Darllenwch yr adroddiad: Siarter ar Gyfer Newid
Lawrlwythwch ein hadnoddau ar gyfer ysgolion a chlybiau ieuenctid
Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu’r ffyrdd gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd i helpu plant Cymru rhag effaith tlodi.
Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:
- Cyhoeddi Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer tlodi plant gyda chamau pendant, mesuradwy i wneud gwahaniaeth i deuluoedd ar unwaith
- Gwneud mwy o blant yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim
- Rhoi mynediad i fwy o blant i gynlluniau Gwyliau Llwglyd
- Gwneud mwy o deuluoedd yn gymwys i dderbyn grant i’w wario ar gostau ysgol fel gwisg ac offer
- Sicrhau bod polisïau gwisg ysgol ledled Cymru yn fforddiadwy, yn hyblyg, ac yn deg
I gyd-fynd gyda’r adroddiad, rydyn ni wedi creu adnoddau i helpu ysgolion ystyried effaith eu polisiau ar deuluoedd ac i gynllunio newidiadau gyda’u disgyblion.