Post gwestai gan Hywel Dafydd – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Fel gweddill y wlad, rydw i’n dal yn llawn diolchgarwch, balchder a llawenydd am gyflawniadau tîm pêl-droed Cymru yn ystod Ewro 2016.
Bu llawer ohonon ni’n ddigon ffodus i adeiladu’r wal goch mewn stadiwm Ffrengig gwych, ond mae’n deg dweud bod pawb ohonon ni Gymry, gartre a thramor, wedi gallu ymfalchïo yn ein llwyddiannau ar y cae, gan gynnwys tua 600,000 o blant Cymru a gafodd aros i fyny’n hwyr i wylio pob gêm, a gwisgo coch yn falch wrth iddyn nhw drafod Ramsey, Bale a Robson-Kanu yn llawn edmygedd ar iard yr ysgol ac mewn cymunedau ar draws y wlad.
Mae eraill wedi sôn yn briodol am effaith bosibl llwyddiant Cymru ar nifer y bechgyn a’r merched o Gymru sy’n chwarae pêl-droed, yn ogystal â’r effaith y gallen ni ei mwynhau ar farchnata a’r economi yn dilyn y gystadleuaeth. Gallwch ddarllen rhagor yma ynghylch sut mae athrawon a thimau chwaraeon yn gwneud yn fawr o’r munudau hudol gawson ni.
Yn y post yma rydw i am drafod sut dylai gwleidyddion a llunwyr polisi Cymru gael eu hysbrydoli gan y tîm pêl-droed, er mwyn darparu ar gyfer cenhedlaeth o blant sydd wedi cael eu swyno gan arwriaeth goreuon ein gwlad.
Gadewch i ni atgoffa ein hunain am eiriau Chris Coleman, wedi’r fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Gwlad Belg yn ROWND GO-GYN-DERFYNOL PENCAMPWRIAETHAU EWROP:
“Breuddwydiwch – peidiwch ag ofni breuddwydio. Achos bedair blynedd yn ôl roeddwn i mor bell oddi wrth hyn ag y gallwch chi ddychmygu, ac edrychwch beth sydd wedi digwydd.
“Os byddwch chi’n gweithio’n ddigon caled, a does dim ofn breuddwydio arnoch chi, a dydych chi ddim yn ofni methu.
“Mae pawb yn methu. Peidiwch ag ofni methu. Rydw i wedi methu mwy o weithiau nag rydw i wedi llwyddo, ond does dim ofn methu arna i.”
Bydd ymgynghorwyr rheolaeth ac awduron llyfrau hunan-gymorth yn ennill bywoliaeth o’r llinellau hynny am flynyddoedd.
Ond ein gwleidyddion ddylai fod yn rhoi tatŵ ohonyn nhw ar eu brest, neu o leia yn eu rhoi ar waliau eu hystafelloedd cyfarfod.
Gallen ni gymhwyso’r geiriau hynny ac ymdrechion y tîm pêl-droed i amrywiaeth o feysydd polisi plant, ond rydw i wedi canolbwyntio ar fater parhaus tlodi plant.
Mae nifer y plant sy’n byw mewn tlodi wedi gwrthod gostwng o ryw draean o blant Cymru yn rhy hir. Os ydyn ni’n wir am drechu tlodi plant, mae angen dull gweithredu tymor hir arnon ni, a rhoi sylw cytbwys i adnoddau ariannol a darparu gwasanaethau.
Rydyn ni’n clywed yn rhy aml nad oes gan Gymru ddigon o foddau i ymdrin â thlodi plant, ac rydyn ni’n edrych i gyfeiriad llywodraeth y Deyrnas Unedig neu’r UE er mwyn cael arian i ddileu tlodi plant.
Er bod potensial aruthrol i liniaru tlodi mewn trethi a budd-daliadau, os oes gennym ni weledigaeth glir ac os ydyn ni’n wir yn credu ein bod ni’n gallu dileu tlodi plant yma yng Nghymru, trwy ein gwaith caled a’n hymdrechion ein hunain, gan ddyrannu adnoddau’n ddoeth ac yn strategol, fe symudwn ni’n nes at gyflawni ein gweledigaeth nag yn y gorffennol.
Allwn ni ddim gadael i dlodi plant barhau’n bêl-droed wleidyddol sy’n cael ei chicio yn ôl ac ymlaen rhwng llywodraethau ar hyd coridor yr M4.
Yr hyn oedd yn amlycach na dim wrth wylio dynion Chris Coleman ar waith ar hyd y bencampwriaeth oedd bod y chwaraewyr yn credu yn ei gilydd ac yn eu harweinydd, a’i fod yntau’n credu ynddyn nhw a’r tîm oedd yn ei gefnogi.
Canlyniad blynyddoedd o ryngweithio, dysgu a datblygu oedd y gred a’r cwlwm yna, wrth i’w chwaraewyr gael eu diogelu a’u hyrwyddo fel modd i gyflawni’r newid roedd Coleman am ei weld yn digwydd.
Er i’n pêl-droedwyr ein cadw ni yn Ewrop yn hwy nag roedd llawer yn disgwyl, un o’r peryglon mwyaf yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE yw lefel y siom a’r rhwystredigaeth mae pobl ifanc ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn teimlo.
Yn ôl ystadegau Yougov, pleidleisiodd 75% o bobl ifanc 18-24 oed y Deyrnas Unedig i aros, ac mae dyletswydd ddemocrataidd glir ar bob gwleidydd a lluniwr polisi i wrando ar leisiau’r bobl ifanc hynny, yn ogystal â’r bobl ifanc 16 ac 17 oedd am bleidleisio, ond na roddwyd cyfle iddyn nhw wneud.
Mae’n hanfodol bwysig yn awr bod pob llywodraeth yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc i’w hatal rhag cael eu difreinio, ac yn eu gweld fel cyfryngau ar gyfer newid yn hytrach na dim ond fel rhai sy’n derbyn gwasanaethau.
Er bod gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n dioddef effaith anghydraddoldeb cymdeithasol, ac eiriol drostyn nhw, yn rhan allweddol o’n gwaith yn Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mater i’r llywodraeth yn y pen draw yw cymryd camau sy’n canolbwyntio ar atebion dros y rhai y gallai ymyriadau deallus wella’u bywydau.
Yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, rydyn ni’n gofyn yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru fynegi’r adfywiad yn ein hyder cenedlaethol wrth iddyn nhw fynd ati i gyd-drafod cyllid yn lle’r hyn oedd yn arfer dod o’r UE ar gyfer rhanbarthau mwyaf difreintiedig Cymru, a rhoi blaenoriaeth wirioneddol i wella cyfleoedd bywyd plant Cymru yn eu cyllidebau a’u polisïau, yn enwedig y rheiny sydd wedi cael cychwyn anwastad ar faes chwarae bywyd.
Trwy annog plant y genedl i fentro breuddwydio heb ofni methu, mae Chris Coleman a thîm pêl-droed Cymru wedi ysbrydoli’r wlad gyfan â’u balchder, eu hangerdd a’u penderfyniad i lwyddo yn erbyn galluoedd cryfach.
Os credwn ni ynom ein hunain, fe fydd y teimladau o ddathlu a gobaith y buon ni’n eu mwynhau ledled Cymru ac Ewrop yn ystod y bencampwriaeth hon yn fodd i arwain cenedlaethau o Gymry ymlaen i freuddwydio’n fentrus a chredu yn ein gallu i fod y gorau gallwn ni fod, gan greu cymdeithas hyderus sydd, yn wir, yn Gryfach Gyda’i Gilydd.