Ymuno â ni yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2020
Ddydd Gwener yma, yr 20fed o Dachwedd, mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant. Fe hoffen ni chi i ymuno â ni ar gyfryngau cymdeithasol i ddathlu popeth sy’n wych am blant a phobl ifanc yng Nghymru!
Fi Yw Fi
Ein tasg arbennig ar y gyfer ein llysgenhadon y tymor yma ydy cymryd rhan yn ein prosiect ‘Fi Yw Fi’. Mae’r prosiect yn ceisio taclo ystrydebau (stereotypes) ac harwyddo erthyglau 2 (yr hawl i beidio â gwahaniaethu) ac 19 (yr hawl i fod yn ddiogel) o’r CCUHP.
Gellir ddysgu mwy am y brosiect trwy glicio ar y doleni isod:
Yn gysylltiedig a’r tasg arbennig hwn, rydyn ni’n gofyn i chi ymuno drwy rannu unrhyw lwyddiant eleni neu rywbeth mae plentyn neu pherson ifanc wedi gwneud sy’n gwneud chi’n falch.
Sut i gymryd rhan
Dyma sut medrwch chi gymryd rhan:
- Tagiwch ni ar @childcomwales ar Twitter, Facebook neu Instagram mewn unrhyw negeseuon ry’ chi’n rannu ar y diwrnod, fel ein bod ni’n medru ail-rannu
- Defnyddiwch #FiYwFi lle bo’n bosibl
Ry’n ni’n mawr obeithio medrwch chi ymuno â ni ddydd Gwener yma i ddathlu’r hyn sy’n wych am ein plant a phobl ifanc.