Cylchlythyr Awst 2022

Croeso i’n cylchlythyr cyntaf!

Rydyn ni’n gobeithio anfon fersiwn atoch chi unwaith y mis. Byddwn ni’n ei ddefnyddio i roi’r newyddion diweddara i chi am ein gwaith, adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i gefnogi hawliau plant, a phethau rydyn ni’n falch ohonyn nhw.

Dyma bump o bethau rydyn ni’n falch ohonyn nhw y mis yma.

Ewch i waelod ein gwefan i danysgrifio i’n cylchlythyr.

Tri mis. 1 comisiynydd newydd.

Dyma grynodeb o fisoedd cyntaf Rocio yn ei swydd newydd fel pencampwr plant Cymru.

Pum adnodd newydd.

I gefnogi cyflawni rhai dyletswyddau newydd sy’n rhan o gwricwlwm newydd Cymru, rydyn ni wedi creu adnoddau newydd fydd yn helpu lleoliadau i wreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant. Yma cewch hyd i:

  • ganllaw mapio’r cwricwlwm fydd yn helpu i gefnogi lleoliadau i gysylltu hawliau â’r cwricwlwm newydd
  • offeryn hunanasesu i helpu i fapio a myfyrio ar gynnydd o ran gwreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant
  • gwybodaeth am ein cynlluniau Llysgenhadon dwyieithog di-dâl, sy’n gallu cefnogi plant i ddysgu am eu hawliau
  • astudiaethau achos ynghylch arfer diddorol rydyn ni wedi sylwi arno mewn gwahanol rannau o Gymru.

Tri mis. 155 o achosion newydd.

Mae ein gwasanaeth cyngor a chefnogaeth annibynnol, di-dâl ar gael i unrhyw un sy’n meddwl bod plentyn neu berson ifanc wedi cael eu trin yn annheg. Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth aruthrol o faterion, o waharddiadau o’r ysgol i fynediad at gymorth iechyd meddwl. Gallwch chi ffonio neu e-bostio’r tîm; dyma sut mae gwneud hynny.

Yn ogystal â helpu plant unigol, rydyn ni hefyd yn ceisio dylanwadu ar newid a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar lawer mwy o blant. Y mis yma, o ganlyniad i achos am berson ifanc yr aeth eu cynilion bywyd ar goll mewn lleoliad maeth, mae awdurdod lleol wedi cytuno i newid ei arfer ar gyfer pob plentyn mewn gofal i sicrhau bod eu holl eiddo, gan gynnwys cynilion, yn ogystal â gwybodaeth berthnasol, yn cael eu symud pan fydd plentyn yn symud i leoliad arall.

Un fil ar ddeg o blant a phobl ifanc.

Mae gwrando ar brofiadau plant a myfyrio arnyn nhw yn rhan hanfodol o’n swyddogaeth a’n diben. Yn ystod y tri mis diwethaf rydyn ni wedi ymgysylltu â mwy nag 11,000 o blant a phobl ifanc, mewn llu o leoliadau ar draws Cymru.

Rydyn ni eisiau i’r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithio fel hyn. Rydyn ni am weld plant, gan gynnwys rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Dyna pam rydyn ni wedi lansio llu o ddeunyddiau cefnogi newydd y mis yma i gefnogi llunwyr penderfyniadau i ystyried effaith gwahanol ffyrdd o wrando ar leisiau plant ar hawliau dynol. Rydyn ni wedi cynnwys rhai enghreifftiau gwych o roi hyn ar waith, gydag astudiaethau achos am wasanaeth cynhwysiad addysg Cyngor Caerdydd a gwaith tîm partneriaeth ac ymwneud Abertawe gydag Ysgol Pen y Bryn. Hefyd mae rhai adnoddau penodol i helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf ADY 2018.

5 trafodaeth bord gron. Gobeithion i Gymru. Cynllun ar gyfer y camau nesaf.

Barn a phrofiadau plant a phobl ifanc sy’n dylanwadu ar ein gwaith. O’r diwrnod cyntaf un, mae Rocio wedi bod yn gwrando ar blant a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw ac yn gofalu amdanyn nhw i glywed beth sy’n achosi mwyaf o bryder iddyn nhw. Mae Rocio hefyd wedi clywed am obeithion pobl i Gymru. Ein cam nesa fydd drafftio’n harolwg, ei brofi, ac yna lansio’r arolwg ar 5 Hydref, er mwyn i ni fedru clywed gan lawer mwy o blant beth yw eu Gobeithion i Gymru, a helpu i lunio cynllun ar gyfer y Gymru yr hoffen ni ei gweld. Gallwch chi roi eich enw i lawr yma i gael y newyddion diweddara am y gwaith hwn.

Mae hon yn ffordd newydd i ni rannu’r newyddion diweddara am ein gwaith. Rydyn ni’n gobeithio anfon diweddariad atoch chi bob mis. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am y math o bethau byddech chi’n hoffi i ni eu rhannu yn rhifynnau’r dyfodol, cofiwch gysylltu.