Mae Lowri Morgan, disgybl 17 mlwydd oed sy’n mynychu ysgol uwchradd yng Nghymru, yn ysgrifennu am ei phrofiadau o fwlio yn y post gwestai hwn.
Ar gyfer #WythnosGwrthFwlio, rydyn ni wedi lansio adnoddau i ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn helpu nhw i drafod bwlio yn y dosbarth.
Roeddwn i ym mlwyddyn 7 pan ddes i ar draws bwlio am y tro cyntaf, yn ei ffurf ysgafnaf, o bosib. Fe ges i fy ngalw’n ‘hyll’, gair syml sy’n rholio mor rhwydd oddi ar y tafod, ond oedd â’r pŵer i ddileu fy hyder yn llwyr, ond fe ddown ni nôl at hynny.
Roeddwn i ym mlwyddyn 8 pan ges i fy atgoffa mod i’n lletchwith ac yn ‘goesau i gyd’, fel dwedodd y gang o fechgyn wrtha i, fel roedden nhw’n taflu talpiau cyw iâr.
Ar ddechrau blwyddyn 10 fe wnes i geisio ailsefydlu fy hun trwy ddechrau chwarae rygbi i dîm lleol, ond y cyfan ges i oedd cwestiynau am fy rhywioldeb gan fechgyn oedd yn ddychrynllyd o or-hyderus, a honiadau bod rhaid mod i’n ‘lesbiad’ achos mod i’n chwarae camp oedd i fechgyn yn bennaf.
Doedd hynny ddim yn wir, fel mae’n digwydd. Ond roedd y cyfan yn cronni, ac fe wnaeth pob un o’r digwyddiadau hyn, sy’n ymddangos yn ddigon dibwys ar eu pennau eu hun, effeithio arna i yn eu ffordd eu hun.
Oherwydd i mi gael fy ngalw’n hyll ym mlwyddyn 7 fe gollais i hyder yn fy nghorff, ac roeddwn i’n methu edrych yn iawn arnaf fy hun yn y drych.
Fe wnaeth y digwyddiad ym mlwyddyn 8 fi’n ymwybodol o’m taldra, a dyna pam roeddwn i bob amser yn cerdded braidd yn gefngrwm, heb adael i’m taldra llawn ddod i’r golwg.
Y cwestiynau personol ym mlwyddyn 10 wnaeth i mi gwestiynu ai chwarae rygbi oedd y dewis iawn i mi.
Roedd Blwyddyn 8 yn un ddiddorol, gan fod llawer o bethau wedi digwydd i mi. Ym mlwyddyn 8 y cyrhaeddodd fy atgasedd ataf fy hun uchafbwynt, ac fe ddechreuais i hunan-niweidio.
Byddwn i’n cnoi’r tu mewn i’m gwefus nes bod y gwaed yn llifo; roedd hyn yn rhywbeth mor gynnil fel mod i’n gallu ei wneud unrhyw le, ac roedd yn digwydd yn rheolaidd.
Daeth athro i wybod am y peth ar ôl i mi dorri lawr mewn gwers am hunan-niweidio, ac yn fuan roeddwn i’n cael cwnsela rheolaidd yn amgylchedd yr ysgol.
Roedd hon yn ffaith y gwnes i fy ngorau i’w guddio, a’r unig bryd cafodd fy rhieni wybod oedd pan ddechreuodd y cwnsler bryderu y byddwn i’n gwneud rhywbeth llawer mwy difrifol. I grynhoi’r cyfan, roeddwn i’n casáu fy hun. Doedd dim yn fwy deniadol na’r syniad o gyrlio’n belen a mynd i gysgu, heb ddeffro byth.
Fwy na thebyg dyna pam roedd rhaid i’m rhieni gael gwybod, roedd angen gofalu amdana i. Er gwaetha’r teimladau mewnol tywyll yma oedd yn fy synnu, roeddwn i’n hapus.
Roedd gen i ffrindiau gwych a rhieni cefnogol, ac roedd fy atgasedd ataf fy hun i gyd yn deillio o’r sylw cychwynnol yna ym mlwyddyn 7.
Roedd fy hwyliau’n newid o ddydd i ddydd, o awr i awr, o funud i funud, ac roedd gen i gyn lleied o hyder ynof fi fy hun fel mod i’n dioddef o gyfuniad ofnadwy o iselder difrifol a phryder ysgafn.
Roeddwn i’n wirioneddol eisiau gwella, achos roedd y teimlad o wacter oedd yn fy llethu yn rhywbeth fyddwn i byth eisiau i neb ei brofi.
Ar ddechrau blwyddyn 10 awgrymodd cwnsler yr ysgol y dylwn i fynd at CAHMS, gwasanaeth i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Roedd y rhestr aros yn rhyw 3 mis, ac yn ystod y 3 mis roedd pethau wedi dechrau gwella; roedd gen i grŵp o ffrindiau oedd yn hyfryd a chefnogol, roedd gen i deulu oedd yn fy nghefnogi’n llawn.
Felly pan es i i’r apwyntiad CAHMS cyntaf o’r diwedd, doeddwn i ddim yn teimlo’n ofnadwy, doeddwn i ddim bellach yn gorwedd yn effro yn dymuno i’m bywyd ddod i ben, ac mae’n debyg mod i wedi cymryd camau mawr ymlaen.
Roedd CAHMS yn fodlon iawn arna i, a dim ond rhyw 2 neu 3 apwyntiad ges i gyda nhw cyn cael fy rhyddhau. Roedd yn deimlad o ryddhad llwyr, alla i ddweud yn onest mod i erioed wedi teimlo’n hapusach na’r funud honno.
Bellach rydw i ym mlwyddyn 13, ac mae bywyd yn wahanol. Fe rois i’r gorau i weld y cwnsler yn rheolaidd ym mlwyddyn 10, er mod i wedi mynd i ambell apwyntiad ym mlynyddoedd 11 a 12, oherwydd ei bod hi bob amser yn braf gallu siarad â rhywun sy’n gwbl gymwys i ddelio gyda’ch problemau.
Rwy’n dal i gael munudau o ansicrwydd, rwy’n dal i lefain a theimlo mod i dan lawer gormod o straen, ond dyna sut mae pethau, ac rwy’n dal i gael dyddiau pan dwy ddim eisiau dod allan o’r gwely, ond rwy yn codi oherwydd, os ydw i wedi dysgu unrhyw beth, y peth hwnnw yw bod bywyd yn mynd yn ei flaen ac yn gwella.
Rydw i’n gwybod mod i’n gwbl ystrydebol yn dweud hynny, ond llaw ar fy nghalon mae’n bendant yn wir. Ym mlwyddyn 8 roeddwn i’n gwbl sicr mod i’n hyll ac yn rhy dal, nawr ym mlwyddyn 13 mae gen i gariad gwych sy’n fy ngharu i a’m lletchwithdod.
Rydw i’n rhan o grŵp ymgyrchu yn yr ysgol sy’n ymdrechu i sicrhau bod pobl ifanc yn ystyried y pethau maen nhw’n eu dweud, ac effaith bosibl eu geiriau ar bobl. Rydw i’n benderfynol na ddylai neb fynd trwy’r pethau wynebais i yn fy arddegau.
Bwlio yw bwlio, pa mor fawr neu fach bynnag yw e.