Effaith Ein Gwaith – Gwanwyn 2024

Ers mis Ionawr, mae dros 3500 o blant a phobl ifanc wedi dweud wrthyn ni sut maen nhw’n teimlo am y materion sy’n dylanwadu ar eu bywydau trwy ein pecyn trafod newydd misol, Materion Misol. Darllenwch ymlaen drwy’r diweddariad chwarterol yma i weld beth ddwedson nhw am ginio ysgol, blaenoriaethau Prif Weinidog newydd Cymru, a’r bwriad i ddiweddaru’r calendr ysgol. Mae gennym ni grynodeb cenedlaethol newydd ar fater iechyd meddwl plant gan ein tîm polisi, ac rydyn ni’n craffu’n fanwl ar y cynnydd mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran y newidiadau rydw i wedi galw amdanynt ar draws sawl agwedd ar fywydau plant. Rydyn ni wedi dal i glywed pryderon uniongyrchol am fêpio, ac mae enw a dull gweithredu newydd sbon ar gyfer ein gwasanaeth Cynghori ar Hawliau Plant… darllenwch ymlaen!

Yma i bob plentyn

Mae ein tîm ymgysylltu yn gwneud lleisiau plant yn ganolog i’n gwaith, ac yn clywed safbwyntiau a phrofiadau o bob cwr o Gymru. Trwy Mater y Mis, ein pecyn trafod newydd i ysgolion, mae miloedd o blant wedi dweud wrthyn ni am y materion canlynol:

Cinio ysgol

  • Dim ond 19% o’r plant a’r bobl ifanc fu’n cymryd rhan yn ein harolwg ddywedodd eu bod yn llawn ar ôl eu pryd o fwyd.
  • Dywedodd bron hanner (44%) eu bod nhw’n cael eu gwrthod os oedden nhw’n gofyn am ragor o fwyd.
  • Dywedodd 24% o blant eu bod nhw ddim bob amser yn gallu cael llysiau os ydyn nhw eisiau.
  • Dywedodd 22% eu bod nhw ddim bob amser yn gallu cael ffrwythau os ydyn nhw eisiau.
  • Atebodd 490 o blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 18 oed yr arolwg yn unigol. Bu 1250 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Roedd y cyflwyniadau hyn yn cefnogi’r safbwyntiau a rannwyd yn uniongyrchol gan blant.

Rydyn ni wedi anfon yr wybodaeth at Lywodraeth Cymru, yn galw arnynt i roi blaenoriaeth i’w hadolygiad o’r canllawiau ar brydau ysgol, ac i barhau i wrando ar farn plant a phobl ifanc ar y pwnc hollbwysig hwn. Roedd barn plant o ganlyniad i’n holiadur wedi arwain at ddarnau newyddion am y pwnc yma, gan gynnwys gan BBC Cymru Fyw.

Prif Weinidog newydd i Gymru – beth fyddai pobl ifanc yn gwneud tasen nhw yn y rôl honno?

  • Soniwyd yn gyson am gost eitemau hanfodol pob dydd, costau tai, a chyflogau isel – mae arian yn dal yn destun pryder mawr i bobl ifanc.
  • Roedd llawer yn sôn am yr amgylchedd lleol. Roedd llawer am weld mwy o finiau i helpu i gadw eu hardal leol yn lanach.
  • Fe glywson ni alwadau am drafnidiaeth gyhoeddus well a rhatach
  • Roedd yr amserau aros am ofal iechyd yn bryder cyffredin.
  • Roedd llawer o syniadau cysylltiedig ag addysg, gan gynnwys ystod ehangach o wersi a mwy o weithgareddau.
  • O ran gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, roedd pobl ifanc eisiau gallu gwneud mwy yn ddi-dâl.

Y safbwyntiau hyn oedd sylfaen llythyr a anfonwyd gan y Comisiynydd at Brif Weinidog newydd Cymru wedi iddo gael ei benodi, gan ychwanegu’r rhain at y dystiolaeth oedd eisoes yn bodoli ynghylch blaenoriaethau a materion allweddol plant.

Mae postiad blog diweddaraf y Comisiynydd yn dadansoddi ac yn myfyrio ymhellach ar beth ddywedodd pobl ifanc wrthyn ni y bydden nhw’n ei wneud tasen nhw wrth y llyw.

Bwriad i newid y calendr ysgol

  • Wrth feddwl am y gwyliau haf fel y maen nhw, roedden nhw’n hoffi treulio amser gyda ffrindiau a theulu, cael amser i baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf ac i ymlacio, heb boeni am yr ysgol, a chael amser i ganolbwyntio ar hobïau a diddordebau.
  • Dywedodd nifer sylweddol nad oedd elfennau negyddol i wyliau haf hir, ond ymhlith y pethau doedden nhw ddim yn eu hoffi roedd gorfod dod nôl i arfer â rwtîn ar ddiwedd y gwyliau, diflasu, a gweld eisiau eu ffrindiau.

Roedd barn plant a phobl ifanc yn ganolog i’n hymateb ymgynghori ninnau i gynnig Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni hefyd annog pobl ifanc i rannu eu barn yn uniongyrchol gyda’r Llywodraeth.

Heriwr

Mae ein tîm polisi yn herio ac yn craffu ar waith y llywodraeth o ran y materion allweddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Iechyd Meddwl – tudalen bolisi i weithwyr proffesiynol

‘Mae’r gweithlu presennol yn cael trafferth ymdopi â’r galw. Mae plant a phobl ifanc yn rhy aml yn aros yn rhy hir i gael y gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen.’

Ar sail ein hymchwil ein hunain a gwaith pobl eraill, rydyn ni’n gwybod mai iechyd meddwl a llesiant yw un o’r materion pennaf mae plant yn pryderu yn ei gylch. Mae hyn hefyd yn wir am rieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae ein tudalen bolisi newydd ar iechyd meddwl yn cyflwyno’r heriau, a rhai o’r materion penodol sy’n ymwneud â chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater eithriadol bwysig hwn, gan gynnwys y rhai sy’n bwriadu ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar eu strategaeth ddrafft ynghylch iechyd meddwl a llesiant.

Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran ein hargymhellion

Bob blwyddyn trwy fy adroddiad blynyddol rydyn ni’n cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion polisi allweddol rydyn ni eisiau iddyn nhw roi sylw iddyn nhw yn ystod y 12 mis nesa. Yn ystod y flwyddyn rydyn ni’n cadw golwg ar yr argymhellion hynny trwy gyfarfod â Gweinidogion, prif swyddogion a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Byddwn ni’n cyhoeddi dogfen cyn hir sy’n dadansoddi cynnydd Llywodraeth Cymru o ran pob un o’r argymhellion hynny. Cofrestrwch i’n cylchlythyr misol i dderbyn copi uniongyrchol.

Un sy’n dweud y gwir

Rydyn ni’n gweithio’n galed i fwrw goleuni ar brofiadau bywyd go iawn plant a phobl ifanc a’u defnyddio i ddylanwadu ar newid.

Fêpio

  •  ‘Mae pobl ifanc yn cerdded allan o’r ffug arholiadau oherwydd eu bod nhw’n methu ymdopi am y cyfnod yna o amser’ (heb fêpio)
  • ‘Mae plant yn gaeth i fêpio wrth ddod o’r ysgolion cynradd’
  • ‘Mae plant yn arswydo wrth glywed faint o sigarets sy’n cyfateb i beth maen nhw’n smygu’
  • ‘Mae’r holl fideos addysg etc o America, does dim byd gallwn ni ddefnyddio o bersbectif y Deyrnas Unedig.’

Mae’r rhain i gyd yn ddyfyniadau o sesiwn wrando bu ein tîm yn ei chynnal gyda grŵp o bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed, a’r oedolion oedd yn eu cefnogi. Roedd yr wybodaeth o’r sesiwn hon yn adlewyrchu ein pryderon parhaus ynghylch atyniad a hygyrchedd fêpiau, a’r diffyg gwybodaeth addysgiadol sydd ar gael i helpu i wrthweithio defnydd ohonyn nhw.

Rydyn ni wedi rhannu canlyniadau’r sesiwn wrando hon yn uniongyrchol gydag Ysgrifenyddion Cabinet Iechyd ac Addysg yn Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad newydd yn galw am roi blaenoriaeth i gefnogaeth yn hytrach na chosb wrth helpu pobl ifanc sydd am roi’r gorau i fêpio, gan gynnwys argymell bod plant yn gallu cyrchu Therapïau Amnewid Nicotîn os ydyn nhw’n gaeth i fêpio. Rydyn ni’n cefnogi’r dull gweithredu hwn yn llwyr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu symud ymlaen. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud newidiadau a fydd yn arwain at gosb lymach i’r rhai sy’n gwerthu cynnyrch fêpio i bobl ifanc o dan 18 oed, a’r rhai sy’n rhoi samplau o gynnyrch fêpio am ddim. Maen nhw’n cynllunio newidiadau i’r gyfraith i sicrhau bod blas a chynnwys cynnyrch fêpio yn cael ei gyfyngu. Maen nhw hefyd am wneud cynnyrch fêpio yn llai deniadol trwy gyfyngu ar yr opsiynau pecynnu a chyfyngu ar ble mae modd arddangos cynnyrch fêpio mewn siopau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r newidiadau hyn hefyd. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn newid y gyfraith yma i wahardd fêpiau untro oherwydd yr effaith ar iechyd a’r amgylchedd.

Gwireddwr hawliau

Mae ein tîm Cyngor yn helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad i’w hawliau dynol.

O hyn allan, bydd ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor gynt yn cael enw newydd, sef Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant’. Dyma ein Comisiynydd Rocio yn rhannu ei gweledigaeth o ran y newid enw:

“I mi, ers i mi gychwyn yn rôl y Comisiynydd Plant, y peth pwysicaf am y swydd yw’r hyn mae’n ei wneud i blant a phobl ifanc, a sut gallan nhw elwa’n uniongyrchol o hynny. Er bod holl swyddogaethau fy swyddfa yn bwysig, ac yn cynnwys gwrando ar blant a phobl ifanc ac ymgysylltu â nhw, a dylanwadu ar y llywodraeth a’i herio, mae yna rywbeth sylfaenol uniongyrchol ac unigryw am ein gwasanaeth gwaith achosion, sy’n cynnig llais ffurfiol i blant a phobl ifanc a dull uniongyrchol o ddadlau dros eu hawliau a’u sicrhau, os nad ydyn nhw’n eu derbyn.

Mae’r gwasanaeth hwn, a’i dîm o swyddogion medrus ymroddedig, eisoes yn helpu dros 600 o blant unigol bob blwyddyn, ac mae’n ddwyieithog, yn ddiduedd ac yn ddi-dâl. Rydyn ni’n cynghori ac yn cynorthwyo ar ystod o bynciau, gan gynnwys llawer sy’n ymwneud â materion Addysgol ac ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond rwy’n argyhoeddedig y gallai mwy o blant a phobl ifanc elwa o hyn, ac ar draws ystod ehangach o bynciau, petaen nhw’n gwybod mwy am y gwasanaeth a’r hyn mae’n ei gynnig. Dyna oedd y sbardun wnaeth i mi archwilio sut gallen ni addasu’r gwasanaeth, ac rydyn ni wedi gwneud hynny trwy sgyrsiau â phlant a phobl ifanc, yn ogystal â rhanddeiliaid, yn ystod y misoedd diwethaf.

O ganlyniad, bydd ein Tîm newydd Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn cynnig yr un gwasanaeth proffesiynol o ran gwaith achosion, ond rydyn ni’n gobeithio bydd yr enw a’r naws yn golygu ei fod yn haws troi ato. Byddwn ni’n dal i fedru cynnal ymchwiliadau pellach pan fyddwn ni’n barnu bod hynny’n briodol, ond y pwyslais yw cynorthwyo neu helpu plant a phobl ifanc – ‘rydyn ni yma i helpu’ yw’r neges rydyn ni eisiau i chi gofio! Helpwch ni i roi’r gair ar led”

Dyma rai ffeithiau a ffigurau am y bobl rydyn ni wedi’u helpu yn ystod y 3 mis diwethaf!

  • Bu’r tîm yn cefnogi 233 o blant a phobl ifanc yn ystod y chwarter diwethaf, gan gynnwys 135 o achosion newydd.
  • Fe fuon ni’n cefnogi plant mewn 21 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.
  • Roedd yr achosion cysylltiedig ag addysg y buon ni’n delio â nhw yn cynnwys achosion cysylltiedig â gwaharddiadau, bwlio, trafnidiaeth a lleoliadau, ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Roedd yr achosion cysylltiedig â’r Gwasanaethau Cymdeithasol y buon ni’n delio â nhw yn cynnwys achosion cysylltiedig â Diogelu ac Amddiffyn Plant; Eiriolaeth, Cwynion a Datgelu Camarfer.

Gallwch chi gysylltu â’r tîm Cyngor drwy ffonio 0808 801 1000 (ddydd Llun i ddydd Gwener 9-5pm) neu e-bostio.