Papur Effaith Ein Gwaith – Hydref 2024
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Mae’r hydref yn dymor o newid amlwg iawn: carpedi o ddail ar balmentydd; boreau oer; a nosweithiau serennog.
Dyma hefyd adeg y flwyddyn y byddaf yn cyhoeddi fy Adroddiad Blynyddol, sydd nid yn unig yn manylu ar lwyddiannau fy nhîm ymroddedig dros y flwyddyn ddiwethaf ond hefyd yn cyflwyno y newidiadau penodol sydd eu hangen, yn fy marn i, i wneud bywyd yn well i blant yng Nghymru.
Mae fy adroddiad yn gwneud 22 o argymhellion eleni i Lywodraeth Cymru, sy’n cwmpasu ystod o feysydd polisi.
Gallwch ddarllen mwy amdanynt ar y dudalen hon. Fel y newidiadau tymhorol o’n cwmpas, mae angen i’r newidiadau hyn i blant fod yr un mor gryf ac yr un mor weladwy.
Yma i bob plentyn
Mae ein tîm ymgysylltu yn rhoi lleisiau plant ar ganol ein gwaith, gan glywed barn a phrofiadau o bob cornel o Gymru.
Dros y tri mis diwethaf rydym wedi ymgysylltu â thua 400 o ysgolion a grwpiau, wedi gweithio gydag oedolion sy’n cefnogi plant, ac wedi gwrando ar farn miloedd o blant trwy ein holiaduron Mater y Mis.
Mater y Mis – ein pecyn trafod a holiadur misol i ysgolion a chlybiau
Dros y tri mis diwethaf rydyn ni wedi clywed barn plant ar:
- gynigion Llywodraeth Cymru i wahardd diodydd egni i blant dan 16 oed, a newidiadau i reolau ynghylch lleoliad bwyd mewn siopau. Rydyn ni wedi defnyddio’r atebion i ymateb i ymgyngoriad y Llywodraeth ar y cynigion
- argaeledd gweithgareddau yn eu hardal leol dros wyliau’r haf
- defnydd ffônau symudol yn yr ysgol
Gallwch ddarllen adroddiadau ar ein holiaduron Mater y Mis ar ein gwefan.
Diodydd ynni a hyrwyddo bwydydd
- Roedd 62% yn meddwl na ddylai diodydd egni gael eu gwerthu i blant dan 16 oed
- Roedd y rhesymau cyffredin o blaid gwaharddiad yn cynnwys risgiau iechyd yfed diodydd egni, lefelau siwgr a chaffein uchel cynhyrchion, a’r effaith y gall diodydd egni eu cael ar gwsg
- Roedd 44% o blant yn meddwl bod gwahardd ail-lenwi diodydd fizzy am ddim yn syniad drwg, tra bod 31% yn cefnogi gwaharddiad. Roedd llawer o blant a oedd yn gwrthwynebu gwaharddiad ar ail-lenwi yn poeni am gost bwyta allan ac yn gweld gwaharddiad fel cost ychwanegol
Gweithgareddau haf
- Dywedodd plant mai treulio amser gyda’u teuluoedd (66%), bod allan gyda ffrindiau (63%), a gwneud chwaraeon a nofio (62%) oedd rhai o’r prif bethau yr oeddent yn mwynhau eu gwneud y tu allan i’r ysgol
- Roedd y tywydd (50%), cyfyngiadau ariannol (44%), rhieni ddim yn eu caniatáu (35%), a phellter gweithgareddau o’r cartref (33%) yn rhwystrau cyffredin i blant Roedd 62% o blant yn meddwl bod digon o bethau i’w gwneud yn eu hardal leol
- Roedd plant eisiau mwy o barciau chwarae a mannau chwarae, cyfleusterau chwaraeon, a chanolfannau hamdden a phyllau nofio yn eu hardaloedd lleol
Ffônau symudol mewn ysgolion
Yn ystod mis Hydref, rhannodd dros 3000 o blant a phobl ifanc eu barn â ni ar ddefnydd ffônau symydol mewn ysgolion. Byddwn yn dadansoddi’r data dros yr wythnosau nesaf ac yn cyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan.
Gwireddwr hawliau
Mae ein tîm Cyngor yn helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at eu hawliau dynol.
Dros y chwarter diwethaf, mae plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol ac aelodau etholedig wedi cysylltu â ni ar amrywiaeth o faterion hawliau plant.
Mae’r amrywiaeth eang yma o achosion yn cynnwys:
- materion diogelu cyngor ar leoliadau addysg arbenigol
- cludiant ysgol
- gwaharddiadau
- cyngor ar gwynion yn cynnwys i wasanaethau cymdeithasol ac addysg
- Cynlluniau datblygu unigol (CDU)
I gysylltu â’n tîm ebostiwch cyngor@complantcymru.org.uk neu ffoniwch 01792 765600
Dros y chwarter diwethaf, mae ein tîm Cyngor wedi:
- Cefnogi plant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru
- Wedi delio gyda 267 achos unigol, sef cynnydd o 47% ar y chwarter blaenorol
- Roedd 31% o bob achos yn gysylltiedig ag Anghenion Dysgu Ychwnegol
Helpu sefydliadau i ddatblygu eu gwaith hawliau plant
Digwyddiad Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru
Ymunodd dros 70 o weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys iechyd, cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, awdurdodau lleol a’r trydydd sector â ni yn ein digwyddiad yn Llanelwy ar Hydref 9fed i gael eu hysbrydoli gan hawliau plant, ac i ddysgu sut y gall hawliau plant helpu nhw yn eu gwaith.
Clywsom arfer rhagorol wrth gefnogi hawliau plant gan amrywiaeth o arweinwyr gweithdai, gan gynnwys Prifysgol y Plant, Heddlu Gogledd Cymru, gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Senedd Ieuenctid Wrecsam, a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ac mae’n rhaid i ni sôn yn arbennig am waith disgyblion Ysgol Uwchradd Eirias – cyflwyniad pwerus a theimladwy am stigma yr oedden nhw wedi’i gyflwyno’n flaenorol yng Ngŵyl Llesiant Wrecsam.
Diwrnod hyfforddi gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Yn dilyn digwyddiad rhwydwaith hawliau plant hynod lwyddiannus ym mis Mawrth, cafon ni gais i gynnal gweithdy hyfforddi a rhannu gwybodaeth tebyg i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Daeth dros 50 o bobl ag amrywiaeth o arbenigedd ar draws y bwrdd iechyd, gan gynnwys arweinwyr diogelu, nyrsys ysgol, nyrsys cymunedol, swyddogion ymgysylltu ac arweinwyr iechyd draw i ddysgu mwy am hawliau plant a sut y gall helpu i lywio eu gwaith. Adroddodd ein tîm cyfranogiad stori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: ei hanes, ei ddiben, a’i bwysigrwydd. Roedd cyfle i fynychwyr i weld sut y maen nhw’n cefnogi hawliau plant yn barod ac i gael syniadau ar gyfer gwneud mwy.
Diolch am yr adborth hyfryd hwn!
“Roedd y tîm yn wych ac yn ennyn diddordeb y tîm gan sicrhau cyfranogiad llawn. Roedd yn dda clywed beth mae eraill yn ei wneud yn y gofod cywir i blant.”
Heriwr
Mae ein tîm polisi yn herio a dal yr rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif ar y materion allweddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.
Ein hadroddiad blynyddol
Mae ein hadroddiad blynyddol diweddaraf yn manylu ar waith ein tîm yn ystod 2023/24, ac yn gwneud argymhellion yn y meysydd a ganlyn. I ddarllen yr argymhellion llawn, agorwch ein hadroddiad blynyddol ar ein gwefan
Gofal cymdeithasol i blant – rhianta corfforaethol
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth o’r siarter rhianta corfforaethol a’r nifer sy’n ymrwymo iddi, gan gynnwys gosod targedau ar gyfer ymrwymo iddi
Adolygiadau Diogelu Unedig Unigol (SUSRs)
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru nodi’n glir sut bydd y gwersi o bob adolygiad diogelu yn cael eu rhannu ar draws asiantaethau yng Nghymru, a rôl pwy fydd gwneud hynny’n rhagweithiol. Does dim pwynt cynnal adolygiadau os na chaiff gwersi eu rhoi ar waith yn ymarferol, yn ogystal â’u nodi.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Mae angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu canllawiau technegol i awdurdodau lleol ar roi Deddf a Chôd ADY ar waith.
- Mae angen i’r cyllid ar gyfer darpariaeth ADY fod yn glir ac yn gynaliadwy, er mwyn i chi fedru olrhain gwariant a sicrhau ei fod yn cyrraedd y plant sydd angen y ddarpariaeth.
Bwyd mewn ysgolion
- Rhaid i adolygiad Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau Safonau Maeth mewn Ysgolion adlewyrchu barn a phrofiad ystod amrywiol o blant.
- Er bod prydau ysgol ar gael am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, nid yw plant y mae eu teuluoedd ‘heb fynediad at gyllid cyhoeddus’ (NRPF) yn gymwys yn awtomatig. Yn Lloegr mae pob teulu NRPF yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Rydyn ni eisiau i Lyw odraeth Cymru newid y canllawiau i sicrhau bod holl blant teuluoedd NRPF yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Mynediad ceiswyr lloches a ffoaduriaid at wasanaethau
- Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei hamlygu fel rhwystr a mater allweddol i blant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches, er mwyn iddyn nhw fedru cael mynediad i’w hawliau
- Rydyn ni’n siomedig bod cynllun tocyn Croeso Llywodraeth Cymru wedi dod i ben ym mis Ebrill 2024, heb ddarpariaeth na chynnig yn ei le; mae angen rhoi sylw i hyn.
Hiliaeth a chydlyniant cymunedol
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru adolygu eu strategaeth cydlyniant cymunedol, a sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed fel rhan o’r gwaith yma..
- Roedd ein hadroddiad Cymerwch e o Ddifri, yn galw am adroddiadau cyson am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni eu haddewid i sefydlu’r mecanweithiau angenrheidiol er mwyn coladu data a chynhyrchu fformat adrodd cyson ar gyfer digwyddiadau hiliol ac aflonyddu mewn ysgolion a cholegau.
Cydraddoldeb i Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno sefydlu fforwm cymunedol i Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond ni welwyd cynnydd o ran hynny eto.
- Mae pryderon cyffredinol ynghylch ffigurau presenoldeb yn yr ysgol, ond mae presenoldeb disgyblion sy’n Sipsiwn wedi gostwng 12.4 pwynt canran i 70.6%, a phresenoldeb disgyblion sy’n Deithwyr wedi gostwng 21.9 pwynt canran i 63.3%.
Iechyd meddwl a llesiant
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25.
Rhaglen plentyn iach Cymru
- Yn 2022, ni ddigwyddodd dros 62,000 o’r cysylltiadau a ddylai fod wedi digwydd gydag ymwelwyr iechyd.
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd Rhaglen bresennol Plentyn Iach Cymru yn ystod y tymor Senedd hwn. Dylai’r adolygiad nodi disgwyliadau clir o ran amlder cyswllt/nifer yr ymweliadau.
Fêpio
- Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth o’r canllawiau newydd i ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25. Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mynediad at ymyriadau fel Therapi Amnewid Nicotin ar gael yn gyson ar draws Cymru, a bod plant a gwasanaethau cymorth yn ymwybodol o’r ymyriadau hyn.
Trafnidiaeth Cyhoeddus
- Rydyn ni’n parhau i godi’r alwad am drafnidiaeth gyhoeddus ddi -dâl ar bob cyfle gyda’r gweinidogion perthnasol. Ar draws ein hymweliadau ym mhob rhan o Gymru, mae costau ac argaeledd trafnidiaeth wedi parhau i godi fel pryder allweddol a rhwystr sy’n atal plant rhag derbyn eu hawliau.
Goleuo’r Gwir
Rydyn ni’n gweithio’n galed i oleuo profiadau plant a phobl ifanc, ac i’w defnyddio i greu newid.
Arddangosfa gyda phlant â phrofiad o ofal
Dyma enghraifft o ddyfyniad gan berson ifanc sydd â phrofiad o ofal a fydd yn rhan o’n harddangosfa yn y Senedd ar 12 Tachwedd.
‘Weithiau mae eich pethau mewn bagiau du. Doeddwn i erioed wedi berchen ar gês.’
Mae’n gyfle i gymryd barn a phrofiadau plant sydd â phrofiad o ofal yn uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ac i bwysleisio pwysigrwydd ymrwymiad eang i’r siarter rhianta corfforaethol.
Mae’r arddangodfa yn ganlyniad o fisoedd o waith ymgysylltu parhaus gyda grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae ein tîm wedi gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i ddod i’w hadnabod ac i allu eu helpu i adrodd eu straeon.
Diolch am ddarllen!
Byddwn ni’n cyhoeddi ein papur nesaf yn y gaeaf.
Yn y cyfamser, cofrestrwch i’n cylchlythyr misol