Roedd y Comisiynydd Plant eisiau cael gwybod beth oedd yn gweithio’n dda yn ein cynllun Llysgenhadon Gwych a sut gallai gael ei wella.
Bu Dr Rhian Barrance, o Brifysgol Caerdydd, yn gwerthuso’r cynllun Llysgenhadon Gwych gyda chymorth grŵp llywio o Lysgenhadon Gwych.
Mae Dr Barrance yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Brifysgol.2
Bu 301 o blant, 46 o athrawon a 9 Pennaeth yn rhannu eu barn a’u profiadau o’r cynllun Llysgenhadon Gwych fel rhan o’r gwerthusiad hwn.
Canfu’r gwerthusiad fod y cynllun Llysgenhadon Gwych yn effeithiol o ran cynyddu ymwybyddiaeth plant o’u hawliau a rôl y Comisiynydd Plant. Canfu hefyd fod y cynllun yn galluogi plant i lywio gwaith y Comisiynydd Plant yn effeithiol a helpu i gyflawni newidiadau cadarnhaol ym mywydau plant Cymru.
Cafwyd gan Dr Barrance hefyd rai argymhellion ar gyfer gwella’r cynllun, yn arbennig sicrhau ei fod yn hygyrch i holl blant Cymru.
Cewch wybod mwy am ganfyddiadau’r gwerthusiad yn y fideo ac yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda’i Phanel Ymgynghorol a’i Llysgenhadon Gwych i ddatblygu’r cynllun gan ddilyn argymhellion Dr Barrance. Bydd y datblygiadau hyn yn cael eu gwerthuso gan y Comisiynydd yn nhymor yr haf, 2019.