Astudiaeth Achos – Grymuso

Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh: creu mannau diogel i archwilio safbwyntiau a phrofiadau gwahanol

Ysgol arbennig annibynnol ym Mhowys yw Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh, ac mae’n rhan o gymuned therapiwtig achrededig. Mae’r achrediad hwn yn seiliedig ar set o 10 o Werthoedd Craidd o gymharu â chasgliad o safonau seiliedig ar dystiolaeth a gynhelir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Nod sylfaenol yr ysgol yw bod gan bob person ifanc yr hawl i lais cyfartal a’u bod yn gallu cyfranogi mewn penderfyniadau yn y gymuned. Mae grymuso â’i wreiddiau mewn perthnasoedd sy’n hwyluso cyfranogiad yn seiliedig ar gael llais, parch a rhyng-ddibyniaeth. Cynllunnir cymunedau therapiwtig i hwyluso’r mathau hyn o berthnasoedd.

Wrth wraidd y diwylliant hwn mae cyfarfodydd a gynhelir ddwywaith y dydd, yn union cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal â chyfarfodydd estynedig sy’n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw galluogi’r bobl ifanc i ddeall, trafod a mynegi eu profiadau a’r hyn sydd ar eu meddwl mewn modd agored, gonest a diogel.

Mae’r cyfarfodydd hyn hefyd yn creu lle diogel i bobl ifanc fynegi pryderon a chodi materion sy’n effeithio arnyn nhw o flaen eu cyfoedion a’r staff hefyd. Mae dull gweithredu’r gymuned therapiwtig yn golygu bod addysg, gofal a therapi wedi’u hintegreiddio ac mae’r cyfarfodydd dyddiol yn gyfle i’r bobl ifanc ofyn cwestiynau ynghylch pob rhan o’r gymuned. Hefyd, mae’n galluogi’r bobl ifanc i leisio cwynion a chyfrannu at wneud newidiadau. Yn ogystal, mae’r cyfarfodydd yn gyfle i’r bobl ifanc herio pobl eraill mewn modd priodol a chael cymorth i drafod unrhyw faterion sydd wedi codi gydag aelodau eraill o’r gymuned.

Cefnogir hyn ymhellach yn yr ysgol gan wasanaethau wythnosol ar gyfer cymuned yr ysgol, a thrafodaethau grŵp cyfan, grŵp bach ac unigol, sy’n aml yn rhoi sylw i hawliau dynol a chydraddoldeb.

Mae’r Pennaeth yn disgrifio’r bobl ifanc yn yr ysgol fel rhai sydd, ‘wedi’u grymuso a’u galluogi i gwestiynu ei gilydd mewn modd cadarnhaol ac anfeirniadol … Yn reddfol, mae’r bobl ifanc yn dysgu defnyddio’r sgiliau hyn i fynegi eu hunain ac yn gallu cyfrannu at drafodaethau a dadleuon mewn modd iach. Un canlyniad uniongyrchol yw eu bod nhw’n datblygu’r sgiliau i dderbyn gwahaniaeth a mynegi barn neu safbwyntiau.’

Astudiaeth achos: dysgu am hawliau a’u profi trwy addysg yn y cartref

Bu Madeleine Hobbs yn aelod o Banel Ymgynghorol Pobl Ifanc y Comisiynydd Plant rhwng 2018 a 2021. Cafodd Madeleine ei haddysgu yn y cartref ac fe wnaeth dysgu trwy brofiad ei grymuso i ddeall ei hawliau a chael mynediad iddyn nhw.

Fel plentyn ifanc, datblygodd Madeleine ddealltwriaeth gynnar o’i hawliau cyfranogi trwy brofiad a thrwy chwarae. Byddai Madeleine yn ymuno ag aelodau o’r teulu pan oedden nhw’n bwrw pleidlais, ac fe luniodd Madeleine flwch pleidleisio a charden bleidleisio gartref er mwyn cynnal etholiad teuluol. Cafodd ei harwain gan y diddordeb hwn i archwilio gwleidyddiaeth, dinasyddiaeth a hawliau dynol. Bu’r archwiliadau hyn yn cynnwys gwaith ymchwil i’r swffragetiaid, ymweld â Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig a gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddi, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn y ddeddfwriaeth a gynigiwyd ar addysg yn y cartref. Mae hyn wedi galluogi Madeleine i gael profiad uniongyrchol o’i hawl i ryddid i ymgysylltu trwy ymgynnull yn heddychlon gyda’i chymuned.

Fe bleidleisiodd Madeleine am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd yn 2021. Mae hi’n disgrifio’r profiad fel un ‘cyffrous dros ben. Ces i’r teimlad fy mod i’n gwneud rhywbeth, yn y byd go iawn, roeddwn i wedi edrych ymlaen ato am amser hir.’

Fe wnaeth gwaith ymchwil Madeleine i wleidyddiaeth a hanes ei hysgogi hefyd i ddod yn aelod o Banel Cynghori’r Comisiynydd, ‘Ces i fy ysbrydoli gan y swffragetiaid, yr ymdrech a’r amser a gyfrannon nhw i ymladd dros hawliau menywod a’r peryglon roedden nhw’n eu hwynebu. Roeddwn i am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac i hawliau plant. Roedd fy mhrofiadau addysg i yn golygu fy mod i eisoes yn teimlo’n hyderus i fynegi barn ond roedd y panel yn cynnig cyd-destun newydd i mi. Wrth gwrs, doedden ni ddim i gyd yn cytuno ar bopeth, ac roedd hynny’n bwysig. Cawson ni drafodaethau gwerthfawr iawn, gan rannu ein profiadau a’n safbwyntiau gwahanol, ac fe gawson ni gyfleoedd i rannu’r rhain mewn amgylcheddau gwleidyddol. Roedd e’n gyfle i mi godi fy llais a disgwyl cael yr un parch ag oedolyn.’