Ddydd Iau diwethaf (9.6.16) cyhoeddwyd adroddiad oedd yn rhoi dyfarniad y Cenhedloedd Unedig ar sefyllfa hawliau plant yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei Sylwadau Terfynol yn dilyn ei archwiliad cyfnodol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hwn oedd y tro cyntaf i’r Pwyllgor archwilio’r Deyrnas Unedig ers 2008. Gwelwyd llawer o newid yn y Deyrnas Unedig a’r gwledydd datganoledig ers 2008, gan gynnwys yr argyfwng ariannol, dau etholiad cyffredinol a rhaglen o fesurau cyni sydd wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus i blant. Roedd yn ddiddorol gweld, felly, beth fyddai gan y Cenhedloedd Unedig i’w ddweud am hanes y Deyrnas Unedig.
Mae’r Pwyllgor wedi gwneud llawer o argymhellion, ac mae’n debygol y bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn pwnc penodol yn cael hyd i sylwadau amdano yn yr adroddiad. Y prif bryderon yw’r rhai rwy’n clywed amdanynt yn gyson gan blant yng Nghymru a’r rhai sy’n gofalu amdanynt: gofal iechyd meddwl a llesiant emosiynol ein pobl ifanc; amlygrwydd bwlio; effaith negyddol anghymesur diwygio budd-daliadau a threthi ar deuluoedd sydd â phlant; y pryderon cynyddol ynghylch cam-drin a chamfanteisio rhywiol; sut mae plant yn cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol; y gofal a roddir i blant sy’n derbyn gofal; a’r ffaith bod cosb gorfforol i blant yn dal i gael ei goddef drwy amddiffyniad yn y gyfraith.
Fe fûm i, ynghyd ag academyddion blaenllaw, elusennau a grwpiau o blant a phobl ifanc, yn gweithio’n galed i sicrhau bod y Pwyllgor yn cael clywed yn benodol am sefyllfa plant a phobl ifanc yng Nghymru. Croesawodd fy swyddfa ymweliad gan aelod o Bwyllgor y CU, a gwneud yn siŵr ei bod hi’n cael clywed gan blant a phobl ifanc o amrywiaeth eang o gymunedau am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Fe wnes i’n siŵr bod y pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi yng Nghymru, wedi’r Etholiad Cyffredinol ac etholiadau Cynulliad Cymru. Roedd yn fraint cael teithio i Genefa i roi tystiolaeth yn uniongyrchol am yr hyn mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi’i ddweud wrthyf fi am eu bywydau a’u blaenoriaethau, ac roeddwn i’n falch bod Cymru wedi cyfrannu adroddiad gan y grŵp ifancaf o blant i adrodd i’r Pwyllgor erioed trwy’r prosiect Lleisiau Bach.
Yn fy marn i, mae amseriad yr adroddiad hwn yn berffaith. Mae gennym Lywodraeth newydd yng Nghymru, ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, mae gennym Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am blant. Mae’r Sylwadau Terfynol hyn yn rhoi cyfres glir o nodau i Carl Sargeant er mwyn gwella hawliau plant yng Nghymru.
Yn gyntaf y newyddion da. Nododd y Pwyllgor ymdrechion y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc i wella iechyd meddwl, a bu’n annog parhad yr ymdrechion hynny. Nododd y Pwyllgor ymdrechion i gydlynu ymateb gwell i gamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru, a bu’n canmol sut mae’r hawl i chwarae yn cael ei hyrwyddo.
O ran y pethau mae’n rhaid iddynt wella, byddwn i’n eu rhannu’n dri chategori:
Yn gyntaf, mae rhai pethau sydd heb eu datganoli. Ymhlith y rhain mae cyfiawnder ieuenctid, plant sy’n ceisio lloches, a pholisïau treth a budd-daliadau. Mae’r rhain yn effeithio ar blant Cymru wrth gwrs, a bydd angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno achos i lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gwelliannau angenrheidiol i’r meysydd hyn.
Yn ail, mae rhai pethau y gall Llywodraeth Cymru eu cyflawni, a byddwn ni’n gallu dweud eu bod wedi’u cwblhau. Yma rwy’n cynnwys newid y gyfraith ynghylch cosb gorfforol (smacio), cefnogi sefydlu senedd ieuenctid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i’r cwricwlwm ysgol newydd, a sicrhau bod Comisiynydd Plant Cymru yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na’r Llywodraeth.
Yn drydydd, mae rhai meysydd sy’n heriau aruthrol, lle mae angen newid systemig hir dymor, na fyddant o reidrwydd byth yn cael eu hystyried yn rhai sydd ‘wedi’u cwblhau’ – ond lle gallwn ni gyflawni newidiadau gwirioneddol. Ymhlith y rhain mae lleihau tlodi plant, gwella iechyd meddyliol ac emosiynol ein plant, lleihau niferoedd y plant sy’n mynd i ofal a gwella amddiffyniad plant rhag camdriniaeth. Bydd angen rhaglen uchelgeisiol, hir dymor i blant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn cyflawni newidiadau gwirioneddol yn y meysydd hynny.
Rwy’n edrych ymlaen at weithredu fel ffrind beirniadol i Lywodraeth Cymru a’r holl gyrff cyhoeddus, fel y gallwn ni, y tro nesaf y deuwn ni gerbron Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig, ymfalchïo wrth sôn am y pethau rydym ni wedi’u cyflawni yng Nghymru.