Astudiaeth Achos – Y 5 Egwyddor

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt: ymgorffori dull hawliau plant

Ysgol cyfrwng Saesneg 11-16 yn Abertawe yw Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, ac mae’r ysgol yn falch o fod yn Ysgol Aur Parchu Hawliau UNICEF. Mae’r ysgol hefyd wedi ymgorffori hawliau plant drwy ddefnyddio  “Sicrhau Hawliau Plant: Cynllun i helpu Cyngor Abertawe i roi hawliau plant wrth wraidd ei benderfyniadau” Cyngor Abertawe. Mae hwn wedi’i seilio ar ddull Hawliau Plant Comisiynydd Plant Cymru. Mae disgyblion yr ysgol yn ymwybodol o’u hawliau a disgrifiodd uwch arweinyddiaeth yr ysgol fod y ddealltwriaeth hon yn hanfodol i gyflawni gweledigaeth yr ysgol i fod yn ‘gymuned ddysgu ragorol sydd wedi’i seilio ar gyd-barch’.

Mae pob un o bum egwyddor gysylltiedig â’r Dull Hawliau Plant wedi’u dwyn ymlaen yn yr ysgol, fel yr amlinellir isod.

Gwreiddio: Mae CCUHP wedi’i gynnwys yn y cynllun datblygu ysgol ac mae disgyblion wedi dewis erthyglau sy’n gysylltiedig â pholisïau’r ysgol. Mae’r hawliau’n amlwg mewn cyflwyniadau staff ar gyfer cyfweliadau mewnol, mewn llyfrynnau Wythnos Sgiliau, ac mewn cyflwyniadau diwrnodau iechyd a lles. Gwneir cysylltiadau uniongyrchol â’r CCUHP ar draws pynciau’r cwricwlwm.

Peidio â chamwahaniaethu: Mae gan Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ddull ysgol gyfan ar gyfer cynhwysiant. Mae llais y disgybl wedi sbarduno Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn, a arweiniodd at ychwanegu Boccia, Pêl-fasged Cadair Olwyn a Chyfeiriadu Cwrt Caled at Ŵyl Chwaraeon Blwyddyn 9. Mae llais y disgybl wedi cymell meithrin perthynas werthfawr ag ysgol arbennig i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol a lluosog.

Grymuso: Trwy adeiladu ar brofiadau yn yr ysgol gynradd, mae staff yn grymuso disgyblion i ddeall eu hawliau drwy Ddiwrnodau Her a Diwrnodau Iechyd a Lles. Mae’r ysgol yn arwain Cymuned Ddysgu Proffesiynol yr awdurdod lleol ar gyfer llais y disgybl. Gydag ysgolion uwchradd eraill, mae disgyblion yn datblygu maniffesto unedig Llais y Disgybl Abertawe wedi’i seilio ar ‘Yr hyn sydd o bwys’ i bobl ifanc. Mae disgyblion yn cyfrannu at y cynllun datblygu ysgol drwy nodi ac arwain gwelliannau ysgol gyfan. Hefyd, mae disgyblion yn monitro cynnydd gan ddefnyddio awgrymiadau’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol.

Cyfranogiad: Mae dulliau llais y disgybl yn cynnwys swyddogion, y cyngor ysgol, cynghorau blwyddyn, cynrychiolwyr dosbarthiadau ac arolygon ysgol gyfan llais y disgybl ‘dan arweiniad disgyblion’. Caiff disgyblion eu hannog i ystyried a rhannu eu syniadau i ddatblygu’r cwricwlwm ac maent wedi arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau ar gyfer Mae Bywydau Du o Bwys, Aflonyddu Rhywiol Cyhoeddus, Hunaniaeth Rywiol a Rhywedd ac Wythnos Empathi.

 

Atebolrwydd: Mae’r Tîm Uwch Swyddogion yn cyfarfod â’r pennaeth yn wythnosol ac mae’r Disgybl-Lywodraethwyr Cysylltiol yn mynychu ac yn rhoi cyflwyniadau yng nghyfarfodydd y corff llywodraethol. Mae’r Cyngor Ysgol yn cynnig dull cyfathrebu dwyffordd ar gyfer syniadau posibl ac adborth i’w cyfoedion. Mae’r cyfathrebu dwyffordd hwn yn hanfodol o ran cyfathrebu grym llais y disgybl a’r effaith mae’n ei chael o ran cefnogi gwelliant.