Young children playing football on a field

Gordewdra / Pwysau Iach

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na chwarter plant 4 neu 5 oed yng Nghymru yn cael eu mesur fel dros eu pwysau neu’n ordew, gydag un o bob deg yn ordew. Dylai’r ffigurau hyn ein poeni, ond ni ddylid eu gweld ar wahân i’w cyd-destun chwaith. Mae’r rhesymau y tu ôl i’r ffigurau hyn yn gymhleth. Maen nhw’n cynnwys effaith byw mewn tlodi; ynmddygiadau sy’n adlewyrchu effaith datblygiadau technolegol ar fywyd modern; dylanwad a ffordd o fyw ffrindiau a theulu; hyrwyddo a bwyta bwydydd sydd yn gallu niweidio iechyd plant a phobl ifanc.

Ond mewn trafodaethau am ordewdra a phwysau, mae perygl o roi gormod o bwyslais ar weithredoedd a dewisiadau unigolion. Yn enwedig o ran plant, mae’r dewisiadau a heriau wedi’u cyfyngu gan y gymdeithas o’u cwmpas.

O ganlyniad, rwy’n croesawu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i ymgynghori ar gynigion i wneud amgylcheddau bwyd yn iachach. Mae’r dull hwn yn cydnabod yr effeithiau cymdeithasol ehangach ar iechyd plant, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni yng Nghymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i greu amgylcheddau bwyd iach, wedi’u llywio gan blant a phobl ifanc eu hunain. Mae ymgynghoriad ar y cynigion hyn ar agor ar gyfer ymatebion tan 23 Medi.  

Mae gan blant yr hawl i gael diet iach a maethlon

O dan Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), mae gan bob plentyn yr hawl i’r safon uchaf posib o iechyd, ac fel rhan o hyn, dylai llywodraethau ddarparu ‘digon o fwydydd maethlon’. Mae Erthygl 24 hefyd yn nodi y dylai llywodraethau sicrhau bod pob rhan o gymdeithas, yn enwedig rhieni a phlant, fynediad at addysg a’u bod yn cael eu cefnogi wrth ddefnyddio gwybodaeth sylfaenol am iechyd a maeth plant.  

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynhyrchu ‘Sylwadau Cyffredinol’, a ddyluniwyd i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i wladwriaethau ar ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant. Mae Sylw Cyffredinol Rhif 15 (2013) ar erthygl 24 yn nodi: 

“Mae monitro maeth a thwf digonol mewn plentyndod cynnar yn arbennig o bwysig… 

… Mae bwyd ysgol yn ddymunol i sicrhau bod pob disgybl yn cael pryd o fwyd llawn bob dydd, a all hefyd wella sylw plant at ddysgu a chynyddu cofrestriad ysgolion… 

… Dylai amlygiad plant i “fast food” sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen, a dwysedd ynni ac yn isel mewn microfaetholion, a diodydd sy’n cynnwys lefelau uchel o gaffein neu sylweddau eraill a allai fod yn niweidiol, fod yn gyfyngedig. Dylid rheoleiddio marchnata’r sylweddau hyn – yn enwedig pan fo marchnata o’r fath yn canolbwyntio ar blant – a rheolir eu hargaeledd mewn ysgolion a lleoedd eraill…” 

Rwy’n falch bod nifer o’r camau a argymhellir yn cael eu cydnabod gan strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gordewdra – Pwysau Iach: Cymru Iach. 

Gordewdra plentyndod yng Nghymru

Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o gael eu mesur dros bwysau neu’n ordew na phlant yn yr Alban neu Loegr, ac mae hyn yn parhau i fod yn wir yn y ffigurau diweddaraf. Mae’r gwahaniaeth rhwng y plant o fannau difreintiedig a’r plant o fannau llai difreintiedig yn glir, gyda phlant yn byw yn yr ardaloedd cod post ‘pumed mwyaf difreintiedig’ yn ystadegol yn llawer mwy tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig. Mae gwahaniaethau hefyd rhwng ardaloedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, cafodd 7.9% o blant Sir Fynwy eu mesur fel rhai gordew, tra bod y ffigwr yn 14.3% o blant ym Mlaenau Gwent.  

Mae’r ystadegau hyn yn creu darlun o anghydraddoldeb sy’n peri pryder mawr, ond nid yw mesuriadau pwysau plant, ar eu pennau eu hunain, yn dweud llawer wrthym o ran sut i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.  Rwy’n credu bod rhaid mynd i’r afael â’r meysydd rydw i am amlinellu yn y papur yma er mwyn ceisio lleihau’r ffigurau hyn. Mae angen i ni weld gordewdra ymhlith plant fel arwydd o benderfynyddion iechyd ehangach, gan gynnwys amddifadedd, a sicrhau bod mesurau’n mynd i’r afael â’r rhain yn gyfannol. Mae hyn yn cynnwys ystyried rôl hanfodol bwyd a maeth, a gweithgarwch corfforol wrth ddylanwadu ar bwysau a lles.  

Amgylcheddau bwyd iach – prydau ysgol

Un rhan hanfodol o frwydro yn erbyn maeth gwael ymhlith plant yw gwella ansawdd y bwyd y mae plant yn ei fwyta yn yr ysgol.  Rwy’n gefnogol iawn o lwyddiant Llywodraeth Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru (fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru); cam sy’n rhoi cyfle gwirioneddol i ddarparu prydau iach i filoedd o blant yng Nghymru. Rwyf wedi galw o’r blaen am ymestyn prydau ysgol am ddim i blant ysgolion uwchradd hefyd, yn ogystal ag addasu’r trothwy enillion isel iawn, oherwydd pwysigrwydd maeth a chynhaliaeth ar gyfer datblygiad plant ar bob oedran.  

Gwyddom fod llawer o blant hefyd yn llwglyd yn ystod gwyliau’r ysgol, ac rwyf wedi mynegi fy siom o’r blaen ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ôl yn ystod gwyliau’r ysgol; mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyfaddef bod y penderfyniad heb wedi ystyried hawliau plant yn ddigonol o dan CCUHP yn dilyn adolygiad barnwrol. 

Ym mis Ebrill 2024, cynhaliodd fy swyddfa arolwg yn gofyn barn plant am ginio ysgol.  Cymerodd 490 o blant unigol ran rhwng 7 a 18 oed. Cymerodd 1250 o blant eraill ran mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Dyma rai o’r canlyniadau allweddol: 

  • Dywedodd dim ond 19% eu bod yn llawn ar ôl eu pryd bwyd. Dywedodd bron i hanner (44%) na allan nhw gael mwy o fwyd os ydyn nhw’n gofyn amdano.  
  • Dywedodd bron i chwarter (24%) o blant na allant gael llysiau bob amser os ydyn nhw eu heisiau, a dywedodd 22% na allant gael ffrwythau bob amser os ydyn nhw ei eisiau. 

Pan ofynnwyd iddynt am eu syniadau ar wneud ciniawau ysgol yn well, yr ateb mwyaf cyffredin o bell ffordd ymhlith plant oedd bod eisiau mwy o fwyd. Rwyf wedi rhannu canfyddiadau arolwg fy swyddfa, ac wedi eu trafod gydag Ysgrifenyddion y Cabinet dros Iechyd ac Addysg. Mae’n bwysig ein bod yn deall pam bod plant yn dweud nad ydynt yn teimlo’n llawn. Mae’n debygol, yn fy marn i, o fod yn gyfuniad o faterion sy’n ymwneud â maint rhannau, gwerth maethol, cost bwyd ysgol / lwfans prydau ysgol am ddim.  

Nid yw’r mater hwn yn unigryw i Gymru, ac felly gellir ystyried syniadau o lefydd eraill, gan gynnwys y gwaith hwn gan Food Active. Cynhaliodd Food Active gyfres o grwpiau ffocws wyneb yn wyneb gyda thua 40 o ddysgwyr ysgolion uwchradd ar draws Gogledd Orllewin Lloegr. Ymhlith canfyddiadau eu hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 roedd: 

  • Mae amser egwyl yn cynnig gwasanaeth bwyd poblogaidd iawn, ond mae opsiynau iachach yn gyfyngedig ar hyn o bryd. 
  • Mae cost bwyd a diod yn ffactor pwysig i bobl ifanc; mae rhai prisiau y cyfeirir atynt yn cynyddu ochr yn ochr â gostyngiad mewn meintiau rhannau. 
  • Roedd pobl ifanc yn codi materion yn gyson am natur anhrefnus a dirdynnol y man bwyta, a chiwiau hir. 
  • Mae amser cinio yn rhy fyr, ac mae llawer o bobl ifanc yn adrodd am faterion fel rhedeg allan o fwyd a’r amser yn effeithio ar weithgareddau eraill fel clybiau a chwaraeon er mwyn bwyta. 
  • Roedd pobl ifanc yn aml yn nodi’r ansawdd gwael a’r amrywiaeth gyfyngedig o fwydydd sy’n cael ar gael ar draws y diwrnod ysgol, ac eisiau gweld hyn yn gwella. 
  • Roedd pobl ifanc fel arfer yn anghyfarwydd ag ysgolion yn cynnig mentrau bwyta’n iach neu’n ymwybodol o unrhyw bolisïau yn ymwneud â darparu opsiynau iachach. 
  • Roedd gan bobl ifanc lawer o syniadau ar sut i annog bwyta’n iachach yn yr ysgol, gan gynnwys gwneud bwydydd iachach yn fwy apelgar, newidiadau i brisio, darparu mwy o wybodaeth am fwyta’n iach, cyflwyno clybiau garddio a chyfyngu ar hyrwyddo opsiynau llai iach wrth dalu. 
  • Yn gyffredinol, mae lleoedd i brynu bwyd ar daith disgybl i’r ysgol yn cael eu dominyddu gan ddewisiadau llai iach, ac mae’r rhain yn boblogaidd, deniadol a chyfleus i bobl ifanc o’u cymharu â’r cynnig o fewn ysgolion.

Er bod y gwaith o ddiweddaru rheoliadau ar fwyd mewn ysgolion yn hanfodol bwysig, rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried y ffactorau amgylcheddol hynny ymhellach.  O gofio bod gwaith yn parhau ar y camau cynharaf, mae pob cyfle i sicrhau bod y safbwyntiau hyn gan blant a phobl ifanc yn cael eu hystyried fel rhan o’r rheoliadau a’r canllawiau diwygiedig.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru, fel rhan o’u cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022-24, wedi ymrwymo i ‘adolygu’r rheoliadau ar faeth bwyd ysgol yn unol â’r safonau a’r canllawiau maeth diweddaraf, a diweddaru safonau cyfredol’. Rhaid i werth maethol bwyd ysgol fod yn flaenoriaeth wrth adolygu’r rheoliadau, a rhaid anelu at fodloni’r safonau uchaf posibl yn unol ag erthygl 24 CCUHP. Mae’n hanfodol ymgynghori â phlant a phobl ifanc wrth brofi’r safonau newydd arfaethedig. Byddwn yn codi’r angen i blant a phobl ifanc gymryd rhan weithredol yn y diwygiadau hyn gyda Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar botensial bwyd ysgol i wella iechyd plant, a ganfu nad yw deietau llawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cyrraedd argymhellion dietegol cenedlaethol, ac nad yw’r cyfleoedd i wella iechyd y boblogaeth trwy fwyd ysgol yn cael eu cymryd. Mae’r adroddiad yn nodi ‘… er bod Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth 2013) o fewn y gyfraith, nid yw’r cydymffurfiad â’r safonau maeth mewn ysgolion ledled Cymru a’r cyfraniad y maent wedi’i wneud at y defnydd dietegol o blant oed ysgol yng Nghymru yn hysbys’. Mae’r adroddiad yn galw am fframwaith monitro a chydymffurfio er mwyn sefydlu a yw ysgolion yn cyrraedd y safonau disgwyliedig. Rwy’n cymeradwyo’r alwad hon yn llwyr gan ei bod yn hynod bwysig bod gwir atebolrwydd ynghlwm wrth y Rheoliadau diwygiedig newydd. 

Amgylcheddau bwyd iach yn y cartref ac yn y gymuned

Mae costau byw a chost bwyd yn effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, ac rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd yn profi ansicrwydd bwyd yn y cartref, gan arwain at gyfyngu ar blant yn eu dewisiadau bwyd iach.  Canfu ein harolwg cenedlaethol o dros 10,000 o blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol y canlynol: 

  • Roedd 45% o blant 7-11 oed, a 26% o bobl ifanc 12-18 oed eu bod yn poeni am gael digon i’w fwyta. 
  • Dywedodd 36% o rieni eu bod yn poeni bod eu plant yn cael digon o fwyd. 
  • Roedd 61% o blant 7-11 oed yn poeni nad oedd gan eu teuluoedd ddigon o arian ar gyfer y pethau sydd eu hangen arnynt, fel y gwnaeth mwyafrif (52%) o blant 12-18 oed. 

Mae’r Food Foundation yn cynhyrchu traciwr ansicrwydd bwyd misol, sy’n dangos bod miliynau o blant ledled y DU yn profi ansicrwydd bwyd. Rydyn ni’n gwybod y gall gwneud dewisiadau bwyd iach fod yn anodd iawn i deuluoedd sy’n byw ar incwm isel oherwydd cost bwyd iach. Mae’r adroddiad diweddaraf o fis Mehefin yn dangos bod “23% o deuluoedd gyda thri phlentyn wedi profi ansicrwydd bwyd o ganlyniad i’r terfyn budd-dal dau blentyn, gan godi i 26% o deuluoedd gyda phedwar neu fwy o blant”.

Rwyf wedi ymuno’n gyson â’m cymheiriaid yn y DU i alw am ddileu’r polisi creulon hwn ar gyfer cap budd-daliadau dau blentyn. Rwy’n gwneud y cais hwn unwaith eto i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rwyf hefyd yn bryderus iawn am hyrwyddo bwyd a diodydd sydd ddim yn iach i blant, gan gynnwys diodydd egni. Rwy’n falch, felly, bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â rheoliadau i gyfyngu ar hyrwyddo y bwydydd yma – mynd i’r afael â phethau fel cynnig bargeinion ar fwyd a diod penodol; lleoliad bwyd a diod sydd ddim yn iach mewn rhai mannau sy’n annog pobl i’w prynu, mewn siopau ac ar-lein. Bydd y newidiadau hefyd yn cyfyngu ar hyrwyddiadau ail-lenwi am ddim ar ddiodydd afiach.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw am dystiolaeth ar gynigion i gyfyngu ar werthu diodydd ynni i bobl dan 16 oed.

Croesewir y camau hyn gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n annog y llywodraeth i weithredu’r newidiadau hyn yn gyflym.  

Gweithgaredd corfforol

Tybed hefyd a ydym, efallai oherwydd y ffaith ei bod yn haws coladu data ar bwysau, yn gorbwysleisio pwysau ac yn esgeuluso rôl sylfaenol gweithgaredd ac ymarfer corff mewn iechyd plant.

Mae cerdyn adroddiad diweddaraf Plant Iach Egnïol Cymru (2021) yn rhoi darlun pryderus o weithgarwch corfforol gwael yn gyffredinol, gyda sgôr mewn perthynas ag ymddygiad eisteddog yn gosod Cymru ar waelod (ar y cyd gyda thair gwlad arall) y 57 gwlad sy’n cymryd rhan.

Yn 2022, cynhaliodd Chwaraeon Cymru arolwg o dros 116,000 gan 1,000 o ysgolion. Canfu’r arolwg fod gostyngiad o 9% wedi bod yn nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm ers 2018; Cynnydd o 8% o bwyntiau yn y rhai nad ydynt yn adrodd am unrhyw gyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm. Gostyngodd y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn lleoliad clwb cymunedol o leiaf unwaith yr wythnos 9% o bwyntiau. Dim ond 40% o’r disgyblion ddywedodd eu bod yn mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘llawer’, 57% wedi mwynhau Addysg Gorfforol ‘llawer’ a 47% yn mwynhau chwaraeon clwb cymunedol ‘llawer’.

Canfu’r arolwg fod gwahaniaeth o 15% mewn cyfranogiad mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu ers 2018. Dim ond 60% o’r ysgolion a ddywedodd fod ganddyn nhw’r offer i gynnwys disgyblion anabl, disgyblion â nam neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae’n amlwg bod yn rhaid i ni wneud mwy i gefnogi plant i osgoi ymddygiad eisteddog ac i annog cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol, ochr yn ochr â hyrwyddo diet iach.

Ym mis Mai 2024, gwnaethom gynnal arolwg o tua 1,300 o blant a phobl ifanc, gan eu holi am eu cyfleoedd i fwynhau chwarae neu amser egwyl yn ystod yr ysgol. Roedd hyn wrth gwrs yn ymwneud â gallu plant i ymarfer corff, cymdeithasu a chael gafael ar fwyd.

Atebodd 46% o’r ymatebwyr ‘ydw’ i’r cwestiwn ‘Ydych chi byth yn colli eich amser chwarae / amser egwyl?’. Er bod llawer o’r rhesymau a roddwyd dros golli amser egwyl yn ymwneud â chosb, ymatebodd llawer eu bod yn cael eu cadw i mewn i gwblhau gwaith os nad oeddent wedi’i gwblhau yn ystod amser dosbarth, dywedodd eraill ‘nid ydym bob amser yn mynd allan am 5 munud o chwarae’, neu ‘oherwydd ei bod hi’n bwrw glaw’. Pan ofynnwyd iddynt beth fyddai’n gwneud chwarae neu amser egwyl yn well, cododd llawer o blant yr hoffent gael mwy o offer i allu gwneud ymarfer corff a gweithgareddau. Dywedodd llawer eu bod yn teimlo bod eu hamseroedd egwyl yn rhy fyr. Roedd sylwadau hefyd mewn perthynas â chael amser i gael bwyd: 

... Mae’r amser yn rhy fyr yn cael ei ddal yn ôl ar amseroedd egwyl … 

… Dim lle i chwarae pan mae’n bwrw glaw, gorfod eistedd i lawr a does dim llawer o le ddim yn uchel [sic] i chwarae pêl-droed neu aloud [sic] i chwarae ar y glaswellt… 

… Gydag amser egwyl does dim digon o amser i fynd i’r tŷ bach a chael bwyd roedden nhw’n tynnu’r bwyd da i ffwrdd a does dim bwyd da bellach… 

Canolbwyntio ar benderfynyddion ehangach gordewdra 

Rwyf wedi fy nghalonogi bod llawer o’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc yn gwneud ymdrechion penderfynol i ganolbwyntio ar y penderfynyddion ehangach hynny o ordewdra. Mae hyn yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n rhestru dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd, a hyrwyddo dulliau ataliol ac ymyrraeth gynnar fel rhan o’u 6 blaenoriaeth strategol allweddol yn eu cynllun strategol ar gyfer 2023-26.

Er bod ffocws ar wella canlyniadau plant a phobl ifanc o ran eu hiechyd yn hynod bwysig, rwy’n annog Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau eu bod yn pwysleisio pwysigrwydd y penderfynyddion cymdeithasol ehangach hynny, uwchben unrhyw ddadleuon ynghylch cyfrifoldebau personol, a sicrhau bod iechyd plant yn cael ei gysyniadu yn ei ystyr ehangaf, i gynnwys maeth a gweithgarwch corfforol. Mae angen dull cefnogol, nid yn un gosbgar sy’n seiliedig ar ddiffyg sydd â’r potensial i anwybyddu’r cyfyngiadau cymdeithasol sy’n siapio bywydau a dewisiadau plant a theuluoedd.

Rocio Cifuentes

Comisiynydd Plant Cymru