Sefyllfa Polisi ar ADY

Y diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu, corfforol a/neu synhwyraidd. Mae hynny’n wahanol i ddiffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol sylweddol, hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beuyddiol arferol. Gall fod gan blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol anabledd yn ogystal, ond ni fydd rhai anableddau o reidrwydd yn creu anghenion dysgu ychwanegol.   

Rydyn ni’n gwybod bod plant ag ADY yn aml yn wynebu rhwystrau wrth gyrchu cefnogaeth mewn meysydd fel addysg a iechyd. Mae data o Gyfrifiad Ysgolion Llywodraeth Cymru yn Ionawr 2024 yn dangos bod anabledd a/neu anhawster dysgu gan 13% o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach, a bod disgwyl i gyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth ADY gynyddu 7% o gymharu â’r llynedd. 

Yng Nghonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, mae sawl erthygl sy’n ymwneud â phlant ag ADY. Mae’r rheiny’n cynnwys: 

  • Erthygl 23 – bod gan bob plentyn sydd ag anabledd hawl i ofal a chefnogaeth arbennig er mwyn gallu byw bywyd llawn, annibynnol. 
  • Erthygl 24 – hawl y plentyn i fwynhau’r safon uchaf o iechyd sy’n bosibl, ac i gyfeusterau ar gyfer trin salwch ac ailsefydlu iechyd.  
  • Erthygl 28 – hawl y plentyn i gael addysg, gyda golwg ar gyflawni’r hawl hon yn gynyddol ac ar sail cyfle cyfartal.  
  • Erthygl 29 – rhaid cyfeirio addysg plentyn at ddatblygu personoliaeth y plentyn, eu doniau, a’u galluoedd meddyliol a chorfforol hyd eithaf eu potensial.   

Beth rydyn ni’n gwybod?

  • Mae Grŵp Llywio’r Gymraeg wedi cael ei ailgyflunio er mwyn cyfuno arbenigedd ar draws ADY a’r Gymraeg yng nghyswllt Bil Addysg Gymraeg (Cymru)    
  • Roedd tua thraean o’r gwaith achosion a ddaeth at ein tîm gwasanaeth Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn ymwneud â phroblemau a wynebwyd gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni wedi clywed am achosion o blant yn wynebu’r canlynol:  
  1. cael eu rhoi ar amserlenni cyfyngedig os nad yw ysgol yn gallu cwrdd â’r angen
  2. oedi wrth gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
  3. gwrthod trosi Rhaglen Addysg Unigol (RhAU) plentyn yn CDU oherwydd nad oedd y person ifanc yn bodloni’r “meini prawf” 
  • Rydyn ni hefyd wedi ymweld ag ysgol arbenigol lle na chafwyd darpariaeth ADY ddigonol oherwydd toriadau i gyllid a diffyg buddsoddi. Dywedodd y bobl ifanc wrthyn ni ‘Dyw rhai o’n cadeiriau olwyn ddim yn ffitio drwy’r drysau, ac rydyn ni’n methu mynd mewn i ystafelloedd. Does dim botwm ar unrhyw ddrysau, felly mae rhaid i ni ofyn am help’ ac y bydd eu hysgol ‘yn cwympo lawr cyn hir’.  
  • Dyw rhai ysgolion yng Nghymru ddim yn derbyn diagnosis preifat o ADHD.   
  • Plant o oed ifanc iawn heb ddarpariaeth addas i ddiwallu eu hanghenion 
  • Defnydd cynyddol o amserlenni y cyfyngwyd arnynt yn sylweddol, gan arwain at ddiffyg mynediad at addysg addas a digonol 
  • Gwrthdaro rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch perchnogaeth Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUiau) a’r cyfrifoldeb ynghylch creu darpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn y cynlluniau hynny 
  • Oedi sylweddol yng ngallu plant i dderbyn asesiadau gan seicolegwyr addysg a/neu i gael diagnosis o gyflyrau niwrolegol.  
  • Mae’r pwynt uchod yn effeithio ar fynediad plant at ddarpariaeth addas, gan gynnwys lleoedd ysgol arbenigol, er bod bwriad i’r system gael ei harwain gan anghenion, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar ddiagnosis. 

Beth rydyn ni wedi ei wneud? 

  • Cyhoeddi papur ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg ar anghenion penodol plant ag ADY, mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg; a chyflwyno’r papur i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, yn cynnwys gweithgor Llywodraeth Cymru ar ADY ac addysg cyfrwng Cymraeg. 
  • Cyflwyno ymateb i alwad Bil Addysg Gymraeg (Cymru) am dystiolaeth, yn gofyn i Lywodraeth Cymru greu amserlen ar gyfer datblygu ymyriadau cenedlaethol a chyhoeddi eu cynlluniau mewn meysydd sy’n cynnwys cynllunio’r gweithlu, adnoddau, a dysgu proffesiynol.  
  • Delio ag achosion oedd yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol trwy ein tîm Cyngor – roedd 14% o’r holl waith achosion yn 23/24 yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol.  
  • Cyfrannu at gyfarfodydd Fforwm Defnyddwyr Tribiwnlys Addysg Cymru. 
  • Cyfrannu tystiolaeth i ymchwiliadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i fynediad plant anabl at addysg a gofal plant, a gweithredu’r ddeddfwriaeth ADY. 
  • Mynychu Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwygio ADY Llywodraeth Cymru i arsylwi, gan drafod materion cysylltiedig â pholisi ADY Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n cynnwys gwneud ADY yn flaenoriaeth addysg genedlaethol; annog gwaith a chydweithio amlasiantaeth; a chefnogaeth i barhau i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. 

 Nod ein Dull Gweithredu Dim Drws Anghywir oedd deall sut mae rhaid i bobl ifanc a rhieni yn aml gael hyd i ffordd trwy systemau cymhleth, yn arbennig yn achos plant ag ADY sy’n symud o wasanaethau plant i rai oedolion. Cyflwynodd ein swyddfa y canfyddiadau hyn i Lywodraeth Cymru, sy’n gweithio ar gynllun niwroamrywiaeth.  

Beth sy’n digwydd i gefnogi plant?

Ym mis Mai 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer ADY mewn ysgolion. Neilltuwyd y cyllid hwn i helpu gyda chreu a diweddaru ardaloedd synhwyraidd, diweddaru cyfarpar arbenigol, a chreu ystafelloedd dosbarth a mannau awyr agored arbenigol, yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Ar ben hynny, mae adolygiad ar waith ar hyn o bryd i ystyried eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol.  

Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio nodi atebion i’r heriau. Bydd hynny’n cynnwys camau i gefnogi gweithredu, megis:  

  • ymdrechion ar y cyd i ddatblygu dealltwriaeth a rennir 
  • gwella’r canllawiau  
  • edrych ar unrhyw fesurau deddfwriaethol posibl 

Bydd yr adolygiad yn ystyried eglurder y Ddeddf ac yn sicrhau ei fod yn alinio â’r amcanion polisi arfaethedig, er ei fod hefyd yn nodi anghysondebau ac yn asesu sut caiff y Ddeddf ei chymhwyso yn ymarferol. Ni fydd yr adolygiad ADY o’r fframwaith deddfwriaethol yn dechrau adrodd tan haf  2025.  

Fel aelod o Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwygio ADY bydd fy nhîm yn parhau i fod yn rhan o’r sgyrsiau hyn ac yn eiriol dros fwy o dryloywder er mwyn sicrhau gwell cysondeb wrth gyflwyno ADY.  

Ym mis Medi 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i adroddiad Mynediad at Addysg i Blant Anabl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roedd yr ymateb yn cynnwys sawl argymhelliad allweddol a dderbyniwyd, y bydd ein swyddfa’n parhau i alw am weithredu arnyn nhw. Dyma rai o’r pwyntiau yma:   

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cwmpas yr adolygiad i’r Ddeddf a’r Côd ADY, ac yn amlinellu’r amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiad hwn, ac a fydd canfyddiadau’r adolygiad yn cael eu cyhoeddi.  
  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r ffordd orau i staff nad ydynt yn addysgu mewn ysgolion ac awdurdodau lleol gefnogi darpariaeth gynhwysol ar draws Cymru.  
  • Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i’r defnydd o amserlenni cyfyngedig, sy’n cynnwys am faint o amser mae plant a phobl ifanc yn eu dilyn, a’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn dychwelyd at amserlen lawn. 
  • Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad o gyllid ysgolion, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu’n gyhoeddus sut bydd yn symud ymlaen gydag unrhyw argymhellion neu gamau gweithredu sy’n deillio o hynny, ac yn cyflwyno amserlen glir ar gyfer cyflawni’r camau hyn.  
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau sy’n dangos yn glir gyfrifoldebau a dyletswyddau awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau eu bod yn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol, fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at eu hawl i gael addysg.  
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod naill ai adeiladau newydd, neu newidiadau i ystadau ysgol cyfredol, wedi’u seilio ar brofiadau a thystiolaeth plant, pobl ifanc, teuluoedd a staff sydd â phrofiad bywyd. 
  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am hawliau ym myd addysg, gan sicrhau ei bod ar gael yn eang, yn hygyrch mewn amrywiaeth o fformatau, ac yn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ddeall beth yw eu hawliau, a sut mae ceisio unioni’r sefyllfa os nad ydynt yn derbyn eu hawliau.  

 Beth sydd angen newid? 

  • Dileu rhwystrau sy’n atal plant ag ADY rhag cael mynediad at gefnogaeth mewn addysg a iechyd 
  • Sicrhau nad yw amserlenni cyfyngedig yn cael eu defnyddio mewn ymateb i ddiffyg adnoddau 
  • Gwella’r amser ymateb wrth gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)  
  • Dull gweithredu seiliedig ar anghenion wrth ystyried meini prawf plentyn   
  • Mwy o dryloywder ynghylch toriadau cyllid i ysgolion arbenigol, gan gynnwys cyfathrebu clir rhwng Llywodraeth Cymru a phlant a phobl ifanc 

Hyd yma, ar sail yr achosion a’r profiadau a ddaeth i’r swyddfa, nid yw’r Ddeddf wedi cyflawni’r effaith oedd mewn golwg, sef lleihau biwrocratiaeth a hwyluso mynediad teuluoedd at gefnogaeth i addysg eu plentyn. Er bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod hir o roi hyn ar waith, mae cryn bellter i’w deithio eto i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn eu hawl i addysg a gofal ar y lefel uchaf sy’n bosibl, i’w helpu i gyflawni hyd eithaf eu potensial.