 cam’, lle buon nhw’n ymweld â lleoliadau iechyd gwahanol o gwmpas ardal y bwrdd iechyd i weld pa argraff mae pobl ifanc yn ei chael yn eu 15 cam cyntaf i mewn i’r lleoliadau hynny. Mae aelodau o’r Panel yn rhan o baneli cyfweld sy’n recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol.
Siarter Hawliau Plant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gynt) oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf i ddatblygu Siarter Hawliau Plant, yn 2017. Bellach, maen nhw’n datblygu fersiwn ddarluniadol o’r siarter ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Mae gwaith Ieuenctid y Bae (Bay Youth) yn cynnwys y canlynol:
- Adroddiad ar wasanaethau pediatrig yn Ysbyty Treforys
- Bod yn rhan o’r panel cyfweld a chael llais cyfartal ynghylch penodi aelodau newydd o staff
- Galw am linell gymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ac arwain at sefydlu’r llinell honno.
- Gwaith yng nghyswllt poster gofal pediatregol
- Adolygu’r Siarter Hawliau Plant
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cyhoeddodd y bwrdd iechyd Siarter Hawliau Plant ar ddiwrnod Byd Eang y Plant 2018.
Mae’n nodi yr addewidion mae’r bwrdd yn gwneud i bob plentyn a pherson ifanc sy’n defnyddio ei wasanaethau, ac yn eu cysylltu gyda hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae ganddyn nhw Bwrdd Ieuenctid actif, gyda 30 person ifanc gydag amrywiaeth eang o brofiadau a chefndiroedd.
Mae eu gwaith yn cynnwys dylanwadu ar ddulliau ymgynghori â chleifion, cyfweld â staff, a chyfrannu at welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Darllenwch astudiaeth achos Caerdydd a’r Fro.
Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu un ffordd y maent yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc i leisio’u barn (Erthygl 12) o fewn ysbyty Glan Clwyd.
Mae’r fideo’n dangos sut mae nhw’n defnyddio ‘Pump Uchel Pump Isel’ i roi’r cyfle i blant lleisio eu barn tra’n aros yn yr ysbyty. Mae’n ddull adborth a ddefnyddiwyd gan y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc gyfle i ddweud beth sydd ar eu meddyliau mewn ffordd hawdd a gafaelgar. Wrth ddefnyddio’r dull ‘Pump Uchel, Pump Isel’ mae’r staff yn ymwybodol pa bethau sydd angen eu gwella ar y ward.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
The national public health agency has produced Young People’s Annual Quality Statements, held its first ever Public Health Youth Summit, and created a new Young Ambassadors programme.
Mae’r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol wedi creu Datganiad Ansawdd Blynyddol i Bobl Ifanc, cynnal ei Uwchgynhadledd gyntaf i Ieuenctid
Darllenwch astudiaeth achos Iechyd Cyhoeddus Cymru
Carchar Y Parc
Mae pob person ifanc ac aelod o staff yng ngharchar y Parc yn gwybod am hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae pobl ifanc yn dysgu am eu hawliau yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar y materion sy’n eu heffeithio nhw. Mae disgwyl i staff gyfeirio at hawliau plant pan bod gennyn nhw gyfle addas.
Staff at Parc feel that a rights-based approach has benefited both the young people and themselves.
Mae staff y Parc yn teimlo bod dull hawliau plant wedi eu helpu nhw, yn ogystal â’r pobl ifanc.
Darllenwch astudiaeth achos y parc.
Awdurdod Lleol Wrecsam
Tra’n gweithio ar ei Strategaeth Ymgysylltu Gofal Cymdeithasol Plant, cydnabyddodd yr awdurdod fod dim fersiwn addas-i-blant o’r broses gwyno ganddynt ar gyfer plant a phobl ifanc.
Aethant ati i weithio gyda’r Cyngor Gofal Pobl Ifanc a Senedd Yr Ifanc i ddrafftio a dylunio ffurflen newydd, sydd nawr wedi ei gyhoeddi, a wedi cael ei hyrwyddo yn ysgolion y sir.
Darllenwch astudiaeth achos Wrecsam.
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn edrych ar eu polisïau ynglyn â galwadau brys a phan fydd parafeddygon yn trin cleifion.
Cynhaliwyd ymarferiad ymgysylltu enfawr gan yr Ymddiriedolaeth o fewn gwahanol fannau ledled Cymru, yn nodi’r meysydd o ran teimladau pobl ifanc sut y gallai’r Ymddiriedolaeth wella’i ymadwaith â phobl ifanc.
Un o’r materion a godwyd oedd bod geiriad y sgriptiau a ddefnyddir wrth ateb galwadau brys neu drin cleifion yn gallu bod yn anodd i blant a phobl ifanc i’w deall.
Cynhaliwyd ymgynghoriad gan y gwasanaeth er mwyn cynnig geiriau eraill wrth ryngweithio â phlant a phobl ifanc.
Ymrwymodd y gwasanaeth i gyfres o addewidion (wedi’u cydgynhyrchu â phlant) sy’n ceisio ymateb yn well i anghenion plant a phobl ifanc. Hefyd, mae’r gwaith yn parhau i sicrhau fersiynau hawdd i’w darllen o ran dogfennau, a’r defnydd o gymeriadau darluniadol i’w gwneud yn haws i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu penodol eu deall.
Dyma boster yn dangos cyfres o’r addewidion:
Heddlu de Cymru
Cyflwynwyd sesiwn hyfforddi gennym gyda Rheolaeth Aur Heddlu De Cymru: sef uwch arweinyddion yr heddlu .
Maen nhw wedi ymrwymo i osod Dull Gweithredu yn seiliedig ar Hawliau Plant yn eu gwaith, gyda’r bwriad i ddatblygu siarter hawliau plant, gyda chefnogaeth pobl ifanc o Ysgol Bentrehafod ac Uned Ddiogel Hillside. Mae’r siarter yn dangos sut byddant yn cynnal ac yn hybu eu hawliau dynol.
Rydym ni hefyd yn gweithio gyda’r Heddlu i ddatblygu eu strategaeth cyfranogiad.
Dyma boster o siarter hawliau plant –
Yn ogystal a hyn crewyd fideo gan Heddlu De Cymru sy’n dangos 7 hawl sydd gan bobl ifanc pan fyddent mewn cysylltiad â’r heddlu, mae hyn yn cynnwys os ydynt yn ddioddefwr o drosedd neu wedi cael eu cyhuddo o torri’r gyfraith.
Mae’n ddisgwyliedig ar swyddogion, staff a chyfrannwyr i gadw at addewidion y siarter wrth iddyn nhw ddod mewn cysylltiad â phobl ifanc.
Dyma linc i fideo Siarter Hawliau Plant –
Amgueddfa Cenedlaethol Cymru
Mae Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn parhau i osod hawliau plant a phobl ifanc ar ganol ei gwaith.
Er mwyn parhau i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cynnwys pobl ifanc yn y ffordd maen nhw’n cael eu creu a’u darparu, maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith o bobl ifanc creadigol; eu ‘Harweinwyr Etifeddiaeth Ifanc’, sy’n eu helpu i ddatblygu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau.
Maen nhw hefyd yn rhan o benderfyniadau ar gynnwys yr amgueddfa, a chynllunio digwyddiadau, ac maen nhw’n helpu gwneud gwahaniaeth positif yn yr amgueddfa.
Mae’r gwaith hwn yn bosib oherwydd prosiect ‘Kick the dust’ y loteri genedlaethol.
I gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â youth.forum@museumwales.ac.uk
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Yn haf 2018, cynhaliodd Powys weithdai ar y cyd â’r awdurdod lleol er mwyn ymgynghori ar is-grŵp plant a phobl ifanc y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sef Dechrau Da, a Fforwm Ieuenctid Powys.
Arweiniodd y gweithdai hyn at fersiwn ddrafft o ‘Adduned Plant a Phobl Ifanc’. Penderfynodd y bobl ifanc eu hunain fod yn well ganddynt ddefnyddio’r gair adduned yn hytrach na siarter.
Maen nhw’n gobeithio cyhoeddi’r Adduned yn fuan.