Mae gan FPRh Powys is-grŵp o’r enw ‘Partneriaeth Dechrau Da’, sy’n canolbwyntio ar faterion plant. O dan yr is-grŵp hwn mae 5 llif gwaith allweddol: datblygu canolbwynt cymorth cynnar amlasiantaeth; iechyd a llesiant emosiynol a chymorth ieuenctid integredig; lleoli a mabwysiadu; datblygu gwydnwch; a ffyrdd egnïol a iach o fyw. Mae gan bob llif gwaith ei gynllun gweithredu ei hun ar gyfer olrhain cynnydd. Hefyd mae grŵp trawsbynciol ar gyfer materion fel diogelu, eiriolaeth a’r iaith Gymraeg. Mae’r grwpiau llif gwaith hyn yn cyfarfod bob 8 wythnos ac yn bwydo i’r bartneriaeth Dechrau Da sy’n cwrdd bob mis; mae hynny yn ei dro yn bwydo holl gyfarfodydd eraill y BPRh. Mae’r gwaith a ddatblygwyd trwy’r bartneriaeth Dechrau Da yn cynnwys cyfarfodydd Partneriaeth Nodi Cynnar Powys mewn ysgolion, a gynhelir bob tymor yn holl ysgolion uwchradd y rhanbarth.
Useful links
Socials links
- Visit the Childrens Commission for Wales on Twitter -(opens in a new window)
- Visit the Childrens Commission for Wales on Facebook -(opens in a new window)
- Visit the Childrens Commission for Wales on YouTube -(opens in a new window)
- Visit the Childrens Commission for Wales on Instagram -(opens in a new window)