Effaith Ein Gwaith – Haf 2024

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

Faint mae plant yn siarad â’u teuluoedd am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein? Pa apiau a gafodd eu dyfynnu fwyaf gan blant fel rhai oedd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anniogel ac yn anhapus? Ym mis Mehefin, rhannodd bron i 1300 o blant a phobl ifanc eu profiadau gyda ni fel rhan o’n holiadur ar ddiogelwch ar-lein. Fe wnaeth eu hymatebion ein helpu i ymateb i ymgynghoriad diweddaraf Ofcom ar y codau drafft a fydd, rydyn ni’n gobeithio, yn gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant a phobl ifanc. Dros y tri mis diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn gwrando ar blant ym mhob cwr o Gymru, drwy drafodaethau wyneb yn wyneb, holiaduron, a thrwy ein gwasanaeth Cyngor. Darllenwch ymlaen i ddarganfod beth ddywedodd plant wrthym, a beth rydyn ni’n ei wneud i’w roi eu lleisiau wrth galon ein gwaith.

Yma i bob plentyn

Mae ein tîm ymgysylltu yn rhoi lleisiau plant ar ganol ein gwaith, gan glywed barn a phrofiadau o bob cornel o Gymru.

Cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gyflwyno eu barn, eu profiadau a’u hargymhellion ar gyfer newid

Mae Jordan Doherty, aelod o’r tîm ymgysylltu, yn myfyrio ar y gwaith y mae hi wedi’i arwain arno dros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda grŵp o ferched sydd â phrofiad o ofal yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“What about us? What about all the plans that ended in disaster?

What about love? What about trust?

What about us?”

‘Mae hyn yn y bôn yn ei grynhoi’n berffaith’, meddai person ifanc ar ôl gwrando ar y gân “What About Us” gan Pink. A dyna sut mae llawer o’r bobl ifanc yn y Grŵp ‘Hope’ Hawliau Merched, grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ne Cymru, yn teimlo am eu profiadau; yn grac; fel eu bod wedi eu hanghofio; ac yn drist.

Grŵp o ferched sydd â phrofiad o ofal yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Hope. Dros y 12 wythnos diwethaf rydyn ni wir wedi mwynhau dod i’w hadnabod, gwrando ar eu straeon, chwerthin gyda nhw, crio gyda nhw, ac wrth gwrs, mynd trwy dunnell o rawnwin a bisgedi. Maen nhw wedi ymddiried ynom gyda’u straeon a’u teimladau, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny.

Rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i helpu’r merched i gyflwyno eu barn, eu profiadau, a’u hargymhellion fel rhan o gynhadledd flynyddol Ewropeaidd ar hawliau plant. Ffocws eleni oedd “Dewch i ni siarad am yr ifanc, gadewch i ni siarad am amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant mewn gofal amgen.”

Rydym wedi ymdrin â phynciau fel pontio mewn gofal, cyfranogiad, perthyn ac eiddo, iechyd meddwl a chymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Fe ddefnyddion ni weithgareddau creadigol a therapiwtig i ymgysylltu â’r merched a’u cadw nhw a’u hanghenion yn ganolog i’n gwaith.

Gwnaeth ein tîm becyn o weithgareddau therapiwtig i’w defnyddio gyda’r grŵp, gyda’r bwriad o annog mynegiant emosiynol a chael hwyl. Roedd y grŵp yn mwynhau gweithgareddau celf a siarad fwyaf, felly fe wnaethom addasu llawer o’n gwaith i gyd-fynd â’u hoff weithgareddau. Roedd y gweithgareddau’n amrywiol ac yn cynnwys gwaith grŵp a thasgau annibynnol fel gwneud dalwyr breuddwydion, collages a recordio clipiau “podlediad”.

Mae’r grŵp yn frwd dros wneud newidiadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal nid yn unig yng Nghastell-nedd Port Talbot ond yng Nghymru hefyd. Roeddem mor falch o’r 5 argymhelliad a gyflwynwyd ganddynt yn y gynhadledd:

  1. Hyfforddiant i Ofalwyr Maeth. Hoffem i hyfforddiant gynnwys technegau therapiwtig a hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i helpu gofalwyr maeth ymdrin â’r emosiynau, a’r ffyrdd cymhleth y mae pobl ifanc yn aml yn mynegi eu hunain.
  2. Gallu cymryd rhan mewn pacio ein heiddo ein hunain. Hoffem pe bai mecanweithiau ar waith i’n galluogi i bacio ein heiddo ein hunain. Boed hyn yn fater o helpu gweithiwr cymdeithasol/gofalwr maeth, neu ysgrifennu rhestr o’r eiddo rydym yn disgwyl eu gweld yn ein cartref newydd.
  3. Dylid pacio eiddo mewn bagiau a chêsys, nid bagiau du. Hoffem weld ymrwymiad gan y llywodraeth sy’n dweud y dylai pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal gael bagiau a chêsys addas i symud eu heiddo.
  4. Cymryd rhan yn ein gofal. Hoffem gael ein cynnwys yn ein cyfarfodydd gofal ein hunain. Hoffem i’r canllaw fod ychydig yn gryfach ar yr hyn a ddylai ddigwydd i’n cynnwys ni yn ein gofal ein hunain.
  5. Llythrennedd Emosiynol a chymorth therapiwtig. hoffem weld mwy o waith therapiwtig grŵp yn digwydd yn yr ysgol a gwell sesiynau llythrennedd emosiynol i bob plentyn a pherson ifanc. Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn wlad lle mae gan bob plentyn y geiriau i ddisgrifio sut maen nhw’n teimlo ac yn mynegi eu hunain cyn i unrhyw beth trawmatig ddigwydd iddyn nhw.

Nid dyma ddiwedd ein gwaith gyda’r grŵp, bydd y merched yn arwain ar greu arddangosfa gyda ni i rannu eu hargymhellion a’r realiti o fod mewn gofal yng Nghymru.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio yn Hydref 2024 ac os oes gennych chi grŵp o blant neu bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a hoffai gyflwyno darn celf, cysylltwch â Jordan.doherty@complantcymru.org.uk

Mater y Mis – ein pecyn trafod a holiadur misol i ysgolion a chlybiau

Ym mis Mehefin, rhannodd 1284 o blant a phobl ifanc eu profiadau gyda ni fel rhan o’n harolwg ar ddiogelwch ar-lein. Roedd eu hymatebion yn rhan mawr o’n hymateb i godau drafft Ofcom, Diogelu Plant rhag Niwed Ar-lein, sy’n ceisio gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant a phobl ifanc. Ers mis Ebrill rydym hefyd wedi clywed barn plant am deithiau i’r ysgol, ac amser chwarae ac egwyl.

Diogelwch arlein

  • Dim ond 28% o blant ddywedodd eu bod yn siarad llawer gyda’u teulu am yr hyn y maent yn ei wneud ar-lein
  • Soniodd chwarter (25%) y plant a restrodd apiau a oedd yn gwneud iddynt deimlo’n anniogel neu’n anhapus am Roblox, ac yna YouTube (15%)
  • Pan oedd plant wedi cysylltu â phlatfform yn uniongyrchol gyda phryderon, dim ond 32% oedd yn teimlo bod eu pryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif
  • Pe byddent yn gweld rhywbeth ar-lein i wneud iddyn nhw deimlo’n drist neu’n bryderus, dywedodd plant y byddent yn dweud wrth eu rhieni, yn cysylltu gyda’r platfform, neu’n dweud wrth aelod arall o’r teulu
  • Dywedodd 76% o blant eu bod yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel ar-lein
  • Roedd gan athrawon pryderon am yr effaith y mae amser sgrin plant yn ei chael ar eu haddysg, gyda rhai yn gweld effaith blinder ymhlith disgyblion oherwydd chwarae gemau yn hwyr yn y nôs

Roedd yr atebion yn sail i’n hymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ei bwerau newydd o ganlyniad i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein (2023).

Amser chwarae/egwyl

  • Roedd 96% o blant yn mwynhau eu hamser chwarae/egwyl yn yr ysgol, a 95% yn dweud ei fod yn bwysig iddyn nhw
  • Roedd plant yn hoffi treulio amser gyda ffrindiau, chwarae chwaraeon, ymlacio a chael egwyl o waith ysgol
  • Pan ofynnwyd iddynt beth fyddai’n gwneud amser chwarae’n well, soniodd plant am gael mwy o amser i chwarae, mwy o offer chwarae, a gallu gwneud mwy o chwaraeon a gemau
  • Dywedodd 46% eu bod yn gorfod colli eu hamser chwarae weithiau. Roeddent yn teimlo’n drist, yn flin, ac yn rhwystredig oherwydd hyn. Pan ofynnwyd iddynt am y rhwystrau i ddarparu’r amser chwarae sydd ei angen ar blant, siaradodd athrawon am ddiffyg adnoddau ac amser, a’r pwysau sy’n gysylltiedig â dysgu eu cwricwlwm

Teithiau i’r ysgol

  • Dywedodd y mwyafrif helaeth (83%) o’r plant a gwblhaodd ein holiadur eu bod yn teimlo’n ddiogel ar eu taith i’r ysgol
  • Roedd 82% yn cerdded i’r ysgol neu’n teithio mewn car
  • Y rhesymau mwyaf cyffredin nad oedd plant yn teimlo’n ddiogel ar eu taith ysgol oedd oherwydd aelodau eraill o’r cyhoedd, ac ofnau o gael eu brifo neu eu cymryd

Mae teithiau ysgol yn fframio’r diwrnod ysgol a rhaid i ddiogelwch a hygyrchedd y siwrnai ysgol fod yn ystyriaeth allweddol o ran hawl plant i gael addysg.

Mae ein gwasanaeth Cyngor wedi clywed pryderon yn y gorffennol am deithiau ysgol gan blant a’u teuluoedd, sy’n rhywbeth y mae’r Comisiynydd wedi’i godi gyda Llywodraeth Cymru.

Heriwr

Mae in tîm polisi yn herio a dal yr rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif ar y materion allweddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Tystiolaeth i Bwyllgor Seneddol

Ar 10 Gorffennaf rhoddodd ein Pennaeth Polisi, Rachel Thomas, dystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fel rhan o’u gwaith ar ymchwiliad cyfnod 1 Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Nod y Bil yw cael gwared ar wneud elw o ofal plant, rhywbeth yr rydym yn croesawu’n fawr. Mae ein swyddfa wedi galw ers tro am leihad diogel mewn elw mewn gwasanaethau gofal plant, o ganlyniad uniongyrchol i sylwadau clywon ni gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal eu hunain, ac mae’r Bil hwn yn cyflwyno’r darpariaethau angenrheidiol i wneud y newid hwn.

Ond mae’r Bil, fel y mae e wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn colli cyfle i gynnwys y blaenoriaethau pwysig hyn gan bobl ifanc: rhianta corfforaethol statudol; mynediad parhaus at Gynghorwyr Personol i’r rhai sy’n gadael gofal; a chaniatáu i bobl ifanc mewn gofal preswyl aros a chael mynediad at wasanaethau ar ôl iddynt droi’n 18 oed.

Gallwch ddarllen ein cyflwyniad ysgrifenedig llawn i’r Pwyllgor yn y ddogfen hon neu gallwch wylio’r sesiwn ar Senedd TV.

Briffiad Cyllideb a Hawliau Plant

Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull cyllidebu sy’n seiliedig ar hawliau plant a bod y broses o adolygu penderfyniadau cyllidebol mewn perthynas â hawliau plant yn cael ei gwneud yn dryloyw, er mwyn ein galluogi ni ac eraill i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Cyn dadl yn y Senedd yn gynharach y mis hwn, cyhoeddon ni’r papur briffio hwn ar gyfer aelodau’r Senedd ar fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant wrth wneud penderfyniadau cyllidebol.

Goleuo’r Gwir

Rydyn ni’n gweithio’n galed i oleuo profiadau plant a phobl ifanc, ac i’w defnyddio i greu newid.

Gwrando ar blant o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyfarfod â phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a rannodd gyda ni eu barn a’u profiadau o addysg, tai a gwahaniaethu. Archwiliodd y grŵp sut olwg fyddai ar eu cymunedau delfrydol, a sut y gellid deall a pharchu eu hunaniaeth ddiwylliannol yn well wrth gael mynediad at eu hawliau.

Rhannodd y bobl ifanc pa mor rheolaidd y maent yn profi hiliaeth a gwahaniaethu yn eu cymuned. Siaradon nhw am eu profiadau yn yr ysgol, pryderon am wahaniaethu ar sail cyflogaeth a sut maen nhw’n cael eu dilyn yn rheolaidd o gwmpas siopau a’u targedu pan maen nhw’n rhan o dorf. Roedd y bobl ifanc yn frwd dros sefyll yn erbyn gwahaniaethu ond nid oedd ganddynt fawr o obaith y byddai pethau’n newid.

Roedd llawer o’r grŵp yn rhannu eu dyheadau tai, gan sôn nad oes gan eu safleoedd presennol unrhyw fannau i chwarae neu fynediad i barciau. Oherwydd lleoliad safleoedd, siaradodd rhai o’r grŵp am y diffyg llwybrau cerdded diogel a sut y gall hyn fod yn rhwystr iddynt gael mynediad i addysg oherwydd diffyg golau a theimlo’n anniogel.

Siaradodd y bobl ifanc am eu cysylltiad â thimau addysg Teithwyr ac roeddent yn gwerthfawrogi’r berthynas oedd ganddynt â’r staff. Trafododd y bobl ifanc y dymuniad am lai o wersi academaidd a mwy o sgiliau bywyd a gweithgareddau fel coginio, rheoli biliau a gwallt a harddwch. Nododd un person ifanc yn ei gymuned ddelfrydol na fyddai’n “edrych i lawr arno am fynd i’r ysgol.”

Roeddem yn gwerthfawrogi’r safbwyntiau, y profiadau a’r syniadau a rannwyd gan y grŵp â ni, ac mae’n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau bod plant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gallu cael mynediad at eu hawliau.

Croesewir Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru wrth nodi’r camau gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws sectorau, gyda’r nod o wella profiadau a chanlyniadau i blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u teuluoedd. Fodd bynnag, mae angen cynnydd cyflymach yn erbyn y camau hyn a datblygu cyfleoedd parhaus i blant a phobl ifanc yn y cymunedau hyn rannu eu barn.

Byddwn yn parhau i godi’r pryderon hyn gyda Llywodraeth Cymru ac yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy ein gwaith cyfranogiad i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar y materion pwysig hyn.

Gwireddwr hawliau

Mae ein tîm Cyngor yn helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at eu hawliau dynol.

Dros y chwarter diwethaf, mae plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol ac aelodau etholedig wedi cysylltu â ni ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys iechyd, addysg a thai.

Dyma flas o’r amrywiaeth eang o achosion y mae ein tîm wedi gweithio arnynt dros y tri mis diwethaf:

  • dylanwadu ar becyn cymorth ar gyfer person ifanc agored i niwed nad oedd yn ymgysylltu â’i addysg
  • helpu teulu i lywio gwasanaethau cymorth niwroddatblygiadol lleol, gan arwain at apwyntiad gyda gweithiwr meddygol proffesiynol yr oedd y teulu wedi bod yn ei ddymuno
  • gweithio gydag ysgol a theulu i helpu i ddod o hyd i ganlyniad cadarnhaol i blentyn yn dilyn digwyddiad a oedd wedi effeithio’n negyddol arnynt

“Byddwn yn argymell y gwasanaeth yn fawr i unrhyw riant neu ofalwr. Cawsom gyngor proffesiynol ar bob cam o’n taith. Cafodd hyn effaith gadarnhaol sylweddol, a gwybod bod gennym ni rywun a oedd yno i ni fel teulu i’n cefnogi ar hyd ein taith. Roedd ein gweithiwr achos bob amser yn awyddus i wybod unrhyw ddiweddariadau yn ymwneud â’n hachos, a bob amser wrth law os oedd angen cyngor pellach arnom. Unwaith eto, mae hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth wynebu materion nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol ynddynt. Ar y cyfan, fel teulu roeddem yn teimlo ein bod yn cael cefnogaeth fawr ac yn cael y cyngor gorau.” – Rhiant yn defnyddio ein gwasanaeth

Dros y chwarter diwethaf, mae ein gwasanaeth cyngor wedi:

  • Cefnogi plant yn 21 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru
  • Delio â 182 achos unigol
  • Gweithio ar 37 achos yn ymwneud â chefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Rydyn ni’n parhau i adeiladau perthnasau positif gydag awdurdodau lleol i sicrhau canlyniadau positif i blant, lle bynnag maen nhw’n byw

Diolch am ddarllen!

Byddwn yn cyhoeddi ein diweddariad chwarterol nesaf yn yr hydref.

Yn y cyfamser, cofrestrwch i’n cylchlythyr misol.