Arholiadau

Yn yr haf, bydd pobl ifanc Cymru yn sefyll arholiadau.

Os ydych chi’n poeni am eich arholiadau neu eich gwaith cwrs y person gorau i siarad gyda nhw yw eich Pennaeth Blwyddyn neu diwtor personol yn eich ysgol neu coleg.

Mae yna opsiynau ar gael os nad ydych chi’n barod i sefyll eich arholiadau i gyd yn yr haf.

Gallwch chi hefyd cysylltu gyda Gyrfa Cymru i gael cyngor ar yr opsiynau sydd gennych chi. Gallwch chi sgyrsio arlein neu ar y ffôn, neu anfon ebost.

Mae gan hwb cynnwys Llywodraeth Cymru, Dal i Ddysgu, gwybodaeth, cyngor, ac awgrymiadau i helpu pobl ifanc sy’n sefyll arholiadau.

Os ydych chi’n poeni ac eisiau rhywun i siarad gyda nhw, cysylltwch gyda Meic arlein neu dros y ffôn.

Gwnewch yn siwr bod chi’n siarad gyda rhywun am unrhyw bryderon sydd gennych chi, a gofynnwch am help.