Fêpio

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i’r iechyd gorau posib, o dan Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dros gyfnod o sawl blwyddyn, ac yn gynyddol ers y pandemig, rydyn ni wedi bod yn clywed pryderon ynghylch rhywbeth a allai olygu bod risg niwed hirdymor i blant a phobl ifanc – y defnydd o e-sigarets/fêpiau.

Mae pryderon ynghylch e-sigarets/fêpiau yn cael eu codi gyda fi gan blant a phobl ifanc, a’r oedolion sy’n gofalu amdanyn nhw, yn y rhan fwyaf o’r ymweliadau a’r cyfarfodydd ymgysylltu rydw i’n mynd iddyn nhw.

Oherwydd y niwed hirdymor posib i iechyd, sy’n cynnwys y nicotin a geir mewn rhai dyfeisiau, mae perygl i fêpio achosi niwed i blant a phobl ifanc a’u caethiwo. Mae tystiolaeth hefyd ei fod yn effeithio ar addysg a llesiant plant a phobl ifanc.

Mae’n briodol bod plant a phobl ifanc yn pryderu’n fawr am effeithiau iechyd, argaeledd ac amlygrwydd e-sigarets/fêpiau. Mae pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc wedi rhoi cipolwg i ni ar realiti sut mae plant yn defnyddio fêpiau, ac effaith hynny ar y bywydau ifanc hyn.

Beth rydyn ni’n gwybod?

Mae data o arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) o bobl ifanc oed ysgol uwchradd yn dangos, ym mlwyddyn academaidd 2021/22, bod:

  • 20% o bobl ifanc yn dweud eu bod wedi profi e-sigaret ar ryw adeg
  • 5% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn defnyddio e-sigarets ar hyn o bryd (o leiaf bob wythnos)
  • 6% o bobl ifanc blwyddyn 11 yn fêpio o leiaf bob wythnos; ac 16.6% yn smygu neu’n fêpio o leiaf bob wythnos.

Yn eu harolwg o 12,524 o blant ysgol uwchradd yn Hydref 2023, canfu ASH (Gweithredu ar Smygu a Iechyd) Cymru fod 24% wedi rhoi cynnig ar fêpio, a bod 7% yn sôn eu bod yn fêpio’n rheolaidd.

Rhai o’r canfyddiadau eraill sy’n peri pryder o’r arolwg hwn yw bod:

  • 92% o’r holl fêpwyr cyfredol yn defnyddio fêpiau sy’n cynnwys nicotin
  • 55% o’r holl fêpwyr cyfredol yn sôn eu bod yn defnyddio cynnyrch fêpio sy’n debygol iawn o fod yn anghyfreithlon a heb eu rheoleiddio, trwy gynnwys mwy na 600 o bwffiadau
  • 45% o’r holl fêpwyr cyfredol yn dweud eu bod yn methu mynd trwy’r diwrnod ysgol cyfan heb fêpio
  • 42% o’r holl ddysgwyr yn dweud bod cael gafael ar fêpiau yn hawdd
  • 57% yn dweud bod fêpio’n gyffredin yn eu grŵp blwyddyn
  • Er bod 37% o’r fêpwyr cyfredol yn dweud eu bod hefyd yn smygu; roedd 22% o’r fêpwyr cyfredol yn dweud nad oedden nhw erioed wedi smygu

Beth mae pobl ifanc yn dweud wrthyn ni?

Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethon ni gynnal grŵp ffocws bach gydag 19 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 8-13 mewn ysgol yng Ngogledd Cymru. Dyma rai negeseuon allweddol o’r sesiwn honno:

Beth sy’n dylanwadu ar bobl ifanc i fêpio?  

  • “Mae’n hawdd cael gafael ar fêpiau – gallwch chi gael nhw o siopau fêpio a siopau 24 awr“
  • Dywedodd pobl ifanc wrthyn ni mai’r dylanwadau arnyn nhw yw – lliw’r pecynnu; pecynnu sy’n marchnata i blant; hysbysebu ar gyfer plant; blas sy’n apelio; pwysau cyfoedion ac yn yr ysgol; y cyfryngau; pris; hawdd cael gafael arnyn nhw; arogl; pobl hŷn yn rhoi pwysau ar bobl ifanc; ‘mae’n cŵl’, ‘byddi di’n teimlo ton o gyffro’; ‘ffad’; ‘i ffitio mewn’; ‘i leihau straen’
  • “Mae pobl ifanc eisiau gweld mwy o bwysau gan y llywodraeth i newid pethau”

Ydych chi’n meddwl bod pobl ifanc yn gweld fêpio fel rhywbeth niweidiol?  

  • “Does dim digon o gyhoeddusrwydd i niwed fêpio”
  • “Mae pobl ifanc yn gweld fêpio fel dewis diogel yn lle smygu”
  • “Mae rhai’n gwybod am y risgiau ond yn anwybyddu nhw; mae eraill yn gwybod beth yw’r risgiau, ond yn gwneud e beth bynnag”. Dywedodd un person ifanc mai’r rheswm am hynny oedd “oherwydd y lliwiau”
  • “Does neb yn gwybod beth fydd effeithiau tymor hir fêpio achos bod e mor newydd”
  • “Ie, ond nid PA MOR niweidiol”

Beth mae oedolion yn deall am fêpio, yn eich barn chi?

  • “Does dim digon o gyhoeddusrwydd am effeithio fêpio i bobl eu deall nhw’n llawn”
  • “dyw rhieni ddim yn gwybod bod eu plant yn fêpio, ac os ydyn nhw, dydyn nhw ddim yn ymwybodol o risg hynny i’w plant”
  • “mae rhai [oedolion] yn annog e”
  • “Does gan rai rhieni ddim syniad pa mor gaeth yw eu plentyn”
  • “dim digon”
  • “mae plant yn gwybod mwy achos bod nhw’n ymwneud ag e’n fwy”
  • “Ydyn, mae oedolion yn gwybod, ond ddim faint na pha mor aml”

Yn ogystal â’r sesiwn yma gyda phobl ifanc, fe glywais i hefyd gan staff ysgolion a phobl broffesiynol sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyflyrau caeth. Fe ddwedson nhw sawl peth oedd yn peri pryder wrthyf fi, yn cynnwys:

  • Bod plant eisoes yn gaeth i fêpio wrth ddod i’r ysgol uwchradd o’r ysgolion cynradd
  • Bod rhai plant yn gadael gwersi ddwy neu dair gwaith i fêpio
  • Bod pobl ifanc yn cerdded allan o arholiadau ffug oherwydd eu bod nhw’n methu ymdopi am gyfnod o’r hyd yna heb fêpio
  • Bod pobl ifanc ddim yn anadlu allan er mwyn gallu smygu yn yr ystafell ddosbarth
  • Bod pobl ifanc yn defnyddio fêpiau yn cynnwys lefel uchel o nicotin
  • Bod pobl ifanc 16/17 oed ddim yn gorfod dangos prawf adnabod ac yn prynu fêpiau anghyfreithlon. Gall person ifanc brynu nhw am bris uwch oherwydd y ‘risg’. Fêp 600 pwffiad am £1 neu £2
  • Fe glywson ni mai polisi’r awdurdod lleol yw bod gwaharddiad awtomatig os caiff person ifanc eu dal gyda fêp. Bydden ni’n gobeithio am ddull gweithredu mwy cynorthwyol.
  • Fêpiau THC newydd yn dod ar gael – mae’r rhain yn edrych fel fêpiau normal, ond yn cynnwys canabis. Roedd pryderon hefyd ynghylch cyffuriau niweidiol eraill yn cael eu rhoi mewn fêpiau a’u darparu i blant.
  • Pobl ifanc yn cael gafael ar ‘snus’ (cynnyrch tybaco a ddefnyddir trwy ei roi yn y geg, sy’n anghyfreithlon i’w werthu yn y Deyrnas Unedig) i gael nicotin oherwydd bod ysgolion yn gwneud defnyddio fêpiau yn yr ysgol yn anoddach.
  • Therapi amnewid nicotin – ar hyn o bryd mae pobl ifanc yn methu cael mynediad at hyn yn achos fêpio.

Beth sy’n digwydd i amddiffyn a chynorthwyo plant a phobl ifanc?

Yn 2023, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ganllawiau i ysgolion, gyda’r bwriad o roi sylw i fêpio ymhlith disgyblion oed ysgol uwchradd. Mae’r canllawiau hyn i’w croesawu ac o gymorth trwy gysylltu camau gweithredu â’r cwricwlwm newydd er mwyn cefnogi staff ysgolion.

Sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau, i ymchwilio i’r cynnydd mewn fêpio ymhlith plant a phobl ifanc. Cyhoeddodd y Grŵp adroddiad ym mis Ebrill 2024. Dyma rai o argymhellion y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig:

  • Dylai fod cefnogaeth i bobl ifanc sy’n dibynnu ar nicotin oherwydd fêpiau. Dylai pobl ifanc sydd ag angen penodol oherwydd eu dibyniaeth gael mynediad at therapïau amnewid nicotin (NRT). Mae’r therapïau hyn eisoes ar gael i unrhyw un dros 12 sy’n smygu. Gall NRTs gynnwys gwm cnoi, patshys ar y croen, neu fewnanadlwyr.
  • Ni ddylai fêpiau fod yn weladwy yn y man gwerthu a dylai dyfeisiau a nwyddau fêpio fod ar gael mewn pecynnu plaen, safonol, heb ei frandio yn unig.
  • Dylai’r enwau blas gael eu cyfyngu’n gyfreithiol i restr benodedig o ddisgrifwyr sylfaenol.
  • Dylid cyfyngu’r dewis o flas i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau.
  • Dylid gwahardd gwerthu a chyflenwi dyfeisiau tafladwy (un defnydd).

Beth mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud?

Ym mis Mawrth 2024, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil Tybaco a Fêpiau i Senedd y Deyrnas Unedig. Mae’r Bil yn cynnwys cynigion ar gyfer cosbau llymach i’r rhai sy’n gwerthu cynnyrch fêpio i bobl ifanc o dan 18 oed, ac sy’n rhoi samplau o gynnyrch fêpio am ddim. Byddai’r Bil yn newid y gyfraith i sicrhau cyfyngiadau ar flas a chynnwys cynnyrch fêpio. Byddai hefyd yn gwneud cynnyrch fêpio yn llai deniadol trwy gyfyngu ar olwg y pecynnu, a chyfyngu ar ble mae modd arddangos cynnyrch fêpio mewn siopau. Mae  Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r newidiadau a gynigir yn y Bil.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd hefyd yn newid y gyfraith yma i wahardd fêpiau untro oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd.

Ni symudwyd ymlaen gyda Bil Tybaco a Fêpiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024. Mae’n gwbl hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag niwed tybaco ac e-sigarets (fêpiau), ac mae’n rhaid ailgyflwyno’r Bil hwn. Rwy’n falch, felly bod Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo ym mis Gorffennaf 2024 i ailgyflwyno’r Bil fel rhan o’u rhaglen lywodraethu.

Rwy’n cefnogi’n llawn Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd fêpiau untro. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc eu hunain yn cael eu clywed yn briodol yn y cynlluniau hyn.

Beth byddwn ni’n ei wneud

Mae’n eithriadol o bwysig bod y Bil Tybaco a Fêpiau yn cael ei ailgyflwyno i Senedd y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig, a byddaf innau’n chwilio am bob cyfle i gydweithio â’r Comisiynwyr eraill ar draws y Deyrnas Unedig i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddo. Yn y cyfamser, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i roi argymhellion adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith. Mae’n gwbl hanfodol bod gweithredu ar hyn cyn diwedd tymor y Senedd yng ngwanwyn 2026 a byddaf yn parhau i godi hyn gyda Gweinidogion y Cabinet pan fyddwn ni’n cwrdd, ac yn cadw llygad ar gynnydd yr argymhellion hyn.

Byddwn ni hefyd yn parhau i glywed am brofiadau plant, ac yn sicrhau bod y bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant yn ymwybodol o ganllawiau defnyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y pwnc hwn i ysgolion.