Diwrnod Chwarae 2020

Mae Diwrnod Chwarae eleni yn ymwneud â dathlu yr hawl sydd gan blant i chwarae yn eu cartrefi ac yn y gymuned.

Mae llawer o syniadau ar y dudalen hon i helpu plant a theuluoedd i ddarganfod gemau newydd ar gyfer Diwrnod Chwarae ac ar gyfer gweddill yr haf.

E-lyfr chwarae i blant

Rydyn ni’n gweithio gyda Chwarae Cymru i gyhoeddi casgliad o hoff gemau plant a theuluoedd.

Gall rhain fod yn hen glasuron, neu yn rai rydych chi wedi creu eich hun.

Rydym ni’n gwybod efallai na fyddai llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i gyflwyno’ch un chi eto, felly peidiwch â phoeni, rydyn ni nawr yn rhoi tan ddiwedd mis Awst i chi i rannu eich hoff gem chi!

CYFLWYNWCH EICH UN CHI YMA

Eich gemau

Dyma rai o’r gemau rydych wedi cyflwyno eisoes:

Hwyaden, hwyaden, gŵydd gan Lowri

Chwaraewyr: cymaint ag y dymunwch

Eisteddwch mewn cylch.

Mae un person yn mynd o amgylch y cylch ac wrth iddo fe gyffwrdd â phen person arall mae’n dweud ‘hwyaden’ tan ei fod yn benderfynu dewis rhywun i fod yn ‘ŵydd’.

Mae’r gŵydd wedyn yn rhedeg ar ei ôl o amgylch y cylch tan iddi ei ddal.

Mae’r gŵydd wedyn yn dechrau’r gêm eto.

Beth yw’r amser Mistar Blaidd? gan Jordan

Chwaraewyr: 4+

Mae chwaraewyr yn cymryd tro i fod yn ‘flaidd’. Mae’r blaidd yn wynebu’r wal, ac mae gweddill y grwp yn sefyll yn nhu cefn yr ystafell ac yn gweiddi ‘Beth yw’r amser mistar blaidd?”

Mae’r blaidd yn dewis amser ac yn gwaeddu nôl ‘mae’n 2 (neu unrhyw rhif rhwng 1 a 12) o’r gloch.” Mae pawb yn camu ymlaen. Os 2 o’r gloch yw’r amser yn ôl y blaidd, rhaid i bawb cymryd 2 gam ymlaen.

Wrth i’r gêm mynd ymlaen, mae’n rhaid i bawb trio cyffwrdd cefn y blaidd.

Os ydy’r blaidd yn gwaeddu ‘AMSER CINIO’ mae’n rhaid i bawb rhedeg nôl i’r dechrau cyn iddyn nhw gael ei dal gan y blaidd.

Rheolau:

Nid yw’r blaidd yn gallu troi o gwmpas i edrych, tan ei fod e’n dweud yr amser!

Camau bach yn unig gan y chwaraewyr eraill!

Nadroedd ag Ysgolion gan Seren

Chwaraewyr: 2

Mae angen i chi rholio’r deis yn gyntaf. Nesaf mae angen i chi symud y botwm i’r rhif y gawsoch chi. A dwi BOB AMSER yn rholio 6!

Wedyn os byddwch chi’n cyrraedd 6 rydych chi’n cael tro arall. Mae angen i chi cadw fynd nes tan i chi gyrraedd 100!

Dwi’n hoffi gwneud nadroedd ac ysgolion tylwyth teg yn tŷ Mamgu a Dadcu ac mae gen i nadroedd ac ysgolion yn fy nhŷ i hefyd.

Rhowch gynnig ar hyn yn eich cartef

Os ydych chi am roi cynnig ar Nadroedd ac Ysgolion yn eich cartref – ceisiwch dynnu llun o’r gem eich hun ar bapur a defnyddiwch botymau ar gyfer cownteri

Gêm Welington gan Ella

Chwaraewyr: 2

Dwi’n rhoi fy hoff welingtons ymlaen.

Wedyn dwi’n mynd allan i’r parc neu i’r ardd gyda Dad. Rydym yn dal dwylo ac mae Dad yn siglo fi o amgylch mewn cylch.

Pan rydw i ar dop y cylch dwi’n cicio fy welingtons i ffwrdd ac yn gweld pa mor bell rydw i wedi saethu nhw.

Pan fyddwch chi’n dda iawn gallwch chi ddechrau anelu at bethau fel coed neu cerrig/creigiau.

Ond gwnewch yn siwr nad oes neb o gwmpas rhag ofn i chi fwrw nhw gyda’ch welingtons!

Gêm A i Y gan Rosie ac Albert

Chwaraewyr: 2

Chwaraewr rhif un sydd yn dechrau’r gem.

Wedyn mae chwaraewr rhif dau yn mynd drwy’r wyddor yn ei ben.

Mae chwaraewr un yn dweud ‘stop’.

Wedyn mae chwaraewr dau yn dweud pa lythyren mae nhw wedi stopio arno e.e. D, ac yn dibynnu pa mor anodd yw’r lythyren, mae nhw’n gosod her ar gyfer chwaraewr un. Fel – gallwch chi enwi 10 bwyd sydd yn dechrau gyda llythyren D, neu enwi 10 lleoliad, neu 5 gwlad?

Esgidiau i ffwrdd! gan Christian

Chwaraewyr: cymaint ag y dymunwch

Cymerwch tro ar y siglen. Siglwch mor uchel ag y gallwch chi, a chymerwch un o’ch esgidiau i ffwrdd gyda’r troed arall. Arhoswch tan eich bod chi’n uchel ar y siglen, a ffliciwch eich esgid mor bell ag y gallwch chi. Rydych chi’n ennill os yw eich esgid chi yn teithio’n bellach nag esgid unrhywun arall!

Sicrhewch eich bod chi’n dal ar i’r siglen gyda dau law. A sicrhewch hefyd bod neb yn debygol o gael eu bwrw gan eich esgid.

Dwi’n hoffi cyfri lan at 3 cyn fflicio fy esgidiau a gwaeddu ‘esgidiau i ffwrdd!’

Tag bleindffold/mwgwd gan Mia

Nifer o chwaraewyr: Gêm i bawb

Sut i’w chwarae?

Mae’r gem yma fel tag ond mae’r person sydd wedi cael ei ddewis gyda bleindffold/mwgwd dros ei lygaid.

Rheolau’r gêm:

Mae’r person sydd wedi cael ei ddewis ddim yn gallu sbecian tu ôl i’r bleindffold/mwgwd.

Mami gan Erin

Nifer o chwaraewyr: Gêm i bawb

Sut i’w chwarae:

Mae rhywun yn fami ac mae’n rhaid iddyn nhw ddweud ‘tacluswch i fyny’ ac mae pawb yn tacluso fyny ac wedyn mae mami yn dweud ‘dyw hyn ddim yn daclus’ ac yna mae’n llewygu ac yn rhedeg ar ôl pawb ac yn tagio rhywun ac mae’r person yna yn troi’n fami hefyd.

Rheolau’r gêm:

Dyw mami ddim yn gallu rhedeg yn gyflym iawn

(Llun o’r gem)

Lego gan Harrison

Nifer o chwaraewyr: Pawb

Sut i’w chwarae:

Adeiladu blociau gyda’n gilydd

Rheolau’r gem:

Does dim rheolau, gallwch chi adeiladu unrhywbeth

Dyfalwch y llun

Nifer o chwaraewyr: 7

Sut i’w chwarae:

Mae person yn tynnu llun o rhywbeth ac yn rhoi awgrymiadau wrth i bob un arall trio ddyfalu beth yw e!

Rheolau’r gem:

DIM TWYLLO

Pêl-droed gan Dewi

Nifer o chwaraewyr: 10

Sut i’w chwarae: 10

Er mwyn sgorio mae angen i chi cicio’r bêl i fewn i’r gôl

Rheolau’r gem:

Dim ond y golwr sydd yn gallu defnyddio ei ddwylo i achub y bêl yn y bocs.

Mae’r golwyr yn gallu camu allan o’r bocs os ydyn nhw eisiau.

Ni does hawl gan chwaraewyr allfeysydd ddefnyddio eu dwylo.

Chwarae Cuddio gan Rosie

Nifer o chwaraewyr: Faint bynnag a hoffwch

Sut i’w chwarae:

Mae un person yn cyfri wrth i bawb arall chwilio am le i guddio. Unwaith mae’r amser i fyny, mae’r person sy’n cyfri yn trio darganfod ble mae pawb yn cuddio.

Rheolau’r gêm:

Mae’r person sy’n cyfri yn gorfod cau ei llygaid neu peidio ag edrych nes tan iddynt orffen cyfri.

Unwaith mae rhywun wedi cael ei darganfod, dydyn nhw methu dweud wrth y person sy’n cyfri ble mae pob un arall yn cuddio.

Adnoddau Chwarae Cymru

Mae llwyth o syniadau i’ch helpu chwarae adre ar wefan Chwarae Cymru.

Maen nhw’n cynnwys 50 syniad chwarae dan do, a fideos fel yr un isod.

Ewch i’w gwefan

Chwarae adre gyda help ein tîm Cyfranogaeh

Cafodd y fideos yma eu creu gan ein tîm Cyfranogaeth i’ch helpu i chwarae yn ystod y lockdown ond does dim rheswm pam na allen nhw cael eu defnyddio trwy’r haf i gyd!

Dens, pypedau hosan, defnyddio’r bag ailgylchu, a sinemau ffug!

Papur a Cherdyn

Origami, awyrennau papur, creu ty dol, a’r gêm pêl a bocs!

Chwarae gyda dŵr

Dyma Jordan o’n tîm Cyfranogiad gyda syniadau i’ch helpu adre. Pa fath o hwyl allech chi greu adre gyda dŵr?

Creu dinas Cardfwrdd, gwneud ‘chatterboxes’ a siarad am emosiynau

Rhian sy’n rhannu ei syniadau ar greu dinas newydd o gardfwrdd, creu ‘chatterboxes’, a dechrau’r sgwrs am sut rydyn ni’n teimlo

Wynebau yn yr ardd!

Defnyddio’r deunyddiau naturiol yn yr ardd i greu wynebau doniol!

Boredom buster

Syniadau i’ch helpu pan mae’r holl syniadau eraill wedi diflannu!

Cwisiau, diwrnodau chwaraeon, a bake-offs!

Kath sy’n rhannu ffyrdd o ail-ymweld â hoff atgofion y teulu, cymryd tro i arwain ar ddiwrnod chwaraeon, a chynnal bake-off.

Creu swigod!

Jordan sy’n rhannu techneg i greu swigod adre yn hawdd!

Creu cerddoriaeth gyda chynnwys eich bag ailgylchu!

Castanets potiau iogwrt, shêcyrs papur ty bach, gitar bocs grawnfwyd; sut allwch chi ddefnyddio cynnwys eich bag ailgylchu i ddechrau band teulu!?

Chwarae Synhwyraidd

Efallai bod eich plentyn yn gweld eisiau y chwarae synhwyraidd maen nhw fel arfer yn mwynhau yn yr ysgol.

Dyma Jordan o’n tîm gyda syniadau i’ch helpu i greu man synhwyraidd yn eich ty.

Darnau rhydd

Ife sbwriel yw e?  Neu offer chwarae…?  Gwyliwch y fideo am syniadau i’ch helpu i droi darnau gwahanol i chwarae rhydd!

Chwarae synhwyraidd – peintio gyda iâ a chwythu swigon trwy hosan!

Creu ffon hud

Creu byd newydd i’ch hoff degan

Gyd sydd angen arnoch i greu byd newydd i’ch hoff degan yw:

  • Eich hoff degan!
  • Cynhwysydd
  • Pethau i addurno y byd, o’r gardd neu eich wâc dyddiol

5 peth i’w wneud gyda thiwbiau papur ty bach

https://www.facebook.com/1081726995183317/videos/3133236740021782/