Yn ystod yr wythnosau diwetha rydw i wedi bod yn treulio amser gyda phobl ifanc o 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Roedd y bobl ifanc hyn o wahanol oedrannau, ac yn amrywio’n fawr o ran diddordebau, steil bersonol a doniau.
Roedd gan bob un ohonyn nhw uchelgais ar gyfer eu bywyd, gan gynnwys bod yn gogydd yn y llynges, bod yn filfeddyg, a chael gyrfa yn actio.
Ond yn fwy na dim, roedden nhw’n ddifyr, yn creu cysylltiad, ac yn dda am wrando ar ei gilydd.
Yr unig beth oedd yn gyffredin i’r holl bobl ifanc yma oedd eu bod, yn awr neu yn y gorffennol, ‘wedi derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol – wedi bod ‘mewn gofal’, fel roedd e’n arfer cael ei alw.
Mewn dau ddigwyddiad undydd yng ngogledd a de Cymru, fe wnes i dreulio amser yn siarad â’r 65 yma o bobl ifanc 14-21 oed am eu bywydau pob dydd a’u gobeithion at y dyfodol.
Fe glywais fod llawer yn cael eu cefnogi’n dda mewn cartrefi maeth cariadus neu gan athrawon, gweithwyr cefnogi neu weithwyr cymdeithasol gofalgar.
Ond fe glywais i hefyd lawer o hanesion am adegau pan fyddan nhw’n teimlo’n drist, bod neb yn gwrando arnyn nhw, yn ofnus neu’n unig.
Er bod amrywiaeth eang o resymau teuluol a all fod wedi golygu bod angen iddyn nhw adael gofal eu teulu biolegol, bydd llawer ohonyn nhw wedi profi blynyddoedd cynnar lle roedd eu hanghenion sylfaenol yn cael eu hesgeuluso neu lle roedden nhw’n cael eu cam-drin.
Bydd pawb ohonynt, yn anochel, wedi gorfod wynebu colli eu prif ofalwr – a hynny droeon yn aml.
O wybod hynny, mae’n rhyfeddol pa mor fywiog ac optimistaidd yw cynifer ohonynt, ac mae hynny’n tystio i’r gofal maen nhw wedi’i dderbyn gan ofalwyr maeth ac eraill.
Serch hynny, fe glywais rai hanesion a gododd fy ngwrychyn, oherwydd eu bod yn ymwneud â hanfodion y dylen ni fod yn sicrhau eu bod yn eu lle ar gyfer pob plentyn yn y system ofal.
Roedd gweithiwr cymdeithasol nifer o bobl ifanc wedi newid sawl tro. Dyma’r gweithiwr proffesiynol sy’n cyflawni’r rhan fwyaf o gyfrifoldeb yr awdurdod lleol o ran ei statws cyfreithiol fel ‘rhiant corfforaethol’. Mae ansicrwydd fel hyn yn golygu ei bod hi’n llawer anoddach i bobl ifanc fynegi eu hemosiynau a’u teimladau.
Ar sail yr hyn glywais i gan y bobl ifanc, dyw hi ddim yn ymddangos bod rhai gofalwyr maeth bob amser yn trin y plant yn eu gofal fel eu plant eu hunain – neu o leia dydyn nhw ddim yn helpu’r plentyn i deimlo felly.
Mae amrywiaeth aruthrol o ofalwyr maeth, ac mae cynifer ohonyn nhw’n wych am deithio’r filltir ychwanegol a rhoi cariad a gofal rhyfeddol, ond ddylen ni ddim bod yn defnyddio neb sydd ddim yn gwneud hynny.
Dywedodd un person ifanc wrthyf fi mor drist yw hi ei bod wedi colli cysylltiad â’i chwaer llawer iau sydd wedi cael ei mabwysiadu, ond nad oes ganddi ddim gwybodaeth amdani. Mae’n meddwl amdani’n aml ac yn drist ei bod hi ddim yn clywed sut mae hi.
Rwy wedi clywed hyn sawl tro gan bobl ifanc eraill mewn gofal, ac rwy’n teimlo y gallen ni ofyn i rieni sy’n mabwysiadu roi diweddariad i frodyr a chwiorydd hŷn, yn union fel mae llawer yn gwneud i’r rhieni biolegol.
Dywedodd un bachgen 14 oed ei fod yn ofni bod yn ddigartref yn y dyfodol. Dyw hynny ddim yn rhywbeth sy’n peri ofn i fwyafrif y bobl ifanc 14 oed mewn teuluoedd cyffredin.
Er bod rhai pobl ifanc 18-21 oed yn elwa’n fawr o’r cynllun newydd ‘Pan Fydda i’n Barod’ yng Nghymru, sy’n golygu bod modd iddyn nhw aros gyda’u gofalwr maeth yn hwy, mae gormod ohonyn nhw’n gorfod ymdopi â thenantiaethau, biliau ac unigrwydd llety un ystafell, hosteli a fflatiau ar eu pennau eu hunain yn llawer rhy ifanc.
At ei gilydd mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl ifanc sy’n derbyn gofal, nid llai na pherson ifanc 18 oed nodweddiadol, ond go brin byddai’r mwyafrif ohonon ni’n disgwyl i’n plant ein hunain dderbyn y cyfrifoldebau hyn mor ifanc.
Rydyn ni’n gwybod ers meitin beth yw’r hanfodion wrth ofalu am blant sy’n derbyn gofal – mae ar blant a phobl ifanc angen cefnogaeth, sefydlogrwydd a diogelwch.
Fel cymdeithas mae rhaid i ni sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn derbyn o leiaf yr un lefelau o gariad, gofal a darpariaeth ag y bydden ni’n eu disgwyl ar gyfer ein plant ein hunain.
Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd cyn y byddwn ni wedi cyflawni hynny ar gyfer yr holl blant yn ein gofal.
Bydda i’n casglu’r holl hanesion a phrofiadau bywyd y clywais i amdanyn nhw gan bobl ifanc yr haf yma, yn rhai da a drwg, a gilydd byddwn ni’n eu cyflwyno gyda’n gilydd i’r Llywodraeth ac Aelodau’r Cynulliad ym mis Hydref.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth, y Cynulliad ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd nesaf i godi ein disgwyliadau’n sylweddol, a gwneud newidiadau cadarn i sut rydyn ni’n gofalu am blant pan fyddan nhw’n derbyn gofal, ac ar ôl hynny.