Astudiaethau Achos – Cyfranogiad

Ysgol Alun

Ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Alun, a fu’n rhan o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) er 2015.

Mae’r cyngor ysgol yn adolygu’r adroddiad sy’n cael ei greu gan SHRN ac yn craffu ar bob cwestiwn, gan amlygu’r prif benawdau a’r meysydd i ganolbwyntio arnynt. Bydd grwpiau tiwtor Blwyddyn 7-11 a chyngor y Chweched Dosbarth hefyd yn edrych ar is-feysydd yr adroddiad, yn edrych ar yr uchafbwyntiau ac yn canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau’r adroddiad. Mae hyn yn galluogi’r holl ddisgyblion i weithio ar y cyd a chael cyfle i rannu eu myfyrdodau ar ganfyddiadau iechyd a lles Ysgol Alun ac awgrymu camau gweithredu posibl i wella’r dull ymhellach.

Mae llais y disgybl yn hanfodol drwy gydol y cylch SHRN. Caiff yr holl ddisgyblion eu hannog i rannu eu myfyrdodau a chynnal trafodaethau rhwng disgyblion, rhwng disgyblion a staff, trafodaethau staff a thrafodaethau rhwng disgyblion ac oedolion yn y gymuned am y data yn yr adroddiadau.

Mae’r cyngor ysgol yn arwain y gwaith o ddadansoddi adroddiad SHRN, lle mae’n trafod rhesymau posibl am y canfyddiadau ac yn darganfod meysydd i’w dathlu neu i ganolbwyntio arnynt. Mae’r cyngor ysgol hefyd yn arwain ar lunio cynllun gweithredu SHRN yr ysgol, y mae staff yr ysgol ac oedolion yn y gymuned yn cyfrannu ato hefyd. Mae’r cynllun gweithredu yn bwydo’r Cynllun Datblygu Ysgol.

Mae’n ddull ysgol gyfan sy’n defnyddio egwyddorion Dull Hawliau Plant. Mae’r holl staff, disgyblion a rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o SHRN a’r rolau y mae’n eu chwarae o ran Erthyglau 12 a 24. Mae defnyddio Dull Hawliau Plant wedi annog disgyblion i gymryd rhan a dweud eu dweud ar iechyd a lles ac ABCh yn yr ysgol.

Mae rhannu adroddiad SHRN wedi iddo gael ei gynhyrchu yn hanfodol i’r cylch SHRN yn Ysgol Alun. Mae’n cynnig cyfleoedd pellach i drafod â phobl ifanc a chyfleoedd i bobl ifanc rannu eu barn a’u safbwyntiau ar y data a gafwyd. Mae’n holl staff yn rhan o broses ddadansoddi SHRN, gan gynnwys yn eu rolau bugeiliol fel tiwtoriaid grŵp i gefnogi trafodaethau gan bobl ifanc ar ganfyddiadau’r adroddiad SHRN.

Cyhoeddwyd adroddiad diwethaf yr ysgol yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Addasodd y cyngor ysgol ei dull drwy gyfarfod ar-lein ac adolygu’r adroddiad gan ddefnyddio dogfennau ar y cyd i roi sylwadau ac awgrymu camau gweithredu yn y dyfodol.

Mae defnyddio’r dull hwn yn golygu bod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn iechyd a lles yn eu lleoliad, ar lefel leol ac yn genedlaethol, gan chwilio am unrhyw batrymau neu wahaniaethu o ran meysydd y maent yn eu dathlu a’r meysydd maent yn canolbwyntio arnynt. Mae pobl ifanc yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn ymwybodol o’u hawliau.

Mae llais y disgybl wedi effeithio ar eu cwricwlwm a’r dull ysgol gyfan ar gyfer pynciau a themâu yng nghymuned yr ysgol. Mae wedi helpu ennyn sgyrsiau am hawliau ar draws y gymuned a chodi ymwybyddiaeth o iechyd a lles. Mae’r cwricwlwm wedi’i deilwra’n unol â’r adroddiad SHRN ac ymgynghoriadau llais y disgybl. Erbyn hyn, gall disgyblion, staff a’r gymuned siarad yn rhwyddach am bynciau a oedd yn sensitif i’w trafod yn y gorffennol. Mae mwy o ddisgyblion yn rhoi adborth ac yn cyfrannu at yr holiaduron mae’r ysgol yn eu creu yn rheolaidd.

Ysgol Hafod Lon

Creuwyd y fideo yma gan ddisgyblion yn Ysgol Hafod Lon, ysgol i blant 3-19 oed gydag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol.

Yn y fideo mae disgyblion yn dangos y llefydd yn yr ysgol sy’n helpu nhw i deimlo’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel, ac yr hawliau plant sydd yn bwysig iddynt:

Ysgol Gynradd Bryn Deva 

Mae’r cyngor ysgol wedi ennill ei blwyf yma ac yn cael ei werthfawrogi. Cynrychiolir plant o’r derbyn i flwyddyn chwech, felly mae pob plentyn yn deall ac yn arddel eu hawliau dynol a’u hawliau democrataidd.

Mae cyfranogiad yn fater difrifol a chynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod amser gwersi. Cymerir cofnodion ym mhob cyfarfod a’u harddangos ar hysbysfwrdd y Cyngor Ysgol ac mewn Ffolderi sy’n cael eu cadw ym mhob ystafell ddosbarth.

Mae’r Cyngor Ysgol yn cefnogi’r gwaith o addysgu a dysgu am ddemocratiaeth ac mae’n annog y plant i ymgysylltu â materion cyfoes sy’n ymwneud â Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.  Maen nhw’n ymgysylltu â’u Haelod Seneddol lleol a chynllun Llysgenhadon Gwych y Comisiynydd Plant.

Mae’r cyngor ysgol wedi gweithio ar nifer o faterion, gan gynnwys: teithio llesol; cyfweld â staff; penderfyniadau ynghylch y gyllideb; cyflwyno gwasanaethau ar fwyta’n iach; gweithio ar bolisïau ysgol.

Mae bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol yn cael effaith fawr. Mae’n cynnig siawns i’r plant ddatblygu nifer o sgiliau, yn gwella eu hyder ac yn rhoi cynifer o gyfleoedd newydd iddyn nhw. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi: cyfarfod â’r Gweinidogion Addysg; cyfarfod â chynghorwyr, Aelodau o’r Cynulliad/Senedd ac Aelodau Seneddol lleol; a chynrychioli’r ysgol yng Ngwasanaeth y Gymanwlad yn Abaty Westminster lle’r oedd Ei Mawrhydi y Frenhines, aelodau hŷn eraill o’r teulu brenhinol a Boris Johnson yn bresennol.