Byddwn ni’n postio fideos yn aml gyda syniadau ein tîm Cyfranogaeth am chwarae adref!
Dens, pypedau hosan, defnyddio’r bag ailgylchu, a sinemau ffug!
Creu man ymlaciol yn y ty
Rydyn ni’n gwybod bydd ein tai yn brysur ofnadwy tra bod yr ysgolion ar gau.
Felly mae gan Jordan o’n tîm Cyfranogaeth syniadau i’ch helpu i greu man tawel yn eich cartref i helpu eich plant i ymlacio, a syniadau am y pethau gallwch chi eu defnyddio i helpu.
Papur a Cherdyn
Origami, awyrennau papur, creu ty dol, a’r gêm pêl a bocs!
Syniadau i’ch helpu gyda phobl ifanc yn eu harddegau
Dyma Kath o’n tîm yn siarad am y pethau sydd wedi helpu hi wrth aros adre gyda’i phlant, sydd yn eu harddegau
Beth aeth yn dda heddiw?
Mae Kath nôl i siarad am weithgaredd da i wneud ar ddiwedd pob diwrnod.
Gofynnwch i’ch gilydd ‘beth aeth yn dda heddiw’ a gwnewch yn siwr eich bod chi’n llongyfarch eich gilydd ar y pethau positif.
Chwarae gyda dŵr
Dyma Jordan o’n tîm Cyfranogiad gyda syniadau i’ch helpu adre. Pa fath o hwyl allech chi greu adre gyda dŵr?
Creu dinas Cardfwrdd, gwneud ‘chatterboxes’ a siarad am emosiynau
Rhian sy’n rhannu ei syniadau ar greu dinas newydd o gardfwrdd, creu ‘chatterboxes’, a dechrau’r sgwrs am sut rydyn ni’n teimlo
Wynebau yn yr ardd!
Defnyddio’r deunyddiau naturiol yn yr ardd i greu wynebau doniol!
Boredom buster
Syniadau i’ch helpu pan mae’r holl syniadau eraill wedi diflannu!
Cwisiau, diwrnodau chwaraeon, a bake-offs!
Kath sy’n rhannu ffyrdd o ail-ymweld â hoff atgofion y teulu, cymryd tro i arwain ar ddiwrnod chwaraeon, a chynnal bake-off os ydych chi’n digon lwcus i brynu blawd codi!
Creu swigod!
Jordan sy’n rhannu techneg i greu swigod adre yn hawdd!
Creu cerddoriaeth gyda chynnwys eich bag ailgylchu!
Castanets potiau iogwrt, shêcyrs papur ty bach, gitar bocs grawnfwyd; sut allwch chi ddefnyddio cynnwys eich bag ailgylchu i ddechrau band teulu!?
Chwarae Synhwyraidd
Efallai bod eich plentyn yn gweld eisiau y chwarae synhwyraidd maen nhw fel arfer yn mwynhau yn yr ysgol.
Dyma Jordan o’n tîm gyda syniadau i’ch helpu i greu man synhwyraidd yn eich ty.
Darnau rhydd
Ife sbwriel yw e? Neu offer chwarae…? Gwyliwch y fideo am syniadau i’ch helpu i droi darnau gwahanol i chwarae rhydd!
Chwarae synhwyraidd – peintio gyda iâ a chwythu swigon trwy hosan!
Creu ffon hud
Creu byd newydd i’ch hoff degan
Gyd sydd angen arnoch i greu byd newydd i’ch hoff degan yw:
- Eich hoff degan!
- Cynhwysydd
- Pethau i addurno y byd, o’r gardd neu eich wâc dyddiol
5 peth i’w wneud gyda thiwbiau papur ty bach
https://www.facebook.com/1081726995183317/videos/3133236740021782/