Egwyddorion Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yw:
1. Gwreiddio hawliau plant – Dylai hawliau plant fod yn ganolog i gynllunio
a darparu gwasanaethau.
2. Cydraddoldeb a Dim Camwahaniaethu – Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pobplentyn yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial llawn
3. Grymuso plant – Gwella gallu plant fel unigolion, fel eu bod yn medru manteisio’n well ar hawliau, ac ymgysylltu â’r unigolion a’r sefydliadau hynny sy’n effeithio ar eu bywydau, dylanwadu arnynt a’u galw i gyfrif.
4. Cyfranogiad – gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i’w barn
5. Atebolrwydd – Dylai awdurdodau fod yn atebol i blant am benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n effeithio ar eu bywydau