Beth alla’ i ei wneud?
- Dywedwch wrth eich plentyn fod ganddo’r hawl i fod yn ddiogel, ac na fydd unrhyw beth gwael yn digwydd os bydd yn dweud wrthych fod rhywun arall, gan gynnwys aelod o’r teulu, wedi gwneud iddo deimlo’n anniogel.
- Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod bod ei gorff yn eiddo iddo ef. Edrychwch ar reolau PANTS yr NPSCC – gall y rhain eich helpu i siarad â’ch plentyn ynglŷn ag aros yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol.
- Dylai eich plentyn wybod bod ganddo’r hawl i ddweud ‘na’ bob amser os gofynnir iddo wneud rhywbeth sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Beth ddylai pobl eraill ei wneud?
- Dylai ysgol eich plentyn hefyd ddweud wrth eich plentyn am ei hawl i fod yn ddiogel, a’i annog i siarad ag oedolyn y mae’n ymddiried ynddo os yw’n teimlo’n anniogel.
- Dylai clybiau yn y gymuned, fel chwaraeon, dawns, brownis a chybiaid, a grwpiau ffyrdd, fod â pholisi Diogelu cyfredol. Weithiau, gelwir hwn yn bolisi Amddiffyn Plant.
- Os ydych yn pryderu am blentyn, cysylltwch â ni, yr NSPCC, neu’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol.